Techniquest

Ein nod yw sicrhau bod pawb yn teimlo’n gartrefol yn Techniquest. Dyma ychydig o wybodaeth i’ch helpu chi i gynllunio ymlaen llaw.

Os oes gennych chi ragor o gwestiynau neu os hoffech chi gael sgwrs gyda ni cyn eich ymweliad, yna e-bostiwch ni, neu ffoniwch ni ar 029 2047 5475. Fe wnawn ein gorau i’ch helpu.

Dolenni Cyflym:

  Map   Taith Rithiol 3D   Anawsterau Symudedd Ac Anghenion Synhwyraidd   Bagiau Synhwyraidd   Cyfleusterau Eraill   Gofalwyr Hanfodol   Parcio   Sesiynau Hamddenol   Y Pod   Rheoliaduron A Dyfeisiau Meddygol Wedi’u Mewnblannu   Datganiad Hygyrchedd

“Roedd y staff yn groesawgar iawn ac mor barod i helpu fy mab anabl – diolch!”

Adborth gan ymwelydd, Ionawr 2023

Map

Mae modd argraffu’r map dwyieithog yma o Techniquest, er mwyn ymgyfarwyddo cyn eich ymweliad:

Map o Techniquest

  Agor y map


Taith Rithiol 3D

Mae gennym ni daith rithiol 3D ar gael. Cyfle i ddarganfod mwy am ein canolfan cyn eich ymweliad.

Agorwch y daith mewn ffenestr newydd.
Gyda diolch i Picture It 360.


ANAWSTERAU SYMUDEDD AC ANGHENION SYNHWYRAIDD

The entrance to the lift on the ground floor

LLAWR GWASTAD

Mae’r llawr yn wastad drwy gydol yr arddangosfa, heblaw am un ramp, ac mae lifft i’r llawr cyntaf.

The ramped entrance to the Planetarium.

Planetariwm

Mae ein Planetariwm yn ofod clyd, gydag 1 lle ar gyfer cadair olwyn bob sioe. Gofynnwn i chi archebu ar-lein ymlaen llaw, gan ddethol y tocyn defnyddiwr cadair olwyn.

Looking down towards the stage in the Science Theatre.

THEATR WYDDONIAETH

Mae yna le i 2 ddefnyddiwr cadair olwyn. Mae yna hefyd le i ddefnyddwyr cadair olwyn symud i seddi safonol. Ond byddwch yn ymwybodol bod o leiaf un neu ddau ris i gyrraedd y seddi hyn.

  • Mae cadeiriau olwyn ar gael i fenthyg pan gyrhaeddwch (yn ddibynnol ar argaeledd) — gofynnwch i aelod o staff pan gyrhaeddwch.
  • Mae’r ddesg flaen yn gweithio gyda dolenni sain.
  • Mae croeso i gŵn cymorth yn yr adeilad, ac mae dŵr ar gael iddynt — gofynnwch i aelod o staff.
  • Gallwch ofyn am amddiffynwyr clust o’r ddesg flaen.
  • Mae gan nifer o’n harddangosion wybodaeth ar sgrin gyffwrdd, yn Gymraeg ac yn Saesneg.
  • Mae mannau eistedd ar gael yn rheolaidd ledled yr ardal arddangos.
  • Mae llawer o’n harddangosion yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn, ond mae ambell i un nad yw’n addas. Os hoffech gyngor cyn eich ymweliad, ffoniwch ni, os gwelwch yn dda.
  • Mae Teithiau Sain yn dod yn fuan.

BAGIAU SYNHWYRAIDD

An example of the contents found in the Techniquest sensory bags.Gallwn ni ddarparu bagiau synhwyraidd i ymwelwyr sy’n teimlo y byddai hyn yn gwella ar eu mwynhad o brofiad Techniquest.

Gallwch ofyn am fag wrth y ddesg flaen ar ôl i chi gyrraedd. Gallwch dalu blaendal o £20 (yn ddibynnol ar argaeledd) a chymryd y bag gyda chi o amgylch y ganolfan.

Mae bob bag yn cynnwys:

  • Map synhwyraidd
  • Stori weledol
  • Amddiffynwyr clustiau
  • Troellwr
  • Sbectol haul
  • Octopws teimladwy
  • Gwlithen synhwyraidd
  • Ungorn elastig
  • Ffan deimladau
  • Popiwr y planedau

Os fyddwch yn defnyddio un o’r bagiau, byddem yn ddiolchgar iawn o’ch adborth ar ddiwedd eich ymweliad!


CYFLEUSTERAU ERAILL

  • Toiledau hygyrch ar y ddau lawr.
  • Ystafell gotiau / ardal bramiau a loceri ar gael ar y llawr gwaelod.
  • Tair ystafell newid clytiau babanod ar gael ar y llawr gwaelod.
  • Mae croeso i chi fwydo ar y fron ym mhob rhan o Techniquest, ond os oes well gennych ddefnyddio ystafell breifat, mae ystafell Y Pod ar gael.
  • Mae toiledau niwtral o ran rhywedd ar y llawr cyntaf a thoiledau un rhyw ar y llawr gwaelod.
  • Mae’r ystafell Cymorth Cyntaf ar y llawr gwaelod. Os oes angen cymorth arnoch, gofynnwch i aelod o staff.
  • Mae diffibriliwr ar gael o’r dderbynfa. Os oes angen cymorth arnoch, gofynnwch i aelod o staff.

MYNEDIAD AM DDIM I OFALWYR HANFODOL SY’N MYNYCHU GYDAG YMWELWYR

Wrth archebu tocyn dewiswch docyn Gofalwr Hanfodol hefyd. Mae’n rhaid i docyn gofalwr fynd gyda thocyn consesiwn. Dewch â math o dystiolaeth adnabod gyda chi fel y gallwn ni brosesu eich tocyn mynediad.


Parcio

Gan mai dim ond un gofod parcio hygyrch sydd gennym ni ar y safle, gofynnwn yn garedig i chi ddefnyddio’r meysydd parcio a restrir isod, os yn bosib.

Os nag ydy hyn yn ymarferol i chi, ffoniwch ein tîm cyn gynted â phosib cyn eich ymweliad, ar 029 2047 5475* neu e-bostiwch ni ar [email protected] fel y gallwn ni wirio os yw’r gofod ar gael yn ystod eich ymweliad. Os yw’r gofod ar gael gallwn ni ei gadw ar eich cyfer a rhoi gwybod beth yw’r broses ar gyfer ei ddefnyddio ar y diwrnod.

The view of Techniquest’s main entrance from Mermaid Quay car park Maes parcio Cei’r Forwyn, gyferbyn â Techniquest, yw ein maes parcio cyhoeddus agosaf. Mae e oddeutu 85 metr o’n mynedfa. Mae yna 16 gofod parcio hygyrch yno, yn ogystal â 10 gofod parcio ‘Rhiant a Phlentyn’, ar y llawr gwaelod. Gwelwch y maes parcio ar Google Maps, Apple Maps neu Parkopedia. Gellir gweld prisiau parcio yma.
Looking at the disabled bays in the Havannah Street car park
Neu, mae yna sawl gofod parcio am ddim i ymwelwyr anabl ym maes parcio Stryd Havannah. Mae’r maes parcio dros y ffordd i Techniquest, oddeutu 220 metr i ffwrdd o’n prif fynedfa newydd sbon.
Gwelwch y maes parcio ar Google Maps, Apple Maps neu Parkopedia. Gellir gweld prisiau parcio yma.

Dyma ein cyfeirnod what3words ar gyfer ein mynedfa newydd ///fairly.occupy.trucks.

Mae’n bosib y gallwn awgrymu opsiynau parcio eraill os wnewch chi gysylltu â ni cyn archebu: ffoniwch ni ar 029 2047 5475 neu e-bostiwch [email protected].

*Llun-Gwener 9am-5pm (opsiwn peiriant ateb ar gael)


Sesiynau Hamddenol

Mae ardaloedd arddangos Techniquest yn gallu bod yn swnllyd, yn enwedig yn ystod gwyliau ysgol.

Rydym yn cynnal Sesiynau Hamddenol ar ddydd Sul cyntaf pob mis.

Os ydych yn dewis tocyn 10am neu 11am, fe welwch y bydd ein model gweithredu arferol yn cael ei droi lawr ychydig i ganiatáu i’n gwesteion mwynhau profiad mwy hamddenol am fore dydd Sul unwaith y mis.

  Darganfod mwy

Os does dim modd fynychu sesiwn hamddenol, rydyn ni’n argymell archebu slot ar ddiwedd y prynhawn ar ddyddiau’r wythnos yn ystod y tymor ysgol, neu sesiwn gyntaf y dydd am 10am ar benwythnosau, a hynny yn ystod y tymor ysgol. Mae’r adegau hyn yn tueddu i fod yn dawelach.


Y Pod

Mae gennym ni ystafell fechan ar y llawr gwaelod sy’n cael ei defnyddio ar gyfer llawer o resymau gwahanol: bwydo ar y fron, gweddïo, neu i adael prysurdeb yr arddangosfa os ydych chi neu aelod o’r grŵp yn teimlo bod angen seibiant.

The Pod — a quiet space that can be used to take a moment, or to breastfeed, or as a prayer space

Cymerwch olwg ar y map, y mae modd ei argraffu, er mwyn gweld sut mae cyrraedd y Pod.


RHEOLIADURON A DYFEISIAU MEDDYGOL WEDI’U MEWNBLANNU

Pacemaker warning symbolMae nifer fechan o arddangosion Techniquest yn anaddas i ymwelwyr sydd â rheoliadur neu ddyfais meddygol sydd wedi’i mewnblannu. Mae’r arddangosion hyn yn cynnwys y symbol (ar y dde) ar eu label.


Datganiad Hygyrchedd

Am fwy o wybodaeth ar ein hygyrchedd a chyfleusterau, darllenwch ein Datganiad Hygyrchedd.