Techniquest

Techniquest yw’r lleoliad perffaith ar gyfer cinio ffurfiol gyda’r nos, ym Mae Caerdydd.

Mae cinio gyda’r nos yn berffaith ar gyfer diddanu cleientiaid neu fel rhan o seremoni wobrwyo, ac mae Techniquest yn lleoliad unigryw a hwyliog. Mae lle i hyd at 200 o westeion ac mae digonedd o bethau i’w gweld ac i’w gwneud yn Techniquest – y lle perffaith i ddiddanu’ch gwesteion.

MAE PECYNNAU CINIO YN CYNNWYS:

  • Defnydd ecsgliwsif o Techniquest rhwng 7pm a 11pm
  • Pryd o fwyd 3-chwrs blasus.
  • Ystafell gotiau gydag aelod o staff penodedig
  • Tîm diogelwch i ofalu am eich rhestr o westeion
  • Sgriniau ar gael ar gyfer brandio
  • Byrddau a chadeiriau ciniawa
  • Bar
  • Cerddoriaeth gefndirol
  • Rheolwr Digwyddiadau penodedig

CYSYLLTWCH Â NI

Cysylltwch â’n tîm i drafod eich anghenion. Gallwn gynnig cyngor ac amrywiaeth eang o ddigwyddiadau.  E-Bostiwch ni   029 2047 5475

Bwydlen Enghreifftiol ar Gyfer Cinio Gyda'r Nos

Dewiswch gwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin (yn ogystal ag opsiwn llysieuol) o’r dewis tymhorol:

Cwrsiau Cyntaf Enghreifftiol

Coftas cig oen gyda sbeis ysgafn, gyda melon dŵr rhoddedig, iogwrt rhosyn a bara pidina

Briwgig hwyaden, tatws wedi’u crasu, afal, jam nionod, perlysiau gwyllt

Velouté pwmpen cnau menyn a crème fraiche gyda chenhinen syfi a focaccia sarrug (Ll)

Tarten nionod a chaws geifr (Ll)

Prif Gyrsiau Enghreifftiol

Brest cyw iâr organig, cacen datws ‘colcannon’, llysiau gwyrdd, saws mwstard a chenin

Cig eidion, garnais bourguignon, stwmp garlleg wedi’i rostio, llysiau wedi’u rhostio gyda saws

Ysbinbysg y môr, ffenigl, stwmp tomato a gorthyfail, planhigyn wy wedi’i rostio

Strŵdel llysiau wedi’u rhostio a gorbysen, saws pupur coch, tatws newydd wedi’u rhostio (Ll)

Pwdinau Enghreifftiol

Tarten lemon gyda hufen tolch

Marquise siocled, crymbl cneuen bistasio, sorbet mafon

Tarten driog cartref, crwst pecan, hufen ia fanila

Crème brûlée fanila gyda Theisen frau cartref


Gallwn ddarparu bwyd ar gyfer anghenion dietegol arbennig.

Cysylltwch â ni drwy ffonio 029 2047 5475 neu e-bostiwch [email protected] i drafod sut y gallwn ni eich helpu chi drefnu’r digwyddiad perffaith.