Techniquest

Trefnwch barti pen-blwydd bythgofiadwy!

Gall trefnu parti fod yn waith caled… beth am roi’r gwaith i ni — gallwch chi fwynhau’r miri, heb boeni am y trefnu na’r glanhau wedyn!

Mae ein partïon wedi’u cynllunio ar gyfer plant 3–12 oed, ac yn cynnwys y canlynol:

  • Amser i’r plant fwynhau’r ddau lawr o arddangosfeydd, sy’n cynnwys dros 100 o arddangosion ymarferol difyr
  • Blaenoriaeth i’ch grŵp fynychu sioe wyddoniaeth fyw — cyfle i bawb fod yn agos at y cyffro
  • Bwyd picnic mewn ardal breifat, yn arbennig ar gyfer eich grŵp
  • Gwahoddiadau arbennig i chi anfon at eich gwesteion

“Roedd y plant wrth eu boddau. Am barti i’w gofio!”

Mae partïon Techniquest yn para 3 awr ac mae lle i hyd at 24 o blant (3-15 oed)

GWESTAI PRIS
Plentyn (3–15) £18
Plentyn (0–2) Am ddim
Oedolion yn mynychu gyda’r plant 1 oedolyn am ddim gyda phob 6 plentyn 3-15 oed, a phob oedolyn ychwanegol yn £8.50+ yr un

Beth amdani? Os ydych chi’n hoffi’r syniad o barti yn Techniquest, yna cysylltwch isod i ddarganfod mwy am gynnal parti pen-blwydd yn ein canolfan gwyddoniaeth anhygoel!


YMHOLI AM GYNNAL PARTI PEN-BLWYDD




GWYBODAETH ARALL

  • Mae’n rhaid i un oedolyn fod yn bresennol drwy gydol y parti. Gallwn gynnwys oedolion ychwanegol yn y 12 person taledig, ond nodwch na fydd bwyd yn cael ei gynnwys i oedolion.
  • Mae cinio i bob plentyn, fel rhan o’r pris. Mae hyn yn cynnwys brechdan, creision a diod gyda dim terfyn ar ddiod squash yn yr ardal ginio.
  • Yn anffodus ni chaniateir i chi ddod â bwyd eich hunan (yn cynnwys cacen) i bartïon Techniquest.

Nid yw oedolion ychwanegol yn cael mynediad awtomatig i sioe wyddoniaeth fyw, ond mae modd ychwanegu hyn i’ch archeb am £2 fesul pob person ychwanegol.