Techniquest

Mae nifer o gyfleoedd partneriaeth ar gael i weddu eich sefydliad chi.

A hoffech chi weld enw eich cwmni ar bwys eich hoff arddangosyn, ardal neu ystafell? Efallai yr hoffech chi weithio gyda’n tîm o arbenigwyr i ddatblygu prosiect sy’n dod â gwaith eich sefydliad chi at sylw ein cynulleidfa ni. Neu efallai yr hoffech wobrwyo eich tîm gyda thocynnau neu ddigwyddiadau yn Techniquest?

Drwy ein Cynllun Aelodaeth Corfforaethol, gallwch gefnogi canolfan darganfod gwyddoniaeth fwyaf Cymru a pharhau i ysbrydoli pobl ifanc a chymunedau. Ar yr un pryd, byddwch yn cynyddu ymwybyddiaeth o’ch brand, yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac yn gwella ar brofiad eich staff.

Mae ein cynllun yn cychwyn o £1,000 + TAW

  CYSYLLTWCH Â NI

“Rydyn ni’n falch iawn o berthynas Admiral â Techniquest, a’n rôl fel noddwr corfforaethol.

“Rydyn ni wedi bod yn cydweithio am dros ddegawd. Mae’r bartneriaeth yn esiampl dda o’n hethos — sef cefnogi sefydliadau yn ein cymuned leol a darparu buddion ecsgliwsif i’n cydweithwyr.

“Mae Techniquest yn adnodd ardderchog i blant ac oedolion — ac yn cynnig gweithgareddau ac addysg hwyliog. Rydyn ni’n falch iawn bod ein cefnogaeth yn helpu Techniquest i barhau i arloesi.”

Rhian Langham, Pennaeth Gwasanaethau Pobl

TYNNWCH SYLW AT EICH BRAND DRWY NODDI EICH HOFF ARDDANGOSYN, ARDAL NEU YSTAFELL YMA YN TECHNIQUEST

Mae noddi Techniquest yn ffordd wych o amlygu eich brand, tyfu adnabyddiaeth a chynyddu eich cynulleidfa. Mae e hefyd yn ffordd arbennig o roi yn ôl i’ch cymuned; byddwch yn cyfrannu at addysg y genhedlaeth nesaf o weithwyr STEM.

Lansiodd Alison Rose, Cyn-Prifweithredwr NatWest yr arddangosyn ‘Island Saver’ yn Techniquest. Bwriad yr arddangosyn yw cynyddu ymwybyddiaeth o newid hinsawdd a gwella sgiliau ariannol pobl ifanc mewn ffordd hwyliog. Dyma bartneriaeth a fydd yn talu ar ei ganfed i Techniquest, NatWest a’r bobl ifanc sy’n ymwneud ag Island Saver.

Mae rhai o’r sefydliadau eraill sydd wedi gweithio gyda ni yn cynnwys:

Chwith: ‘Electrocardiogram’, noddwyd gan British Heart Foundation; canol: ‘Future Technologies’, noddwyd gan CSconnected; dde: ‘SolQuest’, noddwyd gan Sonnedix

Mae oddeutu 160,000 o ymwelwyr yn ymwneud â ni bob blwyddyn, gan gynnwys teuluoedd, disgyblion ysgol a’u hathrawon ac oedolion annibynnol.

Gallwn gydweithio i dargedu ymwelwyr, derbynwyr ein cylchlythyr a’n dilynwyr ar gyfryngau cymdeithasol, er mwyn sicrhau bod eich brand yn cyrraedd y bobl gywir.

Er mwyn clywed am gyfleoedd cefnogi cyfredol, cysylltwch â ni.