Techniquest

Gweithdai Telesgop Gofod James Webb

Lansiwyd Telesgop Gofod James Webb 25 Rhagfyr 2021 o Guyane Ffrengig, ar fwrdd Roced Ariane 5. Ers ei lansio mae ‘sunshield’ y roced wedi ehangu i faint cwrt tenis, a dros gyfnod o 20 mlynedd, mae disgwyl iddo greu rhai o’r lluniau fwyaf arbennig a dynnwyd erioed – o gychwyn y bydysawd i blanedau ymhell tu hwnt i gysawd yr haul. Mae TGJW wedi bod mewn datblygiad ers 1996 ac mae’n gam enfawr i ddynoliaeth yn ein hymgais i archwilio’r bydysawd.

Fe ddathlodd Techniquest y foment hanesyddol hon drwy gynnal gweithdai yn yr wythnosau cyn y lansiad. Roedd y gweithdai yn trafod TGJW a’r holl wyddoniaeth a thechnoleg sy’n ei wneud yn bosib.

Trafodwyd y golau is-goch, y 18 drych sydd â haen aur a lleoliad TGJW yn y gofod – miliwn o filltiroedd o’r Ddaear. Fe ddysgon ni gymaint am y dechnoleg anhygoel yma, gyda llu o weithgareddau ymarferol a chefnogaeth gan lysgenhadon STEM.

Prosiect Ysbrydoli

Fel mae’r teitl yn awgrymu, nod y prosiect hwn oedd ysbrydoli pobl i fwynhau STEM. Ar ôl cyfnodau clo, cyfnodau o gau ysgolion, a rhai o’r blynyddoedd anoddaf y bydd llawer o bobl wedi’u profi erioed, roedd Ysbrydoli yn gyfle i blant gael hwyl gyda gwyddoniaeth ac i ddatblygu eu sgiliau STEM.

Roedd syniad y prosiect yn syml – sef dod â gwyddoniaeth i bobl – pa bynnag wyddoniaeth oedd o ddiddordeb iddyn nhw, Penderfynwyd ar thema pob gweithdy gan y rhai a fynychodd – gan arwain at rai o’r gweithdai mwyaf annisgwyl a chyffrous! Dros wyliau’r haf 2021 fe gymeron ni gipolwg ar bopeth dan haul – o ddinosoriaid a thyllau duon i sut mae gofodwyr yn mynd i’r tŷ bach yn y gofod a sut i greu’r sleim perffaith.

Rydyn ni’n ceisio gwella’r rhan rydyn ni’n chwarae yng nghymunedau lleol ledled De Cymru, drwy gydweithio â nhw a chreu cynnwys sydd iddyn nhw ac wedi’i greu ganddyn nhw.

Partneriaid: Fern Partnership, Pafiliwn Grangetown, Little Lounge and Chyngor Caerffili.

Operation Earth

Pan gynhaliwyd COP26 yn y DU fe aethon ni ati i edrych ar wyddoniaeth amgylcheddol, fel rhan o weithdai ‘Operation Earth’. Roedd hon yn gyfres o weithdai yn ein hadeilad ac oddi ar y safle. Ein nod oedd annog pobl i ofyn cwestiynau am yr amgylchfyd, beth allwn ni ei wneud i helpu a pha newidiadau systemig sydd eu hangen i sicrhau bod amcanion newid hinsawdd yn llwyddo.

Gyda chefnogaeth gan Aelodau Seneddol lleol ac aelodau Cyngor Caerdydd, mae Techniquest yn annog pawb i fyw bywydau mwy cynaliadwy er mwyn cefnogi bywyd ac iechyd ac er budd cenhedloedd y dyfodol.

Aeth Operation Earth ar daith, gan ymweld â grwpiau cymunedol sy’n awyddus i drafod yr amgylchfyd a chynaliadwyedd.

Partner: Plant y Cymoedd.

Arddangosfa Gwyddonwyr yn Ein Cymuned

Dyma ein harddangosfa ffotograffiaeth newydd sydd yn cael ei chyd-greu gyda chymunedau lleol, ac sy’n derbyn cefnogaeth hael gan HLM Architect, Wardell Armstrong a Hydrock, sy’n gweithio ar estyniad newydd Techniquest (sy’n agor Gwanwyn 2020).

Roedd y briff yn syml; tynnwch lun neu bortread o rywun sydd yn ymddiddori neu sydd â chefndir STEM. I lawer o bobl ifanc mae’r celfyddydau yn holl bwysig yn eu perthynas â phynciau STEM. STEAM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Celfyddyd, Mathemateg) yw’r maes sydd o ddiddordeb iddynt.

Yr oriel, sy’n rhoi naws newydd i’n canolfan wyddoniaeth a darganfod, yw’r cyntaf o sawl prosiect sydd gan ac ar gyfer ein cymunedau. Mae’r arddangosfa yn amlygu amrywiaeth Caerdydd ac yn chwalu rhwystrau o ran canfyddiadau STEM.

Partneriaid: SRCDC, Radio Platfform a Chaffi Trwsio Cymru.

Cefnogwyr: HLM Architects, Wardell Armstrong a Hydrock.

Cysylltu Gwyddoniaeth â'r Celfyddydau

Drwy bartneriaeth gyda Theatr y Sherman, nod y prosiect peilot yma oedd rhoi profiadau unigryw i aelodau Sherman 5, a chysylltu gwyddoniaeth â’r celfyddydau. Yn seiliedig ar lenyddiaeth, roedd y prosiect yn cynnwys sioe i oedolion a phlant, yn ogystal â gweithdy creadigol.

Mae Techniquest yn aml yn estyn allan gydag arddangosiadau a sioeau i ysgolion ledled Cymru, ond dyma’r gyntaf i gael ei darparu o fewn sefydliad lleol.

Nod prosiect Sherman 5 yw sicrhau bod y theatr yn hygyrch a helpu pobl i oresgyn unrhyw rwystrau y gallai amharu ar eu hymweliadau. Mae Techniquest hefyd yn gweithio’n gyson i ddod yn ganolfan sy’n gynhwysol ac sy’n croesawu pob cynulleidfa. Drwy’r peilot hwn rydyn ni’n treialu ffordd arall o gysylltu â chynulleidfaoedd, ac yn darparu profiadau a gwybodaeth sy’n cefnogi ymweliadau i Techniquest.

Rydyn ni’n gobeithio datblygu cynlluniau peilot eraill gyda sefydliadau lleol eraill yn y dyfodol.

Partner: Sherman 5

Explore Your Universe

Roedd Explore your Universe yn rhaglen 6 wythnos a gynhaliwyd yn ystod mis Medi a mis Tachwedd 2019. Ffocws y rhaglen oedd cynyddu gwybodaeth mewn pynciau megis y Gofod a Ffiseg.

Cynhaliodd Techniquest sesiynau aml-genhedlaeth gyda phartneriaid cymunedol, gan fynd â phecynnau Techniquest gyda ni. Ymhlith y pecynnau difyr a rhyngweithiol hyn roedd cromen seren, ysbienddrychau a dysgu am faint a graddfa’r planedau.

Partneriaid: ACE Cardiff, Shiloh Fellowship, Women Connect First a Women Seeking Sanctuary