Techniquest

Ydych chi’n trefnu taith ysgol, yn chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer eich gwersi neu’n addysgu eich plentyn gartref? Edrychwch dim pellach, rydyn ni yma i’ch helpu chi!

O addysg gynradd i addysg bellach, mae Techniquest yn cynnig profiad dysgu unigryw drwy ymgysylltu unigolion â gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).

Mae’r ardal Gyfalaf Gwyddoniaeth yn ymdrin â phum thema: y gofod, cemeg, gwyddoniaeth fiofeddygol, yr amgylchfyd a materion y byd. Mae’r ardal ‘Retro’ yn gartref i arddangosion ymarferol a phosau sydd wedi hen ennill eu plwyf fel ffefrynnau gydag ysgolion a theuluoedd.