Gall Addysgwyr yn y Cartref ddod a’u plant i Techniquest yn ystod y tymor ysgol am bris is.
Mae dau lawr o arddangosion ymarferol ar gael i gyfoethogi eu dysgu, yn ogystal â gweithgareddau ychwanegol opsiynol sy’n amrywio o fis i fis.
Tocyn | Gyda Rhodd* | Safonol |
---|---|---|
Plentyn | - | £5.00 |
Oedolyn yn mynychu gyda phlentyn 16+ Oed | £14.00 | £12.72 |
Tocynnau consesiwn i’r rheiny sy’n mynychu gyda phlentyn Yn gymwys i: Bobl hŷn (65+); ymwelwyr sydd ag anabledd; myfyrwyr sydd â cherdyn NUS dilys; derbynyddion Credyd Cynhwysol neu Lwfans Ceisio Gwaith. Mae’n bosib y byddwn yn gofyn i weld tystiolaeth adnabod. | £12.50 | £11.36 |
Plant dan 3 oed sy’n mynychu gyda phlentyn 0–2 Oed | Am ddim | Am ddim |
Rydyn ni am ei gwneud hi’n haws i deuluoedd sy’n addysgu gartref i ymweld â ni yn fwy aml.
Dyna pam ein bod ni’n cyflwyno tocyn oedolyn Addysgwr yn y Cartref — a’r peth gorau amdano? Mae’n costio’r un faint â thocyn oedolyn arferol.
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw prynu tocyn oedolyn yn mynychu gyda phlentyn fel arfer ar eich ymweliad cyntaf, yna fe wnawn ni ychwanegu eich enw at ein cynllun tocyn blwyddyn, ac ar ôl hynny byddwch ond yn talu am docynnau eich plentyn pan yn ymweld â ni!
Mae’r tocyn oedolyn Addysgwr yn y Cartref yn ddilys am 12 mis o ddyddiad eich ymweliad cyntaf.
Nodwch fod y tocyn ond yn ddilys yn ystod sesiynau Addysgwyr yn y Cartref, ac am fynediad yn unig.
Un dydd Mercher y mis yn ystod y tymor ysgol
dyddiadau ar gael