Rydyn ni’n ceisio sicrhau bod pob un arddangosyn yn weithredol ar gyfer eich ymweliad, a gyda dros 100 i’w gweld, mae digon o ddewis.
Ond, gan ein bod ni’n ganolfan rhyngweithiol, ymarferol, mae’n anochel bod mecanwaith, rhannau electroneg neu strwythur ein harddangosion yn ffaelu o bryd i’w gilydd. Mae’n ddigon posib felly y bydd rhai arddangosion yn cael eu trwsio pan fyddwch yn ymweld.
Fel arfer gallwn drwsio pethau yn ddigon cyflym, ond weithiau gall bethau gymryd rhagor o amser, er enghraifft os fyddwn ni’n aros am ddarnau newydd i’n cyrraedd ni.
Ein nod yw cyfyngu ar y nifer o arddangosion sy’n cael eu trwsio ar unrhyw adeg. Byddwn hefyd yn cadw cofnod isod o unrhyw arddangosion sydd yn cael eu trwsio ac sy’n debygol o gymryd amser hirach, fel y gallwch wirio cyn eich ymweliad.
Mae ein Parth Golau Isel ar gau dros dro wrth i ni adeiladu rhai arddangosfeydd newydd cyffrous yn barod ar gyfer yr haf, gan gynnwys dychwelyd y Drysfa Drych! Peidiwch â phoeni, mae’r rhan fwyaf o’r arddangosfeydd o’r parth hwnnw wedi’u hadleoli fel y gallwch eu mwynhau o hyd.
Os ydych chi’n sylwi ar rywbeth sydd wedi torri neu ddim yn gweithio fel y dylai yn ystod eich ymweliad, dwedwch wrth aelod o staff. Gallwn ni fynd ati i’w drwsio yn syth bin. Weithiau’r cyfan sydd angen ei wneud yw ailgychwyn neu ailosod, sy’n ddigon hawdd.