Techniquest

Rydyn ni am ddod â gwyddoniaeth yn fyw i bob cenhedlaeth gan ysbrydoli pobl o bob cefndir i archwilio a darganfod. Rydyn ni am ysgogi chwilfrydedd am y byd sydd o’n cwmpas — ar y blaned hon a thu hwnt i’r gofod pell.

Mae Techniquest yn gartref i Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (pynciau STEM), ac mae’r cyfan yn aros amdanoch chi. Dewch â’r cyfan yn fyw gyda’n casgliad o arddangosion ymarferol.

Mae Techniquest yn fwy nag atyniad poblogaidd. Drwy gydol y flwyddyn rydyn ni’n cydweithio ag ysgolion, myfyrwyr ac athrawon er mwyn cyfoethogi pynciau STEM, gan ennyn chwilfrydedd ledled y cwricwlwm.

Mae ein tîm wedi datblygu sioeau digidol sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm, er mwyn cefnogi dysgu yn y dosbarth, a hynny ar draws sawl Cam Cynnydd a Chyfnod Allweddol.

Rydyn ni’n cynnal cyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus i athrawon er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i roi’r addysg orau i’w disgyblion. Bob blwyddyn rydyn yn hwyluso Rhaglen Ymchwil Nuffield, sy’n cysylltu disgyblion blwyddyn 12 gydag ymchwilwyr proffesiynol. Dyma gyfle heb ei ail i bobl ifanc gael profiad o greu a chyflwyno adroddiadau a arweinir gan ddata.

Mae Addysg yn y Cartref yn rhan gynyddol bwysig o’r byd addysg cyfredol. Rydyn ni’n cynnal sesiynau ar brynhawniau penodol, sydd wedi’u teilwra’n arbennig i deuluoedd sy’n addysgu eu plant gartref. Mae ein siop ar-lein sydd newydd ei lansio hefyd yn adnodd ardderchog – yn llawn llyfrau difyr ac adnoddau gwyddonol i gefnogi addysgwyr yn y cartref a phob teulu sydd am ddysgu am bynciau STEM gartref.

Yn ogystal â’n sesiynau i ymwelwyr ac i ysgolion, rydyn ni’n annog aelodau ieuengaf a hynaf ein cymdeithas i ymwneud â gwyddoniaeth a thechnoleg drwy ein Diwrnodau Plant Bach misol, a’n Caffis Gwyddoniaeth i’r rheiny dros 50 oed. Rydyn ni hefyd yn cynnal digwyddiadau i oedolion yn unig, gyda’n digwyddiadau fin nos ar adegau drwy gydol y flwyddyn. Dyma gyfle i’r rheiny sydd dros 18 oed fwynhau’r arddangosfa mewn awyrgylch hamddenol, heb blant, gyda diod neu ddau.

Rydyn ni wrth ein boddau’n gweithio mewn partneriaeth ag eraill. Rydyn ni’n ceisio cysylltu â busnesau a sefydliadau sy’n rhannu meddylfryd tebyg o ran nod ac uchelgais.

Mae rhai o’r partneriaethau hyn i’w gweld yn glir yn ein harddangosion, gan gynnwys British Heart Foundation, Sonnedix Solar Energy, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, NatWest, CSconnected ac Academi Ddelweddau Genedlaethol Cymru.

Dyma sut gallai eich busnes chi gydweithio â Techniquest.

Rydyn ni hefyd wrth ein boddau’n cynnal parti da!

Rydyn ni’n cynnal partïon i blant ac oedolion fel ei gilydd, yn ogystal â digwyddiadau corfforaethol, swperau a chynadleddau – a hyd yn oed priodasau.

O bryd i’w gilydd byddwn ni hefyd yn mynd allan i’r gymuned i rannu ein hangerdd at wyddoniaeth.

Cadwch lygad barcud am ein Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned ar TikTok… mae o i’w weld yn arwain gweithdai llawn hwyl a sbri gyda phobl ifanc yn y Cymoedd, ac yng nghanol miri gŵyl Pride Caerdydd yn arwain gweithdy swigen yr enfys. Un da ydi o!

Os ydych chi am ddilyn ein newyddion diweddaraf, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr a dilynwch ni ar Twitter, Facebook, Instagram neu LinkedIn.

Diolch

Ni fyddai hyn yn bosib oni bai am haelioni unigolion, busnesau, ymddiriedolaethau a sefydliadau sy’n cyfrannu at gadw Techniquest ar agor ac yn weithredol.

O ychwanegu rhodd a Chymorth Rhodd i docynnau, i ddarparu grantiau mawr i greu rhaglenni i ysgolion neu gyflwyno arddangosion newydd: fel elusen addysgol rydyn ni’n ddibynnol ar werthu tocynnau ac ar bawb sy’n ein cefnogi ni.

Os ydych chi eisoes wedi cyfrannu mewn unrhyw ffordd, diolch o galon. Rydych chi’n rhan hanfodol o bopeth a wnawn!

CEFNOGWCH NI