Mae Techniquest yn gartref i dros 100 o arddangosion ymarferol sy’n dod â gwyddoniaeth a thechnoleg yn fyw mewn ffordd fythgofiadwy.
O beiriannau anhygoel i ddyfeisiau rhyfeddol a phosau dyrys sy’n profi nerth a gallu, yn ogystal â llithren arian arbennig. Mae rhywbeth i ddiddanu pawb o bob oed.
Gallwch brofi nerth corwynt a phŵer daeargryn, creu tân gwyllt digidol a chynnal llawdriniaeth rithiol. Beth am roi cynnig ar yrru llong danfor neu lanio llong ofod, gwylio’r gytref o forgrug dan olau isel neu mwynhau’r olygfa ysblennydd o Fae Caerdydd yn ein gardd synhwyraidd.
Mae sawl parth i’w fwynhau: y gofod, yr amgylchfyd, cemeg, biofeddygol a materion y byd, yn ogystal ag Ardal Retro sy’n boblogaidd iawn gyda phlant. Dewiswch yr ardaloedd sydd o ddiddordeb i chi, a mwynhewch!
Os fyddwch chi’n rhedeg allan o amser i weld pob dim, peidiwch â phoeni!
Cymerwch olwg ar ein Tocyn Adegau Tawel i weld sut gallwch ymweld dro ar ôl tro.
Drwy gydol y flwyddyn
dyddiadau ar gael