Techniquest

Nid i blant yn unig mae Techniquest…

Ar adegau drwy gydol y flwyddyn rydyn ni’n cynnal digwyddiadau gyda’r nos i oedolion yn unig ar ôl cau’r drysau. Dyma gyfle i’r rheiny dros 18 oed i ddod i weld yr arddangosfeydd gyda’u ffrindiau, a mwynhau mewn awyrgylch hamddenol.

Gan amlaf mae yna far a bwyd ar gael, a llu o brofiadau gwahanol yn y theatr wyddoniaeth, y planetariwm a’r labordy. Byddwn hefyd yn cyflwyno gwesteion arbennig, er mwyn dod â gwyddoniaeth yn fyw i bawb dros 18 oed!

Ewch i’n calendr i weld pryd cynhelir y digwyddiadau nesaf.

Wedi’i ffilmio yn Adult Lates: Making Waves, Yr Haf 2023

Caffi Gwyddoniaeth Dros-50

O bryd i’w gilydd rydym yn rhedeg Caffi Gwyddoniaeth Dros-50 oed, fel bod y rheini o flynyddoedd hŷn yn gallu cael profiad ymarferol yn Techniquest. Mae’n gyfle i gadw meddyliau’n heini a chymryd amser i fwynhau dysgu mwy am wahanol bynciau gwyddonol, wrth i ni groesawu gwesteion o brifysgolion, elusennau a sefydliadau ymchwil i rannu rhywfaint o’u gwybodaeth gyda ni.