Mae gennym ni dros 100 o arddangosion ymarferol i gyfoethogi profiadau dysgu plant a phobl ifanc o bob oed. Trefnwch daith fythgofiadwy.

Pa un ai’n dysgu pethau newydd neu’n atgyfnerthu’r hyn sydd wedi’i ddysgu yn y dosbarth, daw’r wyddoniaeth yn fyw dan flaenau eich bysedd yn Techniquest.

  Ffurflen ymholi am daith ysgol

  • 2026 Terfynydd — Lleoliad Gorau ar Gyfer Dysg STEM
    2025 Terfynydd — Lleoliad Gorau ar Gyfer Dysg STEM; 2024 Enillydd — Lleoliad Gorau ar Gyfer Dysg STEM; 2023 Enillydd — Lleoliad Gorau ar Gyfer Dysg STEM
  • 2025 Cymeradwyed Uchel — Seren Newydd STEM y Flwyddyn; 2024 Cymeradwyed Uchel — Menyw STEM y Flwyddyn; 2023 Enillydd — STEM Rhaglen Addysgol y Flwyddyn (nid am elw); 2023 Cymeradwyed Uchel — Cwmni STEM y Flwyddyn (o dan 50 gweithwyr)

“Diwrnod gorau ein bywydau ni!”

Disgyblion o Ysgol Gynradd Pen-y-bont

Beth am ychwanegu opsiynau megis sioe wyddoniaeth fyw, taith o dan y sêr yn y planetariwm neu brofiad ymarferol yn y Lab KLA i gwblhau eich ymweliad?

Mae pob sioe wedi’i theilwra yn unol â’r cwricwlwm ac wedi’i thargedu ar gyfer Camau Cynnydd a Chyfnodau Allweddol gwahanol.

Pan fyddwch yn cyrraedd ein hadeilad, byddwch yn cael eich croesau gan staff Techniquest a fydd yn esbonio trefniadau eich ymweliad ac yn sicrhau bod pob dim yn rhedeg yn esmwyth. Gall athrawon ganolbwyntio ar y disgyblion a’r profiad dysgu.

Pryd gallwn ni ymweld â Techniquest?

Mae ymweliadau ysgol ar gael bob dydd Mercher a dydd Iau a bron bob dydd Gwener yn ystod y tymor ysgol.

Gallwch ddewis o un o’r slotiau amser canlynol, yn ddibynnol ar argaeledd:

Math o YmweliadOpsiwn 1Opsiwn 2Opsiwn 3
Gyda Sioe Wyddoniaeth Fyw10:15am – 1:00pm10:45am – 1:30pm11:00am – 2:00pm
Gyda sioe Blanetariwm10:00am – 12:45pm10:30am – 1:15pm11:00am – 1:45pm
Gyda gweithdy Lab KLA10:45am – 1:30pm11:00am – 1:45pm-
Arddangosfeydd yn unigGwahanol amseroedd ar gael, yn ddibynnol ar argaeledd

The Great British School Trip

Rydyn ni’n rhan o ‘The Great British School Trip’, sydd wedi’i gefnogi gan Hyundai! Oes angen cymorth ariannol neu adnoddau addysgol ar eich ysgol chi, ar gyfer taith ysgol? Darganfyddwch fwy o fanylion a sut i wneud cais.

Sioeau a Gweithdai

Science Theatre

Beth am ychwanegu sioe wyddoniaeth anhygoel, i gyfoethogi profiad eich disgyblion?


  Tymor yr Hydref 2026

Sioe’r Corff Dynol
18, 24–25 Medi 2026

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Popeth Amdanaf I
30 Medi 2026
1–2 Hydref 2026

Cam Cynnydd 2 Cyfnod Sylfaenol

Sioe’r Grymoedd
8, 16, 22–23 Hydref 2026

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Newid Hinsawdd
4–5 Tachwedd 2026

Cam Cynnydd 2 Cyfnod Sylfaenol

Brwydr y Bandiau
12–13 Tachwedd 2026

Cam Cynnydd 2 Cyfnod Sylfaenol
Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Hud a Lledrith Mathemateg
18–20 Tachwedd 2026

Cam Cynnydd 4 Cyfnod Allweddol 3

Cymru, STEM a’r Byd
27 Tachwedd 2026
2–3 Rhagfyr 2026

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Iâ-chyd a Diogelwch
10–11, 16–17 Rhagfyr 2026

Cam Cynnydd 2 Cyfnod Sylfaenol
Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2


  Tymor y Gwanwyn 2027

Bydd y dyddiadau hyn yn cael eu rhyddhau am fwciad ym mis Medi 2026.

Anifeiliaid a Chynefinoedd
Ionawr 2027

Cam Cynnydd 2 Cyfnod Sylfaenol

Elfennol
Ionawr 2027

Cam Cynnydd 4 Cyfnod Allweddol 3

Anifeiliaid a Chynefinoedd
Chwefror 2027

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Gwyddoniaeth Gogoneddus
Chwefror a Mawrth 2027

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Cymru, STEM a’r Byd
Mawrth 2027

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2


  Tymor yr Haf 2027

Bydd y dyddiadau hyn yn cael eu rhyddhau am fwciad ym mis Ionawr 2027.

Datgelwyr y Dinosoriaid
Ebrill 2027

Cam Cynnydd 2 Cyfnod Sylfaenol

Sioe’r Corff Dynol
Ebrill 2027

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Y Ddaear Ddirfawr
Ebrill 2027

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

O Dan y Môr
Mai 2027

Cam Cynnydd 2 Cyfnod Sylfaenol

Cenhadaeth: Peiriannydd
Mai 2027

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Ymarfer Mathemateg
Mehefin 2027

Cam Cynnydd 2 Cyfnod Sylfaenol

Ymarfer Mathemateg
Mehefin 2027

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Hud a Lledrith Mathemateg
Mehefin 2027

Cam Cynnydd 4 Cyfnod Allweddol 3

Sioe’r Grymoedd
Mehefin a Gorffennaf 2027

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Yucky You!
Gorffennaf 2027

Cam Cynnydd 2 Cyfnod Sylfaenol
Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2


Mae sioeau gwyddoniaeth yn costio £1.50 ychwanegol fesul bob disgybl.

Planetarium

  Taflunydd 4K

Camwch i mewn i Blanetariwm ddigidol Techniquest a dewch am dro drwy’r Bydysawd — mae sêr, planedau a galaethau diri yn aros amdanoch chi!

Bydd disgyblion yn dysgu sut i adnabod sêr, planedau a chytserau y gellir eu gweld o’r Ddaear, ac yn mentro tu hwnt i’r Llwybr Llaethog i weld rhyfeddodau’r bydysawd. Gall gyflwynwyr ddangos y sêr a’r planedau’n agos, a rhannu lluniau o graterau lleuadau pell a ffenomenau eraill. Mae’r cyfan yn helpu atgyfnerthu profiadau dysgu’r disgyblion ac yn annog angerdd am gosmoleg a seryddiaeth.

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2


Mae sioeau Planetariwm yn costio £1.50 ychwanegol fesul bob disgybl.

The KLA Lab

Newydd — ein Lab KLA newydd sbon, wedi’i ariannu gan y Sefydliad Garfield Weston a Sefydliad KLA.

Dewch â’ch disgyblion i brofi beth yw bod yn wyddonwr go iawn! Mae pob gweithdy’n para 45 munud. Dewiswch un o’r gweithdy sydd ar gael.


  Tymor yr Hydref 2026

Grymoedd Gwych
18, 24–25, 30 Medi 2026
1–2 Hydref 2026

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Datgodio DNA
8, 16, 22–23 Hydref 2026
4–5 Tachwedd 2026

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Gwyddoniaeth Amgylcheddol
12–13, 18–20, 27 Tachwedd 2026

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Labordy Trosedd
2–3 Rhagfyr 2026

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Criw Ysbïo Siôn Corn
10–11, 16–17 Rhagfyr 2026

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2


  Tymor y Gwanwyn 2027

Bydd y dyddiadau hyn yn cael eu rhyddhau am fwciad ym mis Medi 2026.

Hud a Lledrith mewn Gwyddoniaeth
Ionawr 2027

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Gwyddoniaeth Rocedi
Chwefror 2027

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Llawfeddygon yr Ymennydd Bychan
Mawrth 2027

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2


  Tymor yr Haf 2027

Bydd y dyddiadau hyn yn cael eu rhyddhau am fwciad ym mis Ionawr 2027.

Gwyddoniaeth Amgylcheddol
Ebrill 2027

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Datgodio DNA
Ebrill 2027

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Peirianwyr Bychan
Ebrill a Mai 2027

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Grymoedd Gwych
Mai a Mehefin 2027

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Gwyddoniaeth Rocedi
Mehefin a Gorffennaf 2027

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Hud a Lledrith mewn Gwyddoniaeth
Gorffennaf 2027

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2


Mae gweithdy Lab yn costio £1.50 ychwanegol fesul bob disgybl.

Faint mae’n costio?

Mae mynediad i’r arddangosfa, sydd bellach yn cynnwys dros 100 o arddangosion ymarferol yn £8.50 y plentyn.

Mae gweithgareddau ychwanegol fel a ganlyn:

  • Theatr Wyddoniaeth: £1.50 y disgybl
  • Planetariwm: £1.50 y disgybl
  • Y Lab KLA: £1.50 y disgybl

Mynediad am ddim i athrawon sy’n mynychu gyda disgyblion!

Sut i archebu

Cwblhewch ein ffurflen ymholi a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

  ffurflen ymholi am daith ysgol