Mae ein siop yn llawn dop ag anrhegion gwahanol, llyfrau difyr a gemau hwyliog i bawb o bob oed.
Nid oes angen tocyn ar gyfer Techniquest i ymweld â’n siop. Mae croeso i chi alw i mewn rhwng 10am a 5pm, ddydd Mercher i ddydd Sul yn ystod y tymor ysgol, a saith diwrnod yr wythnos yn ystod y gwyliau ysgol lleol.
Mae detholiad gwych o anrhegion yma, o gofroddion Techniquest i fodelau, posau ac arbrofion difyr — perffaith i egin wyddonwyr eich teulu chi. Y lle perffaith i’r plant fachu eitemau gwych gyda’u harian poced.
Rydyn ni newydd lansio siop ar-lein sy’n cynnwys detholiad o’r nwyddau sydd ar gael yn ein siop.