Profwch y gweithdy ymarferol hwn lle byddwch chi’n cymysgu eich pot personol eich hun o lysnafedd.
Beth sy’n gwneud llysnafedd yn llysnafeddog? A fydd eich un chi’n gludiog neu’n flewog? Yn ddisglair neu’n gros? Gyda llwyth o gynhwysion a lliwiau i arbrofi gyda nhw yn y labordy, gallwch ei wneud eich hun.
Mae’n wyddoniaeth anhrefnus, hudolus ar ei orau — ac mae pawb yn gadael gyda’u blob gwych eu hunain o lysnafedd i fynd adref!

Archebwch eich tocynnau Techniquest
Nodwch mai Saesneg yw iaith y sioe hon.
Dydy’r gweithgaredd hwn ddim yn addas i blant dan 5 oed. Mae pob plentyn sy’n archebu tocyn angen cael eu cyfeilio gan o leiaf 1 oedolyn taledig. Bydd ’na dim mynediad i blant dan 5.
Mae’r gweithdy yn rhedeg am 45 munud. Please allow an additional 45 minutes for your bath bomb to dry in the lab before you can take it home with you.
Mae’r gweithdy hwn yn cynnwys defnyddio glud PVA, sodiwm bicarbonad, hydoddiant lensys gyffwrdd, ewyn eillio, persawr/olewau hanfodol ar gyfer arogl a phowdr mica ar gyfer lliwio. Gall rhai o’r cynhwysion hyn gynnwys alergenau neu llidwyr. Bydd menig nitril (latecs a phowdr) ar gael.
Mae yna le am ddwy gadair olwyn. Mae ein Lab KLA yn ardal caeedig, ond gallwch chi adael os oes angen. Mae bagiau synhwyraidd ar gael o’r desg tocynnau (blaen-dâl ad-daliadol o £20, yn dibynnu ar argaeledd).
Plîs nodwch fod angen i bob tocyn sioe cael ei archebu law-yn-llaw efo tocyn cyffredinol. Mae un tocyn yn cynnwys pecyn labordy am 1 plentyn ac 1 oedolyn yn ei gwmni. Mae angen tocyn am becyn ar gyfer bob plentyn sy’n cymryd rhan. Gall oedolyn ychwanegol mynychu’r labordy ar y dydd, yn amodol ar argaeledd ac ar ddisgresiwn rheolwr y labordy.
11–12 Gorffennaf, wedyn pob dydd o 17 Gorffennaf–2 Medi
dyddiadau ar gael