Techniquest

Techniquest yw’r lleoliad perffaith ar gyfer cyfarfodydd busnes, dyddiau tîm neu gynadleddau yng Nghaerdydd.

Mae’r ardal Arddangos, y Theatr Wyddoniaeth ac Ystafell y Bwrdd ar gael drwy’r dydd ac mae modd trefnu’r ystafell mewn arddull Theatr, U Bedol, Cabaret ac Ystafell y Bwrdd — yn dibynnu ar eich anghenion. Gall y Rheolwr Digwyddiadau hefyd gynnig ystafelloedd cyfarfod ychwanegol ar gyfer eich digwyddiad.

Mae ein pecynnau yn cynnwys llogi ystafell, cinio ac offer cynhadledd.

CYSYLLTWCH Â NI

Mae ein tîm cynadledda yn deall pwysigrwydd cynnal digwyddiadau mewn mannau eraill, y tu hwnt i’ch swyddfa bob dydd. Yn ogystal â chyfleusterau gwych, mae ein tîm brwdfrydig yma i’ch helpu chi i sicrhau bod eich digwyddiad yn llwyddiannus ac yn gofiadwy.

  E-bostiwch ni   029 2047 5475

Pam Dewis Techniquest ar Gyfer Eich Cyfarfod Nesaf?

  • Mae ein hystafelloedd wedi’u haddasu’n arbennig ar gyfer cynnal cyfarfodydd a chynadleddau
  • Mae gennym ni offer clyweledol (AV) sydd wedi’i integreiddio, sy’n golygu bod hi’n hawdd cynnal cyflwyniadau a dangos fideo
  • Gallwch ychwanegu weithgareddau hwyliog meithrin tîm at unrhyw becyn cynhadledd
  • Mae Wi-Fi ar gael heb rwystr ar draws yr adeilad cyfan
  • Rydyn ni’n cynnig pecynnau cynhwysfawr – sy’n tynnu’r straen oddi wrthoch chi wrth drefnu’r digwyddiad
  • Mae’n hawdd cyrraedd ein canolfan gan ddefnyddio ffordd gyswllt yr A4232, ac mae digonedd o le parcio gerllaw

Bwydlen Enghriefftiol ar Gyfer Cynhadledd Diwrnod Cyfan

Wrth Gyrraedd

Croissants a chacennau Danaidd, te a choffi Cymreig, detholiad o de Twinings, bowlen o ffrwythau, sudd oren

Egwyl y Bore

Te a choffi Cymreig, detholiad o de Twinings, detholiad o fisgedi wedi’u lapio’n unigol, poteli o ddŵr, sudd oren

Cinio

Detholiad o frechdanau blasus ar fara newydd ei bobi, dau ddewis sawrus, plât mawr o ffrwythau, dau bwdin bychan. Gallwn gynnig addasiadau ar gyfer anghenion dietegol. Te a choffi Cymreig, sudd oren, poteli o ddŵr

Egwyl Prynhawn

Te a choffi Cymreig, detholiad o de Twinings, poteli o ddŵr, sudd oren


Gallwn ddarparu bwyd ar gyfer anghenion dietegol arbennig.

Cysylltwch â ni drwy ffonio 029 2047 5475 neu e-bostiwch [email protected] i drafod sut y gallwn ni eich helpu chi drefnu’r digwyddiad perffaith.