Techniquest

Rydyn ni’n awyddus iawn i gyflwyno gwyddoniaeth i blant o bob oed, ac mae mynediad am ddim i fabanod a phlant dan 3 oed. Ond, gwyddwn gall trefnu diwrnod mas fod yn anoddach pan fyddwch yn rhiant i faban bach neu blentyn ifanc iawn.

Mae Techniquest hefyd yn gallu bod yn brysur iawn ar adegau ac yn swnllyd braidd i glustiau bychain. Gyda hyn mewn golwg, dyma ganllaw defnyddiol i’ch helpu chi i benderfynu pryd i ddod â’ch plentyn i Techniquest — efallai bod y profiad yn berffaith i chi nawr — neu efallai y byddwch yn penderfynu aros nes bod y plan ychydig yn hŷn.

DIWRNODAU PLANT IFANC

Mae ein diwrnodau i blant ifanc yn digwydd unwaith y mis yn ystod y tymor ysgol. Ar y dyddiau arbennig yma, rydym yn dod ag arddangosion sy’n addas i blant ifanc allan i wyddonwyr bach gael eu harchwilio.

Mae yna hefyd sesiynau stori, gweithgareddau crefft a gwesteion arbennig o sefydliadau sy’n arbenigo yn yr oedran cyn ysgol. Felly, os oes yna aelodau dan 3 oed yn eich teulu chi, beth am drefnu ymweliad ar un o’r diwrnodau yma?

Cymerwch olwg ar ein calendr i weld pryd mae’r un nesaf yn digwydd.

NEWID CLYTIAU

Ar hyn o bryd mae gennym ni:

  • Ystafell sydd wedi’i neilltuo’n arbennig i newid clytiau babanod ar y llawr gwaelod, i’r chwith o doiledau’r merched.
  • Uned newid clytiau tu mewn i’r Toiled Hygyrch, gyferbyn â’r brif ystafell newid clytiau.
  • Mae yna un ardal newid clytiau arall ar y llawr gwaelod, ger y porth sioeau, ar ddiwedd yr Ardal Retro, yn agos at yr hafan Ddysgu: gallwch weld y lleoliad yn union wrth edrych ar y map.

COETSIS A PHRAMIAU

Mae yna ystafell gotiau ac ardal loceri ger prif fynedfa Techniquest. Gallwch adael coets neu bram yno am ddim, ar eich cyfrifoldeb eich hun.

BWYDO

Gwyddwn y gall fwydo baban fod yn sialens, yn enwedig os ydych chi’n ymweld gyda phlant hŷn sy’n awyddus i edrych o amgylch yr arddangosfa.

Mae sawl opsiwn ar gael, ond yn gyffredinol ni ddylid bwydo babanod wrth yr arddangosion. Mae ein harddangosion yn fregus ac felly gofynnwn yn garedig i chi beidio â bwydo tra’n eistedd wrthynt.

  • Gallwch ddefnyddio ein Hardal Bicnic, lle mae byrddau a chadeiriau: ardal hwylus ar gyfer paratoi llaeth fformiwla, ac mae yna gadeiriau uchel yno hefyd, petaech chi eu hangen. Os nag ydych chi’n gallu gweld cadair uchel, gofynnwch i aelod o staff estyn i chi.
  • Mae croeso i chi fwydo ar y fron yn Techniquest. Petaech chi am ddefnyddio stafell fwy preifat, mae croeso i chi ddefnyddio’r Pod. Mae’r Pod ger y Porth Sioeau. Dyma ystafell fechan, gyfforddus y gallwch ei defnyddio.
  • Efallai y byddwch yn dewis bwydo gyda photel wrth i chi edrych o amgylch yr arddangosfa. Gofynnwn yn garedig i chi wneud hyn yn un o’r ardaloedd eistedd sydd ar gael ym mhob parth, yn hytrach nag wrth yr arddangosion, er mwyn osgoi creu difrod damweiniol i unrhyw arddangosyn. Mae yna gadeiriau neu feinciau wedi’u lleoli mewn mannau penodol ar draws y parthau gwyddoniaeth, lle da i chi fwydo a chadw llygad ar eich plentyn (neu blant!) eraill.

Yn anffodus nid oes cyfleusterau twymo potel nac oergell ar gael i’r cyhoedd ar ein safle. Gofynnwn i chi fod yn ymwybodol o hyn cyn cynllunio eich ymweliad.

SIOEAU GWYDDONIAETH BYW A CHYFLWYNIADAU YN Y PLANETARIWM

Er bod gan y sioeau hyn fel arfer Ganllaw Oed yn hytrach na Chyfyngiad Oed (gan amlaf 5+ neu 7+) ni fyddem fel arfer yn argymell dod â babanod na phlant ifanc iawn i’r sioeau. Mae hynny am sawl rheswm.

  • Mae’r profiadau’n tueddu i bara oddeutu 30 munud neu’n hirach — sydd yn amser hir i blant ifanc gadw’n llonydd.
  • Mae’r iaith a ddefnyddir yn fwy addas i blant 5 neu 7 oed ac yn hŷn. Gallai eithrio plant ifanc iawn, a pheri iddynt golli diddordeb.
  • Bydd yr ystafell yn dywyll neu’n rhannol dywyll am rhan fwyaf o’r amser, gyda’r posibilrwydd o oleuadau llachar yn ystod y sioe — gallai’r cyferbyniad yma beri gofid i rai.
  • Weithiau defnyddir synau uchel — megis bang, ac aroglau cryf — yn y sioeau gwyddoniaeth byw. Gallai hyn beri gofid i blant ifanc iawn.

Y LAB KLA

Mae gan y Lab KLA gyfyngiad oedran llym o 7+, ac mae hefyd gofyn i bob plentyn sy’n dod i’r lab, fod yng nghwmni oedolyn. Defnyddir cemegion yn y lab, ac felly mae’n rhaid i ni sicrhau bod pawb sy’n mynychu mor ddiogel â phosib. Nodwch ni chaniateir i fabanod na phlant ifanc ddod i’r ardal hon, dan unrhyw amgylchiadau.

Os fyddai rhagor o wybodaeth yn ddefnyddiol ar gyfer trefnu eich ymweliad, yna cysylltwch â ni ac fe wnawn ein gorau i’ch cynghori chi.