Techniquest

Fel elusen gofrestredig, rydyn ni’n dibynnu ar gymuned o unigolion, busnesau, ymddiriedolaethau a sefydliadau sy’n rhannu ein meddylfryd, i wneud ein gwaith pwysig.

Mae eu cefnogaeth yn ein galluogi ni i helpu plant a phobl ifanc i brofi a mwynhau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM). Mae’n ein helpu ni i agor llwybrau gyrfa newydd i bobl ifanc ym myd STEM, ac i ysbrydoli oedolion i ymwneud â gwyddoniaeth.

Drwy godi proffil gyrfaoedd STEM, ein bwriad yw mynd i’r afael â’r bwlch sgiliau sydd yng Nghymru; bwlch sy’n effeithio ar yr economi ac ar iechyd a lles y rheiny sy’n rhan o’r sector.

Mae nifer o ffyrdd y gallwch chi ein cefnogi ni, pa un ai a ydych yn unigolyn, yn fusnes neu’n sefydliad sy’n rhoi grantiau:

Gyda’ch cefnogaeth chi rydyn ni’n sicrhau bod gwyddoniaeth yn hygyrch ac yn berthnasol i bawb – diolch!