Nodwch gall arddangosion cael eu hychwanegu, symud neu godi dros amser. Fel canlyniad, mae’n bosib dydy’r ardaloedd ddim yn edrych fel maen nhw ar y wefan.

Wedi’i leoli ger y glannau yng nghalon Bae Caerdydd, mae gan Techniquest dros 100 o arddangosion ymarferol sy’n gadael i chi brofi gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg mewn ffordd hwyliog a chyffrous.

Fel un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd pob tywydd i deuluoedd yng Nghymru, mae Techniquest bellach yn cynnig rhywbeth i blant ac oedolion o bob oed. Wrth i chi ddod i mewn i’r adeilad fe welwch y ‘Science Capital’, sydd â phum parth gwahanol sy’n ffocysu ar y gofod, yr amgylchfyd, cemeg, materion y byd a gwyddoniaeth fiofeddygol.

Yn ogystal â’r rhain, fe welwch gasgliad o arddangosion clasurol Techniquest ar ochr Retro yr adeilad. Dyma le gwych i blant ifanc eich grŵp: Mae’r ardal ddŵr, y piano anferthol a’r ardal gwylio morgrug yn ffefrynnau oesol.

Beth am danio dychymyg aelodau ieuengaf y grŵp? Bydd plant o dan 7 blwydd oed wrth eu boddau yn y Parth Chwarae Metro Bach newydd ar y llawr cyntaf: ewch i fyny’r grisiau, tu ôl i’r fraich robot, wrth yr ardal bicnic.

Mae yna ragor o hwyl ar yr ail lawr, ble gallwch fynd yn ymarferol ym Mharth Creu a Siapio Bradbury. Treulio amser gwerthfawr â’r teulu yn creu modeli gardbord, origami prydferth, adeiladau cryf neu Sbirograffau mesmerig — mae gydach chi’r dewis.

Ac mae mwy! Mae yna sioeau gwyddoniaeth byw yn yr awditoriwm; Planetariwm 360° glyd a’r Lab KLA lle mae modd mwynhau gweithdai drwy gydol y flwyddyn. Cymerwch olwg ar y calendr i weld beth sy’ mlaen yn ystod eich ymweliad chi, a chofiwch glicio ‘ychwanegu’ er mwyn ychwanegu’r profiad wrth brynu eich tocynnau cyffredinol.

Hen neu ifanc, mae byd o ffeithiau difyr i’w ddarganfod, a chyfle i archwilio gwyddoniaeth drwy beiriannau anhygoel, dyfeisiau rhyfeddol, posau a phyrth digidol diri.

Y lle perffaith i dreulio amser gyda’r teulu, i fwynhau gyda ffrindiau, i addysgu’r genhedlaeth nesaf neu ddarganfod gwyddoniaeth yn hwyrach mewn bywyd. Mae gwledd wyddonol yn aros amdanoch chi, waeth be fo’ch oedran. Cymerwch eich amser i ddarganfod pa arddangosion sydd o ddiddordeb i chi.

Does dim pwysau arnoch chi i ddysgu mewn dyfnder am wyddoniaeth yn ystod eich ymweliad. Gallwch ddysgu mwy am bynciau amrywiol drwy’r sgriniau sydd wedi’u cysylltu at rai o’n harddangosion mwyaf diweddar, ac mae ein tîm arbenigol bob amser yn barod i ateb eich cwestiynau.

Os ydych chi eisiau diwrnod llawn hwyl a sbri gyda’r plant ac am greu atgofion arbennig, rydyn ni’n argymell y profiad Corwynt a’r llithren arian anferthol — mannau gwych i dynnu lluniau!

Mae Teras y Dwyrain bellach yn gartref i ardd synhwyraidd. Ewch yno i weld, teimlo ac arogli’r amrywiaeth o blanhigion, neu cymerwch hoe fach o’r arddangosion, eisteddwch a mwynhau’r olygfa ar draws y bae.

Mae miliynau o bobl wedi mwynhau treulio amser yn Techniquest dros y blynyddoedd, a bellach mae rhywbeth yma i ddiddanu pawb o bob oed. Gydag estyniad ‘Science Capital’ mae Techniquest wedi tyfu o ran maint ac wedi tyfu i fyny hefyd. Mae technoleg hen a newydd wrth law i wneud gwyddoniaeth yn hwyliog ac yn hygyrch i bob cenhedlaeth. Trwy brofiadau ymarferol a llawn hwyl mae dysgu a chofio pethau newydd.

Os ydych chi’n ymweld â ni am y tro cyntaf ac yn brin o amser mae Taith 3D a chanllaw bach i ambell i uchafbwynt ar gael yma:

Agorwch y daith mewn ffenest newydd. Gyda diolch i Picture It 360.

  Agor y map

Beth bynnag fo’ch oedran, a faint bynnag neu gyn lleied y credwch eich bod yn ei wybod am wyddoniaeth, mae digon i’w weld a’i ddarganfod ar ymweliad i Techniquest.

Elusen

Fel elusen, rydyn ni’n dibynnu ar gefnogaeth ein hymwelwyr a’n cyllidwyr i gadw i fynd. Mae unrhyw rodd, mawr neu fach, yn ein helpu i gadw ein drysau ar agor, croesawu mwy o ymwelwyr, gweithio gydag ysgolion a galluogi mwy o bobl i brofi a mwynhau gwyddoniaeth gyda ni bob blwyddyn.

Os gallwch chi helpu drwy roi rhodd neu ychwanegu Cymorth Rhodd at eich tocyn pan fyddwch yn archebu, yna diolch!

Darganfod mwy