Techniquest

Wedi’i leoli ger y glannau yng nghalon Bae Caerdydd, mae gan Techniquest dros 100 o arddangosion ymarferol sy’n gadael i chi brofi gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg mewn ffordd hwyliog a chyffrous.

Fel un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd pob tywydd i deuluoedd yng Nghymru, mae Techniquest bellach yn cynnig rhywbeth i blant ac oedolion o bob oed. Wrth i chi ddod i mewn i’r adeilad fe welwch y ‘Science Capital’, sydd â phum parth gwahanol sy’n ffocysu ar y gofod, yr amgylchfyd, cemeg, materion y byd a gwyddoniaeth fiofeddygol.

Yn ogystal â’r rhain, fe welwch gasgliad o arddangosion clasurol Techniquest ar ochr Retro yr adeilad. Dyma le gwych i blant ifanc eich grŵp: Mae’r ardal ddŵr, y piano anferthol a’r ardal gwylio morgrug yn ffefrynnau oesol.

Beth am danio dychymyg aelodau ieuengaf y grŵp? Bydd plant rhwng tri a chwe blwydd oed wrth eu boddau yn yr Ardal Chwarae Rôl newydd ar y llawr cyntaf: ewch i fyny’r grisiau, tu ôl i’r fraich robot, wrth yr ardal bicnic.

Ac mae mwy! Mae yna sioeau gwyddoniaeth byw yn yr awditoriwm; Planetariwm 360° glyd a’r Lab KLA lle mae modd mwynhau gweithdai drwy gydol y flwyddyn. Cymerwch olwg ar y calendr i weld beth sy’ mlaen yn ystod eich ymweliad chi, a chofiwch glicio ‘ychwanegu’ er mwyn ychwanegu’r profiad wrth brynu eich tocynnau cyffredinol.

Hen neu ifanc, mae byd o ffeithiau difyr i’w ddarganfod, a chyfle i archwilio gwyddoniaeth drwy beiriannau anhygoel, dyfeisiau rhyfeddol, posau a phyrth digidol diri.

Y lle perffaith i dreulio amser gyda’r teulu, i fwynhau gyda ffrindiau, i addysgu’r genhedlaeth nesaf neu ddarganfod gwyddoniaeth yn hwyrach mewn bywyd. Mae gwledd wyddonol yn aros amdanoch chi, waeth be fo’ch oedran. Cymerwch eich amser i ddarganfod pa arddangosion sydd o ddiddordeb i chi.

Does dim pwysau arnoch chi i ddysgu mewn dyfnder yn ystod eich ymweliad. Ond beth am ychwanegu xTag tra’ch bod chi yn Techniquest? Drwy wneud hynny gallwch gael rhagor o wybodaeth pan fyddwch chi wedi cyrraedd adre. Cofiwch ei gadw’n ddiogel fel y gallwch ei ddefnyddio ar eich ymweliad nesaf.

Efallai eich bod chi am gael hwyl a sbri efo’r plant a chreu atgofion arbennig yn lle dysgu’n ddwys. Mae hynny’n iawn hefyd wrth gwrs. Mae’r profiad corwynt a’r llithren arian anferthol yn sicr o godi gwên!

Mae Teras y Dwyrain bellach yn gartref i ardd synhwyraidd. Ewch yno i weld, teimlo ac arogli’r amrywiaeth o blanhigion, neu cymerwch hoe fach o’r arddangosion, eisteddwch a mwynhau’r olygfa ar draws y bae.

Mae miliynau o bobl wedi mwynhau treulio amser yn Techniquest dros y blynyddoedd, a bellach mae rhywbeth yma i ddiddanu pawb o bob oed. Gydag estyniad ‘Science Capital’ mae Techniquest wedi tyfu o ran maint ac wedi tyfu i fyny hefyd. Mae technoleg hen a newydd wrth law i wneud gwyddoniaeth yn hwyliog ac yn hygyrch i bob cenhedlaeth. Trwy brofiadau ymarferol a llawn hwyl mae dysgu a chofio pethau newydd.

Os ydych chi’n ymweld â ni am y tro cyntaf ac yn brin o amser mae Taith 3D a chanllaw bach i ambell i uchafbwynt ar gael yma:

Agorwch y daith mewn ffenest newydd. Gyda diolch i Picture It 360.

Map o Techniquest

  Agor y map

Beth bynnag fo’ch oedran, a faint bynnag neu gyn lleied y credwch eich bod yn ei wybod am wyddoniaeth, mae digon i’w weld a’i ddarganfod ar ymweliad i Techniquest.

Elusen

Fel elusen, rydyn ni’n dibynnu ar gefnogaeth ein hymwelwyr a’n cyllidwyr i gadw i fynd. Mae unrhyw rodd, mawr neu fach, yn ein helpu i gadw ein drysau ar agor, croesawu mwy o ymwelwyr, gweithio gydag ysgolion a galluogi mwy o bobl i brofi a mwynhau gwyddoniaeth gyda ni bob blwyddyn.

Os gallwch chi helpu drwy roi rhodd neu ychwanegu Cymorth Rhodd at eich tocyn pan fyddwch yn archebu, yna diolch!

Darganfod mwy