Mae’r gweithdai i ysgolion Techniquest yn anelu at ddenu hyd at 3,000 o ddisgyblion ysgol gynradd, rhwng 7–11 mlwydd oed, mewn dyfeisiad a thechnoleg, gyda ffocws arbennig ar y diwydiant lled-ddarlugydd. Bydd y cynllun yn darparu gweithdy yn y dosbarth sydd wedi’i ddylunio i gynyddu eu dealltwriaeth o’r sector lled-ddargludydd ac ysbrydoli gyrfaoedd mewn STEM. Mae ymchwil yn dangos dylai addysg am yrfaoedd dechrau o ysgol gynradd, ac mae’r prosiect hon yn ceisio plannu’r hedyn cynnar hynny!
Bydd y gweithdy yn dangos sut mae lled-ddargludyddion yn cynnal amrywiaeth eang o dechnolegau ac yn galluogi defnyddiau yn y dyfodol. Gobeithio bydd disgyblion yn elw o ddealltwriaeth well o’r defnyddiau’r peiriannau bychan trwy greu cynnwys sy’n berthnasol iddyn nhw — gall ffeindio nhw mewn ffonau symudol a pheiriannau gemau fideo, yn ogystal â robotiaid ac AI.
Bydd y dyfodol yn dibynnu arnyn nhw i gynnal cerbydau trydanol, egni adnewyddadwy a chyfathrebiad diogel. Rydyn ni eisiau cynyddu dealltwriaeth ond hefyd tanio diddordeb — i blannu’r hedyn o yrfa mewn STEM a’r diwydiant lled-ddargludyddion. Yn allweddol i lwyddo yn ein targed ac i adrodd yr agenda EDI, bydd y gweithdai yn cynnwys modeli card bwrdd o bobl sy’n gweithio yn y diwydiant lled-ddargludyddion gyda bwrdd gwybodaeth fel gall y disgyblion gweld yr amrywiaeth yn y sector ac adnabod y bobl sy’n ymddangos.
Yn dilyn cyflawniad y rhaglen gwaith allanol ar ddiwedd mis Gorffennaf 2025, gall digwyddiad lled-ddargludydd yn ein safle cael ei ddatblygu a llywyddu yn Techniquest yn ystod y term hydref. Bydd y digwyddiad yn darparu ail gyfle i ysgolion a wnaeth cymryd rhan yn y gweithdai i ymgymryd â’r pwnc, trwy ailadrodd negeseuon allweddol am y sector a chyfleoedd am yrfaoedd.
Mae’r ‘CREST Superstar Club’ yn rhaglen strwythurol gyda nifer o sesiynau sydd wedi’i ddylunio i ddenu plant rhwng 7–11 mlwydd oed mewn arbrofion gwyddoniaeth ymarferol sydd amdan led-ddargludyddion. Wedi’i gyflwyno fel rhan o’r fframwaith CREST Awards, bydd y clwb yn darparu dysgwyr ifanc gyda chyfle i feddwl ac ymddwyn fel gwyddonwyr a pheirianwyr trwy arbrofion a heriau ymarferol.
Bydd Techniquest yn datblygu a darparu’r Semiconductor Investigator Club, sydd yn rhedeg mewn ysgolion a chlybiau ar ôl ysgol. Bydd cyfanswm o 9 clwb yn cael eu darparu o Ebrill 2025 ymlaen, a bydd pob un yn targedu tua 20 disgyblion, sydd, fel canlyniad, yn meddwl bydd 180 o blant yn cymryd rhan mewn profiad dysgu effeithiol.