Techniquest

Mae Lleoliadau Ymchwil a Phrofiadau yn rhoi’r cyfle i ddros 1,000 o ddisgyblion Blwyddyn 12 gweithio ochr yn ochr â gweithwyr STEM proffesiynol ar brosiectau ymchwil.

Mae Techniquest yn gyffrous i reoli’r lleoliadau yng Nghymru eto eleni, wrth gael ein cefnogi gan y Nuffield Foundation a STEM Learning.

Y wobr Steve Bowden yn cael ei gyflwyni i ennillwr Julia Krokosz, yn 2023.

Mae disgyblion Blwyddyn 12 sy’n astudio pynciau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) mewn coleg neu ysgol a gynhelir â’r wlad yn gymwys.

Mae yna dwy fath o leoliadau rydym ni’n cynnig:

  • Lleoliad Ymchwil (NRP)

    • Lleoliad dros pythefnos gydag arbenigwyr sefydliad cysylltiedig â STEM
    • Gweithio ar gwestiwn ymchwil neu ardal o ddatblygiad
    • Cynhyrchu adroddiad a phoster ymchwil wyddonol
    • Cyfleoedd i gyfrannu at brosiectau cyfredol eich gwesteiwr
  • Lleoliad Profiad (NEP)

    • Archwiliadau pum niwrnod gydad arbenigwyr y maes
    • Nodi sgiliau hanfodol ar gyfer cyflogaeth mewn STEM
    • Cynhyrchu llyfr gwaith trwy gydol eich lleoliad

Mae yna fwrsarïau ar gael am ddisgyblion o gartrefi incwm isel, sydd â hawl i ginio ysgol am ddim neu daliadau dewisol, neu sydd yn/wedi byw yn ofal awdurdod lleol.

Yn ogystal â hyn, bydd pob disgybl — er gwaethaf os ydyn nhw’n cymwys i fwrsari — yn derbyn ad-daliadau am eu teithiau trwy gydol y lleoliad!

Cymhwyster

Beth am ddefnyddio’r erfyn o dan i wirio os ydych yn gymwys?

  Gwirio gymhwyster

Mae’r prosiectau ymchwil sydd ar gael i gyd yng nghynnwys gwaith gwyddonol neu dechnegol â’i leoli mewn labordy, gwaith yn y maes neu yn y swyddfa.

Bydd lleoliadau yn cymryd lle o gwmpas y DU yn ystod y cyfnod Gwyliau Haf ac yn cael eu gweinyddu yng Nghymru gan Techniquest. Rydym ni yma i’ch helpu dros bob cam o’r daith.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ein Lleoliadau Ymchwil a Phrofiadau, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

  • Andrea Meyrick

    Cydlunydd Lleoliadau Ymchwil a Phrofiadau Cymru

    E-bostio Andrea

  • Jennifer Morris

    Gweinyddwr Lleoliadau Ymchwil a Phrofiadau Cymru

    E-bostio Jennifer

Byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych chi!