Addysg
10am–5pm
5+ Oed
Sioeau a gweithdai ar gael

Gall Addysgwyr yn y Cartref ddod a’u plant i Techniquest yn ystod y tymor ysgol am bris is.

Mae dau lawr o arddangosion ymarferol ar gael i gyfoethogi eu dysgu, yn ogystal â gweithgareddau ychwanegol opsiynol sy’n amrywio o fis i fis.

  Archebu tocynnau


 

Gweithgareddau Diwrnod Addysgwyr yn y Cartref

Mae Sioeau Gwyddoniaeth Byw a gweithdai labordy addysgol ar gael yn ystod diwrnodau addysgwyr yn y cartref am gost ychwanegol bychan (mae llefydd yn gyfyngedig).

Ar ddyddiau pan fydd mwy nag un Sioe Wyddoniaeth Fyw yn y Theatr Wyddoniaeth, mae mynediad i un sioe yn caniatáu mynediad am ddim i’r sioe arall. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud ydi ychwanegu’r ddwy i’ch basged a byddwn yn sicrhau bod y gostyngiad yn cael ei ychwanegu cyn i chi dalu. Nodwch mai gostyngiad ar gyfer y Sioeau Gwyddoniaeth Byw ydi hwn yn unig, ac nid yw’n gymwys ar gyfer y gweithdai Lab na’r Planetariwm.


Cynnig Arbennig: 11 & 12 Gorffennaf Penwythnos lansio’r Haf Anhygoel

Os oes gennych Docyn Addysgwr yn y Cartref Oedolion ac wedi mynychu Diwrnod Addysgwyr yn y Cartref dros y 12 mis diwethaf, cadwch lygad ar eich mewnflwch e-bost am gynnig tocynnau arbennig ar gyfer ein penwythnos lansio yr Haf Anhygoel ddydd Sadwrn 11 a dydd Sul 12 Gorffennaf. Byddwn yn lansio 10 arddangosfa newydd, sioe fyw newydd a labordy llysnafedd, a byddem wrth ein bodd i chi fod yn un o’r cyntaf i’w profi.

Bydd Diwrnodau Addysgwyr yn y Cartref yn ôl fel arfer ym mis Medi!


 

Mynediad i ddwirnod addysgwyr yn y cartref

TocynGyda Rhodd*Safonol
Plentyn-£5.00
Oedolyn yn mynychu gyda phlentyn
16+ Oed
£17.00£15.45
Tocynnau consesiwn i’r rheiny sy’n mynychu gyda phlentyn
Yn gymwys i: Bobl hŷn (65+); ymwelwyr sydd ag anabledd; dalwyr 'Blue Light Card'; myfyrwyr sydd â cherdyn NUS dilys; derbynyddion Credyd Cynhwysol neu Lwfans Ceisio Gwaith. Mae’n bosib y byddwn yn gofyn i weld tystiolaeth adnabod.
£15.00£13.63
Plant dan 3 oed sy’n mynychu gyda phlentyn
0–2 Oed
Am ddimAm ddim
* Mae Techniquest yn elusen gofrestredig ac mae tocyn yn cynnwys rhodd wirfoddol o oddeutu 10%. Mae hyn yn galluogi Techniquest i hawlio Rhodd Cymorth ar 100% o bris mynediad. Mae pob ceiniog yn mynd tuag at gefnogi Techniquest a’i nod o sicrhau bod gwyddoniaeth yn agored i bawb.

  Archebu tocynnau

Tocyn oedolyn, Addysgwr yn y Cartref


Rydyn ni am ei gwneud hi’n haws i deuluoedd sy’n addysgu gartref i ymweld â ni yn fwy aml.

Dyna pam ein bod ni’n cyflwyno tocyn oedolyn Addysgwr yn y Cartref — a’r peth gorau amdano? Mae’n costio’r un faint â thocyn oedolyn arferol.

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw prynu tocyn oedolyn yn mynychu gyda phlentyn fel arfer ar eich ymweliad cyntaf, yna fe wnawn ni ychwanegu eich enw at ein cynllun tocyn blwyddyn, ac ar ôl hynny byddwch ond yn talu am docynnau eich plentyn pan yn ymweld â ni!


Mae’r tocyn oedolyn Addysgwr yn y Cartref yn ddilys am 12 mis o ddyddiad eich ymweliad cyntaf.
Nodwch fod y tocyn ond yn ddilys yn ystod sesiynau Addysgwyr yn y Cartref, ac am fynediad yn unig.

Mae ein ffrindiau yn Crossroads hefyd yn rhedeg Gweithdai Gwyddonol yn ein Labordy am ddisgyblion 11–16 oed sy’n dysgu o’r cartref.

Ymweld â gwefan Crossroads i ddarganfod mwy ac i archebu.

 

Pryd?

Un dydd Mercher y mis yn ystod y tymor ysgol

Ebrill 2037
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Dydd Sul
Dydd L
Dydd M
Dydd M
Dydd I
Dydd G
Dydd S
Dydd S
30
31
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
1
2
3

dyddiadau ar gael

Gweithgareddau eraill yn Techniquest