Hafan › Amdanom ni › Ein Bwrdd
Mae ein hymddiriedolwyr yn chwarae rhan hollbwysig yn sicrhau bod yr elusen yn diwallu anghenion ein cynulleidfa.
Mae’r Bwrdd yn goruchwylio rheolaeth a gweinyddiaeth Techniquest.
Ymunodd Karen â Bwrdd Techniquest yn 2015 a hi yw’r Cadeirydd cyfredol. Mae gan Karen dros 36 o flynyddoedd o brofiad yn gweithio ym maes addysg gynradd yn ne ddwyrain Cymru, a threuliodd 17 o’r blynyddoedd hynny fel prif athrawes. Treuliodd Karen ran helaeth o’i gyrfa yn gweithio mewn ardaloedd difreintiedig, ac yn sgil hynny mae hi’n angerddol dros sicrhau mynediad cyfartal i addysg o ansawdd uchel.
Penderfynodd Karen ymddeol yn gynnar yn 2013 ac aeth i wirfoddoli yn Cambodia. Treuliodd chwe mis yn gweithio fel ymgynghorydd addysgol ar brosiect UNICEF.
Ochr yn ochr â’i gwaith fel ymddiriedolwr Techniquest, mae hi hefyd yn gwirfoddoli gydag elusen canser lleol ac yn gadeirydd o’i changen lleol o Brifysgol y Drydedd Oes. Mae hi wrth ei bodd yn cerdded, beicio, garddio, darllen ac yn fwy diweddar mae hi’n mwynhau chwarae tennis bwrdd, Tai Chi a chanu gyda chôr lleol.
Fel Prif Swyddog Gweithredol Retail Merchandising Services (RMS) a sylfaenydd flex™, mae Daniel wedi defnyddio’i brofiad o arwain ar drawsnewidiad i ddatblygu a chryfhau gwaith ei ddiweddar dad. Sefydlodd tad Daniel, Peter O’Toole, RMS yn 2005, ar ôl gyrfa ym myd adwerthu, ond bu farw yn sydyn yn 2015.
Ers hynny mae Daniel wedi llywio’r busnes teuluol ac mae wedi buddsoddi’n sylweddol yn nhechnoleg, gyda flex™, platfform hynod lwyddiannus a ddefnyddir gan bob un o brif siopau’r DU ac Iwerddon. Fel cydnabyddiaeth o’i lwyddiannau, enillodd wobr ‘Cyfarwyddwr Newydd y Flwyddyn’ Sefydliad Cyfarwyddwyr y DU yn 2018.
Ar ôl graddio mewn Cemeg, etholwyd Daniel yn Arlywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bath yn 2009. Yn ystod ei gyfnod yno, roedd e’n gyfrifol am sefydliad llewyrchus a chanddi 15,000 o aelodau a throsiant blynyddol o £5m. Roedd e’n Gadeirydd y Bwrdd ac fe arweiniodd ar dîm o bum Is-gadeirydd, gan weithio’n agos gydag uwch-reolwyr i oruchwylio datblygiadau strategol. Fe’i hail-etholwyd am ail flwyddyn yn 2010.
Yn rhinwedd ei swydd fel partner yng nghwmni cyfraith masnachol, Acuity Law, mae Phil yn arbenigo mewn gwaith corfforaethol a masnachol, gyda diddordeb penodol mewn uno, caffaeliadau a thechnoleg. Mae e wedi gweithio gyda nifer o gwmnïau deillio a chwmnïau technoleg, yn ogystal â threulio cyfnod yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd yn eu tîm datblygu masnachol a throsglwyddo technoleg.
Mae Phil yn uchel ei barch yn y sector, ac yn cynghori ar werthiant a chaffaeliadau ar gyfer nifer o gwmnïau technoleg/TG, ac yn darparu cyngor arbenigol ar allanoli, gwe-letya a storfa cwmwl i ddefnyddwyr a chyflenwyr.
“Rydw i wrth fy modd yn ymuno â bwrdd Techniquest. Rydw i wedi ymweld â’r ganolfan sawl tro, a gan fod fy ngwraig yn athrawes dw i’n deall pa mor bwysig yw hi i hyrwyddo addysg STEM yn y gymuned. Rydw i’n edrych ymlaen at gydweithio ag aelodau eraill o’r Bwrdd i arwain Techniquest i’r lefel nesaf, a helpu’r sefydliad drwy’r cyfnod anodd hwn.”
Julia Mortimer FCCA yw Pennaeth Archwilio a Phartner Ariannu Watts Gregory LLP, sef cwmni annibynnol efo portffolio amrywiol o gleientiaid preifat a chleientiaid busnes. Mae ganddi brofiad eang yn gweithio ag elusennau a chyfundrefnau nid-er-elw, yn darparu cyngor ar eu systemau a rheolydd.
Graddiodd o Brifysgol Caerdydd â gradd yn nghyfrifeg, cyn gweithio i gwmni cyfrifeg fawr yn Ardal y Llynnoedd am nifer o flynyddoedd. Dychwelodd yn ôl i dde Cymru ym 1997, a symudodd i gwmni yng Nghasnewydd cyn ymuno â Watts Gregory yn 2004.
Mae Julia yn Gyfrifydd Siartredig Ardystiedig, mae hi wedi priodi, a chanddi ddau fachgen ac un ci. Mae hi’n mwynhau cerdded, gwylio rygbi a mynd ar wyliau.
Gyda dros dri degawd yn arwain ar welliannau perfformiad ar lefel uwch, gweithiodd Gerald gynt fel Cyfarwyddwr Masnach i Coca Cola yn y DU. Dychwelodd e nôl i Gymru ym 1998 a rhedodd uned fusnes Wales and West fel Rheolwr Gyfarwyddwr Rhanbarthol — gyda throsiant o dros £125 miliwn a 250 aelod o staff.
Roedd Gerald yn allweddol yn trefnu cytundebau nawdd o bwys megis y WRU, Stadiwm y Mileniwm, Wales Open, Cardiff Devils, Cardiff City FC a’r Cwpan Ryder — ochr yn ochr â rhaglenni llawr gwlad i gefnogi polisïau’r cwmnïau o hybu cyfranogiad. Mae Gerald yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar Fwrdd Seiclo Cymru a Chymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru ers 2018.
Hefyd, e yw sylfaenydd Go To Market Solutions Ltd, sy’n cynghori busnesau newydd, rhai sy’n edrych i dyfu, a busnesau mawr sydd eisiau gweithio’n fwy effeithlon.
Mae Gerald wastad wedi byw yng Nghaerdydd ac yn mwynhau’r mwyafrif o chwaraeon — ac mae’n feiciwr brwd iawn. Mae hefyd yn wirfoddolwr gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog ac yn Fentor Busnes Cymru.
Fel peiriannydd daw Rita â dros ugain mlynedd o brofiad o weithio yn y sector gyhoeddus, y sector breifat a’r trydydd sector, i Fwrdd Techniquest. Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd lle bu’n astudio Peirianneg Amgylcheddol, aeth Rita ymlaen i gwblhau MPhil ym Mhrifysgol Caergrawnt, a chychwynnodd ei gyrfa yn gweithio fel peiriannydd yn y diwydiant dŵr ac yna yn y diwydiant adeiladu.
Gweithiodd Rita ar ddatblygu a gweithredu polisi cynaliadwyedd yn Awdurdod Llundain Fwyaf, yna gyda Cynnal Cymru, wedyn gyda Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, i ddatblygu a llywio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Hi fu’n cynnal y drafodaeth genedlaethol ‘Y Gymru a Garem’ a fu’n rhan o sefydlu nodau llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Bu gynt yn Gyfarwyddwr elusen Size of Wales – sy’n cefnogi gweithredoedd cymunedol i warchod coedwigoedd trofannol – ac mae hi bellach yn Bennaeth ar Faterion Cyhoeddus y DU ar gyfer adrannau ‘Insulated Panels’ a ‘Insulation’ cwmni Kingspan.
Mae Rita hefyd yn ymddiriedolwr ar gyfer Canolfan Mileniwm Cymru ac yn Gyfarwyddwr Common Cause Foundation a Masnach Deg Cymru.
Gwyddonydd yw Amanna, a chanddi ystod eang o arbenigedd, sy’n cynnwys sŵoleg, firoleg a gwyddoniaeth amgylcheddol. Mae ganddi brofiad o weithio fel ymchwilydd prifysgol, ac mae hi wedi gweithio yn rhyngwladol mewn labordai gofal iechyd. Mae ganddi dros ddegawd o brofiad o weithio i gyrff cyhoeddus yn datblygu gwyddoniaeth sy’n cefnogi rheolaeth pysgodfeydd a monitro ansawdd môr a dŵr. Mae swyddi datblygu, cyfathrebu, cyhoeddi ac adwerthu hefyd yn rhan o’i gyrfa hyd yn hyn. Mae Amanna hefyd wedi gweithio yn y sector elusen, yn gweithio gyda ffoaduriaid ac yn rheoli cymorth cyntaf ac ymateb i argyfwng mewn digwyddiadau yn y gymuned.
Ar hyn o bryd mae Amanna yn gweithio fel uwch reolwr gyda’r gwasanaeth sifil. Yn ei gwaith mae hi’n dod ag arbenigwyr gwyddonol ynghyd i wella ar wneud penderfyniadau datblygu a gweithredu polisi. Mae hi’n credu’n gryf mai datblygu pobl sydd wrth wraidd llwyddiant unrhyw sefydliad, ac mae hi’n gweithio’n frwd dros wella amrywiaeth er mwyn gwella’r cyngor a’r polisïau a ddaw o’i hadran.
Mae Amanna yn fam i ddwy o ferched sydd yn yr ysgol gynradd ac mae hi wedi treulio oriau maith yn Techniquest – yn enwedig yn yr ardal ddŵr! Mae ganddi brofiad uniongyrchol o’r ffordd anhygoel y gall Techniquest cyflyno gwyddoniaeth i blant. Mae hi’n angerddol dros sicrhau bod gan bob plentyn, gan gynnwys y rheiny sydd ag anableddau dysgu ac anableddau corfforol, gyfleoedd i ymwneud ag addysg wyddonol.
Fel aelod o’r Bwrdd, mae Amanna yn gobeithio y bydd ei chefndir gwyddonol, ei hangerdd dros gynhwysiant a datblygu pobl, yn ogystal â’i hangerdd dros dechnoleg yn helpu Techniquest i barhau i fynd o nerth i nerth.
Yn rhinwedd ei swydd fel Rheolwr Rhanddeiliaid ar gyfer Trafnidiaeth Cymru, mae Kelsey yn arbenigo mewn datblygu partneriaethau, CA + Ch, ymgysylltu â’r cyhoedd ac ymchwil sy’n ffocysu ar y defnyddiwr. Mae hi’n gyfrifol am ddatblygu cysylltiadau a chyfathrebu rhaglenni trafnidiaeth gyhoeddus eang ar draws Caerdydd, megis Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd a gwelliannau i Linell y Bae.
Bu gynt yn Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned yn Techniquest, ac yn Gydgysylltydd Cymunedol ar gyfer Sefydliad y Deillion Caerdydd. Mae ganddi brofiad eang o ddatblygu rhaglenni cynhwysol ar y cyd â’r gymuned.
Mae Kelsey yn angerddol dros rymuso menywod i ddilyn gyrfaoedd ym myd STEM. Yn dilyn ei phrofiad o gysgodi bwrdd cyfarwyddwyr Chwarae Teg drwy eu rhaglen ‘step to non-exec’ mae hi’n awyddus i weld menywod ifanc yn cael eu cynrychioli ar fyrddau. Creda Kelsey yn gryf bod ymgysylltu â merched ifanc drwy brofiadau addysgol a diwylliannol – megis cyfleoedd a gynigir gan Techniquest – yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod cydbwysedd rhwng y rhywiau mewn gweithluoedd STEM y dyfodol.