Techniquest

Bellach gallwch gynnal profiad theatr byw Techniquest heb adael eich dosbarth!

Rydyn ni wedi digideiddio ein sioeau gwyddoniaeth byw er mwyn dod ag adnoddau dysgu ac addysgu STEM cyffrous a rhyngweithiol i’ch dosbarth. Felly peidiwch â phoeni os na fedrwch chi ddod I Techniquest… gallwn ni ddod atoch chi!

Gall ysgolion brynu un o’n sioeau — sy’n cynnwys deunydd fideo rhyngweithiol a phecynnau o adnoddau y gellir eu lawrlwytho. Mae’r pecynnau yn fforddiadwy ac ar gael am 21 diwrnod ar ôl eu prynu.

Mae pob sioe yn cynnwys themâu allweddol o’r Cwricwlwm newydd yng Nghymru ac mae nifer wedi’u peilota’n llwyddiannus mewn ysgolion yng Nghymru.

The Waterloo Foundation

Mae’n bosib y bydd eich ysgol yn gymwys ar gyfer Pecyn Digidol am ddim, diolch i’n ffrindiau o sefydliad Waterloo. Maent wedi cyfrannu cyllid tuag at ein Rhaglen Allgymorth Digidol eleni — gweler fanylion isod.


SIOEAU AR GAEL

CAM CYNNYDD 2 / Y CYFNOD SYLFAEN

Popeth Amdanaf I
Mae Gruff, ein cyflwynydd, yn y ffair. Dewch i’w helpu i archwilio’r corff dynol a’r synhwyrau, gyda llu o bosau a heriau hwyliog ar hyd y ffordd. Mae’r sioe ryngweithiol boblogaidd yma yn annog disgyblion i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau. Byddant yn edrych ar rannau o’r corff, yn dysgu sut rydyn ni’n defnyddio ein synhwyrau ac yn dod i ddeall mwy am y gwahaniaethau rhyngom ni ac anifeiliaid eraill.

Ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

  Gweler yr adnoddau addysgol cysylltiedig
Anifeiliaid a Chynefinoedd
Ymunwch â ni ar daith i gynefinoedd gwahanol – o rai mwy cyfarwydd i rai llai cyffredin ym mhob cwr o’r byd. Byddwn yn defnyddio sgiliau rhifedd a llythrennedd i edrych ar y cynefinoedd a’r anifeiliaid sy’n perthyn iddynt. Byddwn yn edrych yn fanwl ar yr anifeiliaid i weld beth yw eu nodweddion arbennig a pham eu bod yn ffynnu yn eu cynefinoedd penodol.

Ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

  Gweler yr adnoddau addysgol cysylltiedig
Taith Deinosor
Ar ôl archwilio ffosilau traethau De Cymru a pharatoi am antur, beth am fynd ar antur gyda Bethan yn ei pheiriant amser, a theithio nôl 65 miliwn o flynyddoedd? Helpwch Bethan wrth iddi deithio i’r traeth a dod i ’nabod ymlusgiaid cynhanes enwog o’r tir a’r môr. Byddwn yn dysgu llawer amdanynt – o’r bwyd roeddent yn ei fwyta i ba nodweddion roedden yn eu rhannu gydag anifeiliaid eraill sy’n bodoli heddiw.

Ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

  Gweler yr adnoddau addysgol cysylltiedig

CAM CYNNYDD 3 / CYFNOD ALLWEDDOL 2

Anifeiliaid a Chynefinoedd
Dewch ar daith o amgylch gwarchodfa anifeiliaid Techniquest a sylfaenwyd i astudio anifeiliaid mewn perygl. Yn anffodus mae’r anifeiliaid wedi dianc i gynefinoedd ei gilydd. Gyda’n cyflwynydd byddwch yn dysgu am nodweddion arbennig y cynefinoedd a pha anifeiliaid sy’n fwyaf tebygol o fyw yna’n hapus.
Byddwn yn edrych ar sut mae’r anifail yn gallu addasu, pam eu bod nhw’n dewis mannau arbennig yn gartref, ac yn dysgu am y bwyd maent yn ei hoffi a sut y dylem ni eu bwydo nhw.

Ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

  Gweler yr adnoddau addysgol cysylltiedig
Cemeg Lliwgar
Dewch i ddarganfod pam mae gwyddonwyr yn defnyddio lliw mewn gwaith cemeg, a pham fod lliwiau mor ddefnyddiol. Byddwn yn dysgu beth yw lliw a sut gaiff lliwiau eu defnyddio yn ein bywydau bob dydd yn ogystal â deall mwy am sut gallwn ddefnyddio adweithiau cemegol i wneud pethau defnyddiol a hardd. Cyfle hefyd i ddysgu am un arbrawf hawdd i chi ei wneud gartref.

Ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

  Gweler yr adnoddau addysgol cysylltiedig
Erlidwyr Comed
Dewch i gyfarfod Richie Gold, egin ofodwr a biliwnydd sydd a’i bryd ar gloddio am asteroidau yn y gofod! Drwy ei brif wyddonydd byddwn yn dysgu am gomedau ac asteroidau a’r heriau sy’n wynebu gwyddonwyr sydd am eu hastudio. Bydd y fideo yn cynnwys: Geirfa — beth yw’r gwahaniaeth rhwng seren wib a gwibfaen; o beth mae asteroidau a chomedau wedi’u creu; pam oes gan gomed gynffon; beth sy’n digwydd pan mae asteroid yn gwrthdaro â phlaned; pam fod sêr gwib yn llosgi yn yr atmosffer; adnabod comedau ac asteroidau gyda thelesgop; telesgopau drych a thelesgopau’r gofod; sbectrosgopeg; yr heriau sy’n glwm â dod ag eitemau mawr yn ôl i’r Ddaear.

Ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

  Gweler yr adnoddau addysgol cysylltiedig
Taith Deinosor
Nid dinosoriaid oedd yr unig anifeiliaid cynhanes! Er bod ymlusgiaid wedi teyrnasu am filiynau o flynyddoedd, yn y sioe hon byddwn yn dangos bod gan ddinosoriaid gymaint yn fwy i’w gynnig na’r dannedd mawr a’r crafangau enwog sydd i’w gweld mewn ffosilau. Dysgwch sut i redeg fel velociraptor, cnoi fel tyrannosaur, hedfan fel pterosaur a gwyliwch asteroid yn llosgi drwy’r atmosffer o ddiogelwch eich dosbarth.

Ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

  Gweler yr adnoddau addysgol cysylltiedig
Ffermio Heddiw — Cipolwg ar Gefn Gwlad
Dewch i dreulio amser gyda ffermwyr gwahanol sydd oll yn ceisio gwneud rhywbeth i helpu’r amgylchfyd. Mewn arddull ‘newyddion yn torri’ byddwn yn edrych ar sut mae’r ffermwyr yn defnyddio’r gylchred garbon i helpu ein hamgylchfyd, a bydd ein dyn tywydd yn edrych ar effeithiau nwy tŷ gwydr ar ein hinsawdd a’r hyn mae ffermwyr yn ei wneud i helpu. Fe glywn gan ffarmwr llaeth am y newidiadau mae ffermwyr yn eu gwneud i fod yn fwy ecogyfeillgar. Bydd ein cyflwynydd chwaraeon yn cynnal cystadleuaeth i weld sut mae’r ffermwyr yn trin eu pridd i helpu ein hafonydd pan fydd hi’n bwrw glaw. Ac i gloi byddwn yn edrych ar sut mae’r ffermwyr yn addasu eu tir i ddenu planhigion ac anifeiliaid.

Ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Ysgol yr Ysbrydion
Croeso i Ysgol yr Ysbrydion! Byddwn yn defnyddio gwyddoniaeth a thechnoleg i wneud y mwyaf o ddathliadau Calan Gaeaf! Bydd ein disgyblion yn Ysgol yr Ysbrydion yn dysgu am foddion gwrachod, yn creu mygydau erchyll ac yn mwynhau ambell i syrpreis iasol, llawn hwyl! Peidiwch â cholli allan ar hwyl a sbri Calan Gaeaf chwi ellyll!

Ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Sioe’r Corff Dynol
Rydyn ni’n cychwyn o smotyn bychan ac yn tyfu’n oedolion — waw! Dewch i ddysgu sut rydyn ni’n newid dros amser. Byddwn yn dysgu am y corff dynol — o’r esgyrn hiraf i’r rhai lleiaf, a sut mae ein horganau yn gweithio. Dewch i ddeall mwy am eich curiad calon, sut rydyn ni’n anadlu a beth sydd angen i ni ei wneud i gadw ein cyrff yn iach, yn y fideo rhyngweithiol yma.

Ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

  Gweler yr adnoddau addysgol cysylltiedig
Allan o’r Byd
Dewch i ddilyn TechniSpace, sefydliad archwilio’r gofod newydd sydd am lansio’i ofodwr cyntaf i’r Orsaf Ofod Rhyngwladol. Gwyliwch wrth i’r Prif Wyddonydd, y gofodwr a’r Bos ddelio â rhai o heriau gofod-deithio. Sut fydd y gofodwr yn cyrraedd yr Orsaf? Pa beryglon fydd yn aros amdanynt a sut fydd y prif Wyddonydd yn sicrhau taith ddiogel gartref? Mae’r fideo yma’n archwilio’r ffiseg a’r fioleg sy’n annatod i ofod-deithio — o ddeddfau mudiant Newton i fwyd y gofod. Dyma’r themâu sy’n gynwysedig yn y fideo a’r adnoddau cysylltiedig: • Deddf Mudiant Newton • Iechyd corfforol gofodwyr • Sbwriel y Gofod • Effeithiau gwactod ar y corff • Dychwelyd i atmosffêr y Ddaear • Bwyd a dŵr yng Ngorsaf Gofod Rhyngwladol (ISS) • Rocedi a ffilmiau o lansio roced go iawn.

Ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

  Gweler yr adnoddau addysgol cysylltiedig
Sioe y Pegynau
Dewch i ddysgu mwy am begwn y gogledd a phegwn y de — yr hyn sy’n digwydd yno heddiw a beth mae hyn yn ei olygu i ddyfodol ein planed. Byddwch yn dysgu am stori anffodus y fforiwr Robert Scott a’r hyn y mae gwyddonwyr yn ei wneud yno heddiw. Dysgwch am yr heriau maent yn eu hwynebu a’r ffordd maent yn troi at anifeiliaid a phlanhigion am ysbrydoliaeth wrth eisio datrys yr heriau. Darganfyddwch y gwahaniaeth rhwng pegwn y gogledd a’r de. Byddwn yn dysgu fwy am wyddoniaeth amgylcheddol a’i bwysigrwydd heddiw.

Ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Victorian Medicine
Cyflwyniad i feddyginiaeth yn ystod Oes Fictoria gan Roger Morgan. Dysgwch am fywyd heb anesthetig, am y llawfeddygon medrus oedd yn gorfod gweithio’n gyflym, a sut newidiodd bywyd dros amser.

Ar gael yn Saesneg yn unig.

CAM CYNNYDD 4 / CYFNOD ALLWEDDOL 3

Newid Hinsawdd
Ymunwch â ni wrth i ni edrych ar newid hinsawdd ein planed. Byddwn yn ymchwilio effaith dynol ac achosion naturiol o newid hinsawdd a'r hyn y gallwn ni ei wneud i leihau’r effaith ar ein planed.

Ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

  Gweler yr adnoddau addysgol cysylltiedig
STEM mewn Chwaraeon gyda’r Dreigiau
Gyda help tîm rygbi'r Dreigiau byddwn yn edrych ar sut mae gwyddoniaeth yn chwarae rhan bwysig ym myd chwaraeon a sut mae athletwyr yn defnyddio STEM i aros ar y brig.

Byddwn yn edrych ar ddeiet a maeth athletwyr a’r hyn sydd ei angen arnynt i berfformio ar eu gorau. Byddwn yn edrych ar sawl math o chwaraeon gan ddysgu am yr holl elfennau pwysig. Drwy ddeall elfennau gwyddonol mae athletwyr yn gallu gwella ar eu perfformiad — o ddeall am ffrithiant mewn sgrym, neu wybod am y ffordd orau i basio pêl — mae deall STEM yn gallu rhoi mantais arbennig i athletwyr.

Ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Fyny ac Atom: Adweithiau Bywyd Go Iawn
Eich ffôn. Eich arian. Eich cinio. Dyma ambell i enghraifft o’r ffordd mae cemeg yn chwarae rhan hollbwysig yn ein bywydau bob dydd. Mae popeth sy’n bodoli heddiw yn bodoli oherwydd cemeg. Ymunwch a ni wrth i ni fentro i fyd o gemeg — i ddeall hanfodion syml strwythurau cemegol, adweithiau ffrwydrol, a dysgu am y bobl hynny sy’n defnyddio cemeg bob dydd i wneud bywyd yn haws i bob un ohonom ni.

Ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

  Gweler yr adnoddau addysgol cysylltiedig
Gwyddonwyr Cymraeg / Cymru, STEM a’r Byd
Mae Cymru wedi chwarae rhan bwysig yn y byd gwyddonol, er mor fach yw ein gwlad ni. Dros y blynyddoedd mae Cymru wedi ysbrydoli ac annog gwyddonwyr o bob cwr o’r byd. Ymunwch â ni wrth i ni edrych ar gyfraniadau arbennig arloeswyr Cymreig a darganfyddwch sut mae gwyddonwyr yng Nghymru heddiw ar flaen y gad gyda darganfyddiadau newydd. Byddwn yn edrych hefyd ar sut mae’r wyddoniaeth sy’n digwydd yng Nghymru heddiw yn siapio’r byd am flynyddoedd maith.

Ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

FAINT MAE E’N COSTIO?

Mae’n costio £50 fesul sioe, sy’n rhoi hyd at 4 cod mynediad, sef mynediad i hyd at 4 dosbarth.

Unwaith y byddwch wedi agor y cod mae gennych chi 21 diwrnod i edrych ar y cynnwys, cynllunio a lawrlwytho unrhyw adnoddau cysylltiedig ar gyfer eich disgyblion.

Mae’n bosib y bydd eich ysgol yn gymwys i dderbyn sioeau AM DDIM. Rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau bod cyllid ar gael i gefnogi ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig sydd â lefel uchel o amddifadiad. Cysylltwch â ni os ydych chi’n meddwl y gallai’ch ysgol fod yn gymwys.

O.N. Mae hyn yn ddibynnol ar gyllid ac ni allwn ei warantu.

BETH YW’R DULL TALU?

Ar ôl i chi dderbyn Cod Mynediad bydd Techniquest yn anfon anfoneb at eich ysgol.

SUT I ARCHEBU

I archebu sioe ddigidol, gofynnwn i chi gwblhau a chyflwyno’r ffurflen ymholi isod.