Techniquest

Nid yw hi’n sgwrs hawdd i’w chael, ond os ydych chi’n ystyried ac yn trafod eich ewyllys, mae gadael cymynrodd i Techniquest yn ffordd i wneud cyfraniad o bwys i’r genhedlaeth nesaf.

Nid yw’n costio ceiniog nawr, ond mae gadael rhodd yn eich ewyllys yn ffordd o wneud gwahaniaeth go iawn i gymunedau Cymru’r dyfodol. Mae’n ffordd arbennig o ddathlu diddordeb gydol oes yng ngwyddoniaeth, a rhoi’r cyfle i eraill feithrin yr un diddordeb.

Mae Techniquest yn ddibynnol ar roddion elusennol i barhau ein gwaith. Bob blwyddyn mae angen i ni godi oddeutu £1.3 miliwn fel y gallwn ni leihau’r bwlch sgiliau yng Nghymru ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).

Mae gadael cymynrodd yn ffordd o’n helpu ni i addysgu arweinwyr y sector yn y dyfodol, hyd yn oed ar ôl i chi ein gadael ni.

Sut i adael rhodd i TECHNIQUEST yn eich ewyllys

Mae’n hawdd i’w wneud, ond y ffordd orau yw defnyddio cymorth cyfreithiwr i sicrhau bod eich rhodd yn ein cyrraedd ni. Mae’n bwysig cofio cynnwys ein henw, cyfeiriad a rhif elusen:

Techniquest
Stryd Stuart, Caerdydd, CF10 5BW
Rhif Elusen: 517722

Os oes gennych chi ewyllys eisoes a hoffech gynnwys rhodd i Techniquest, efallai na fydd raid ail ysgrifennu eich ewyllys. Mae’n bosib gofyn i weithiwr proffesiynol cymwysedig, megis cyfreithiwr i ychwanegu diwygiad (a elwir yn godisil). Os yw’r newid yn fwy sylweddol neu’n fwy cymhleth mae’n bosib y bydd angen i chi ysgrifennu ewyllys newydd.

Mae dau fath o rodd yn bosib o fewn ewyllys:

  1. Gallwch adael swm penodol o arian neu eitem megis gemwaith neu ddarn o waith celf.
  2. Neu ar ôl i deulu a ffrindiau dderbyn rhodd o’ch ewyllys, gallwch adael rhan o’r swm sydd ar ôl neu’r gweddill yn ei chyfanrwydd.

Mantais gadael rhan o swm (rhodd weddilliol) yw bod y swm yn aros yr un peth dros amser a ni fydd angen newid eich ewyllys i adlewyrchu chwyddiant. Dyma’r rhodd fwyaf gwerthfawr i Techniquest.

Beth bynnag yw eich rhodd, byddwch yn gwneud cyfraniad gwerthfawr tu hwnt i Techniquest ac yn rhoi profiadau STEM arbennig i genedlaethau’r dyfodol.

Er cof

Mae rhodd ‘er cof’ yn ffordd ystyrlon o ddathlu bywyd anwyliaid. Efallai bod eich anwyliaid wrth eu bodd yn ymweld â Techniquest fel plentyn, neu wedi mwynhau treulio amser yma gyda’u teulu, neu efallai bod ganddynt chwilfrydedd ac angerdd am wyddoniaeth. Beth bynnag yw’r rheswm, byddem wrth ein boddau’n sgwrsio gyda chi i weld sut gallai rhodd yn eu henw ddathlu eu bywyd.

I ddarganfod mwy am adael rhodd yn eich ewyllys neu wneud cyfraniad er rhodd am anwyliaid, cysylltwch â ni.