Techniquest

Mae Techniquest wedi’i leoli ar: Stryd Stuart, Caerdydd, CF10 5BW.

Os ydych yn defnyddio what3words, ein cyfeirnod yw ///fairly.occupy.trucks.

Teithio mewn car / ar fws

Nid oes maes parcio i ymwelwyr ar safle Techniquest, heblaw am un safle sy’n gallu cael ei archebu trwy [email protected] / 029 2047 5475.

 

Maes Parcio Mermaid Quay

Nodwch mae maes parcio Mermaid Quay ar Stryd Stuart ar gau ar hyn o bryd.

Mae yna nifer o opsiynau wahanol i barcio o gwmpas Cei’r Fôr-forwyn, ond sicrhau eich bod yn gadael rhagor o amser ar eich ymweliad nesaf i ni.

 

Maes Parcio Stryd Havannah

  • Taith 5 munud
  • Safleoedd (safleoedd Bathodyn Glas): 238 (3)
  • Oriau agor: 24 awr y dydd
  • Côd post: CF10 5SG

Peidiwch â pharcio ar Stryd Havannah ei hun os gwelwch yn dda.

 

Maes Parcio Britannia Park

  • Taith 9 munud
  • Safleoedd (safleoedd Bathodyn Glas): 62 (3)
  • Oriau agor: 24 awr y dydd
  • Côd post: CF10 4PA

 

Q-Park

  • Taith 10 munud
  • Safleoedd (safleoedd Bathodyn Glas): 1,239 (74)
  • Oriau agor: 24 awr y dydd
  • Côd post: CF10 4PH
Q-Park Rydyn ni’n falch o gynnig parcio am gyfradd is i bob un o’n hymwelwyr, gyda Q-Park, ein partner parcio dewisol. Mae maes parcio Q-Park ar Stryd Pierhead, Bae Caerdydd, oddeutu 8 munud o gerdded o Techniquest.

Rydyn ni wedi cytuno ar gyfradd arbennig, sef gostyngiad o 15% ar bris parcio i’n cwsmeriaid os ydynt yn archebu gofod parcio ymlaen llaw.

Nodwch fod archebu ymlaen llaw gyda’r cod yn galluogi chi mwynhau’r gostyngiad, ond ddim yn gwarantu lle yn amserau prysur.

Archebwch ymlaen llaw a defnyddiwch y cod TECHNI15.

 

The Lock Keepers Cottage

  • Taith 12 munud
  • Safleoedd (safleoedd Bathodyn Glas): 56 (2)
  • Oriau agor: 24 awr y dydd
  • Côd post: CF10 4PA

 

Maes Parcio Canolfan y Ddraig Goch

  • Taith 14 munud
  • Safleoedd (safleoedd Bathodyn Glas): 900 (42)
  • Oriau agor: 24 awr y dydd
  • Côd post: CF10 4JY

Teithio ar drên

Mae gwasanaethau trên rheolaidd rhwng Stryd y Frenhines, Caerdydd a Bae Caerdydd – mae Techniquest oddeutu 10 munud o gerdded o Orsaf Bae Caerdydd.

Mwynhewch 25% oddi ar eitemau’r siop anrhegion pan fyddwch chi’n dangos eich tocyn rheilffordd TrC ar ddydd eich ymweliad.

  Trainline   National Rail  Trafnidiaeth Cymru

Teithio ar fws

Teithiwch ar wasanaeth rheolaidd y Bae (rhif 6) am linc uniongyrchol i’r Bae o ganol y ddinas, neu rifau 1, 2, neu 8 am wasanaethau eraill.

Mae yna wasanaethau bws eraill yn stopio wrth Techniquest — gwelwch wefan Traveline neu wasanaethau cynllunio taith eraill i weld yr holl opsiynau posib.

  Traveline Cymru   Cardiff Bus

Teithio ar feic

Mae Techniquest wedi’i leoli yn agos at gychwyn Taith Taf. Mae gennym ni gyfleusterau storio beiciau wrth y brif fynedfa. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw achos o golli neu ddifrodi unrhyw feiciau a gadwir yma.

Mae yna ganllaw ar y wefan You Well am logi beiciau a beiciau trydanol yng Nghaerdydd, a allai fod yn ddefnyddiol i chi:

  You Well