Techniquest

Rydyn ni’n atyniadau pob tywydd, sy’n ystyriol o deuluoedd, wedi’n lleoli ym Mae Caerdydd. Beth am gynllunio diwrnod llawn yn y Bae, ynghlwm â’ch ymweliad i Techniquest?


Beth sydd i’w weld

Mae gwlyptiroedd Caerdydd ar ein stepen drws. Dyma lecyn tawel lle gallwch weld glas y dorlan yn ei anterth, neu fulfran yn gorffwys yn yr heulwen braf. Ardal hyfryd i fwynhau tamaid o fyd natur, tafliad carreg o brysurwch y ddinas. Lle bach da am bicnic hefyd!


Llefydd bwyta

Mae siop goffi ardderchog, Coffee Mania, ar ein safle — ond os hoffech chi fentro ymhellach, mae yna ddewis gwych o fwytai ym Mae Caerdydd.

O fwytai cyfarwydd, megis Wagamama, PizzaExpress, Nando’s a Bill’s i lefydd annibynnol megis Coffi Co neu Lo Lounge, mae yna rywbeth at ddant pawb (yn llythrennol!) yng Nghei’r Forwyn a thu hwnt. Beth am fwynhau hufen iâ o Cadwaladers hefyd? Mae eu detholiad gwych yn cynnwys opsiynau sy’n rhydd o glwten a hufen iâ sy’n rhydd o gynnyrch llaeth… a hyd yn oed hufen iâ i gŵn.

GWEITHGAREDDAU GERLLAW

Mae cymaint o weithgareddau ym Mae Caerdydd… bydd cynllunio diwrnod yma yn hawdd i chi!

Beth am fwynhau ffilm yn yr ODEON neu gêm o fowlio deg yng Nghanolfan y Ddraig Goch, neu sioe yn yr Eglwys Norwyaidd neu yng Nghanolfan Mileniwm Cymru? Cewch eich cyfareddu gan gelfyddyd wych Crefft yn y Bae, neu mwynhewch yr awyrgylch braf wrth fynd am dro.

Os oes well gennych chi dreulio amser ar y dŵr, mae nifer o deithiau cychod yn y Bae, a thacsi dŵr sy’n cludo pobl i ganol y ddinas. Profiad hyfryd iawn.

Darganfyddwch fwy am bopeth sy’n digwydd yn y Bae drwy fynd i dudalen Visit Cardiff Bay.

Am ragor o wybodaeth am weddill y ddinas, ewch i dudalen Croeso Caerdydd, neu i ganfod gwybodaeth am yr hyn sydd i’w wneud y tu hwnt i’r ddinas, ewch i dudalen Croeso Cymru.


Aros dros nos

Os ydych chi’n chwilio am le i aros yn yr ardal, mae yna ddigon o ddewis i bob cyllideb, gyda Gwesty Dewi Sant, Future Inns, Travelodge, Premier Inn a Chyfnewidfa Lo Caerdydd ymhlith y gwestai cyfagos.