Techniquest

Mwynhewch baned a thamaid blasus yn Coffee Mania, y siop goffi sydd ar ein safle. Gallwch ddod o hyd i Coffee Mania drws nesaf i’n prif fynedfa, neu drwy ddod drwy brif gyntedd Techniquest.

Gyda gwledd o fyrbrydau blasus, pecynnau bwyd i blant, cacennau danteithiol a digonedd o ddewis o ddiodydd poeth ac oer, gan gynnwys opsiynau sy’n rhydd o glwten ac opsiynau feganaidd, dyma’r lle perffaith i gymryd egwyl fach, neu gyfarfod ffrindiau.

coffee mania counter at techniquest

Peidiwch â phoeni os fyddwch chi angen gadael Techniquest, dim ond eich bod chi’n parhau i wisgo eich band arddwrn gallwch ddychwelyd i’r arddangosfa a pharhau eich ymweliad ar ôl eich paned.

Nid oes angen tocyn Techniquest i fwynhau Coffee Mania. Mae croeso i chi ymweld â’r siop goffi unrhyw bryd y byddwch yn ymweld â’r bae. Cymerwch olwg ar eu gwefan i weld yr amseroedd agor.

ARDAL BICNIC

Yn gyffredinol, ni chaniateir bwyd a diod yn yr ardaloedd arddangos yn Techniquest — er mwyn gwarchod y gwaith rhag difrod.

Fodd bynnag, mae yna ardal bicnic a neilltuwyd yn arbennig. Gallwch weld yr ardal ar y map. Mae hi wedi’i lleoli’n agos at y porth sioeau yng ngorllewin yr adeilad. Yn y fan honno, mae croeso i chi fwynhau eich bwyd a diod pryd bynnag yr hoffech.

GORSAFOEDD DŴR

Gwyddwn fod Techniquest yn adeilad cynnes, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf. Felly, rydyn ni wedi gosod dwy orsaf ddŵr ar gyfer ymwelwyr. Mae un wedi’i lleoli ar y llawr gwaelod ger yr ystafell gotiau, a’r llall i fyny’r grisiau ger yr Ardal Chwarae Rôl.

CEI’R FORWYN

Os ydych chi’n chwilio am bryd o fwyd mwy sylweddol, mae detholiad gwych o fwytai yng Nghei’r Forwyn, tafliad carreg o Techniquest.

Gweler eu gwefan am fanylion pellach ac amseroedd agor y bwytai.