Techniquest

Dod a gwyddoniaeth yn fyw a sbarduno chwilfrydedd: dyma sydd wrth galon Techniquest. Drwy ein harddangosion ymarferol a hwyliog, rydyn ni’n agor byd o wyddoniaeth.

Rydyn ni’n ychwanegu at y ddarpariaeth o addysg ffurfiol yng Nghymru, ac mae miliynau wedi buddio o ymweld â’n canolfan. Rydyn ni’n cynnig arddangosion ymarferol, prosiectau sy’n estyn allan a sioeau digidol sydd bellach ar gael i ysgolion.

Sefydlwyd Techniquest, Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth hynaf y DU ym 1986, a hynny yng nghanol dinas Caerdydd. Y flwyddyn ganlynol fe symudwyd y ganolfan i Fae Caerdydd, cyn dod yn ganolfan wyddoniaeth gyntaf y wlad i gael ei hadeiladu’n bwrpasol ym 1995.

Roedd yr adeilad gwreiddiol yn gartref i ffatri beirianneg drom ac fe ddyluniwyd Techniquest gan Paul Koralek, o gwmni ABK Architects, o amgylch fframwaith yr adeilad. Ym 1999 gwobrwywyd yr arddangosion gyda statws ‘Cynnyrch Mileniwm’ gan Gyngor Dylunio’r DU, yn sgil eu rhagoriaeth.

1986

Sefydlwyd Techniquest ym 1986 gan yr Athro John Beetlestone a’i gydweithwyr o Brifysgol Caerdydd. Hen ystafell arddangos nwy yng nghanol y ddinas, gyferbyn â’r castell oedd ein cartref cyntaf.

1988

Ym 1988 symudodd Techniquest i adeilad diwydiannol ym Mae Caerdydd, ac yn y fan honno lansiwyd ein rhaglenni addysgol i ysgolion.

1995

Ym 1995 symudon eto i’n safle presennol, sef hen ffatri beirianneg drom ar lannau Bae Caerdydd. Dyma ganolfan gwyddoniaeth gyntaf y DU i gael ei adeiladu’n bwrpasol.

Mae’r fframwaith metel cywrain sydd i’w weld ar hyd y gwydr sydd ar flaen yr adeilad, yn adlewyrchiad creadigol o hanes yr adeilad — mae’n cysylltu yn ôl i hanes diwydiannol yr adeilad.

2011

Ym mis Tachwedd 2011, dathlodd Techniquest ei ben&blwydd yn 25. Agorwyd ein drysau i’r cyhoedd am ddim drwy gydol y penwythnos. Roedd yna ddathlu, ac oedd, roedd digon o gacenni!

2020

Cychwyn pennod newydd yn hanes Techniquest, gydag estyniad y Science Capital yn 2020. Mae e wedi gweddnewid y ganolfan gan ychwanegu rhagor o le i arddangos a rhagor o arddangosion newydd.

Mae miliynau o bobl wedi mwynhau ymweld â Techniquest dros y blynyddoedd, a’n uchelgais yw cyflwyno gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) i filiynau yn rhagor: gan feithrin cyfalaf gwyddoniaeth unigolion a chymunedau am flynyddoedd i ddod.

A WYDDOCH CHI…?

Un o’r pethau sydd wedi newid dros y blynyddoedd yw’r ffordd y mae’n cael ei ariannu.

Tan ychydig flynyddoedd yn ôl daeth bron hanner ein cyllid o grantiau Llywodraeth Cymru. Ers 2016 mae’r grant wedi lleihau yn sylweddol, ac mae Techniquest yn dibynnu bron yn llwyr ar werthu tocynnau i gadw’r atyniad ar agor. Mae ein gwaith gydag ysgolion a myfyrwyr yn parhau i gael ei ariannu gan ymddiriedolaethau, sefydliadau, adrannau’r llywodraeth, busnesau a rhoddion unigolion.

Elusen a chyllid

Fel elusen gofrestredig, gellir dod o hyd i’n cyfrifon yn y Comisiwn Elusennau.

Os ydych chi’n caru Techniquest a’r gwaith mae’n ei wneud yna unrhyw rodd, bydd mawr neu fach yn ein helpu i gadw ein drysau ar agor, croesawu mwy o ymwelwyr a rhannu ein cariad at wyddoniaeth yn ehangach gyda phobl o bob cenhedlaeth.

Rydym yn gwerthfawrogi nad yw pawb mewn sefyllfa i roi, ond mae llawer o ffyrdd y gallwch ein cefnogi: o’n dilyn ar gyfryngau cymdeithasol neu gofrestru ar ein rhestr bostio, i ychwanegu Cymorth Rhodd at eich tocynnau, dod yn Ffrind, gwneud rhodd, neu hyd yn oed weithio gyda ni fel partner mewn rhyw fodd.

Diolch!

Darganfyddwch sut i'n cefnogi