Ar Ddiwrnodau Plant Bach mae’r arddangosfeydd wedi’u neilltuo i blant bach, er mwyn iddynt gael mwynhau mewn awyrgylch ddiogel.

Yn ystod pob Diwrnod Plant Bach bydd nifer o weithgareddau wedi’u teilwra’n arbennig i’ch plant ifanc. Mae rhai yn gynwysedig ym mhris eich tocyn ac mae ambell i un yn costio’n ychwanegol.
Rhan o bob Diwrnod Plant Bach
Yn gynwysedig ym mhris eich tocyn
Addurnwch eich hun gyda throsluniau lliwgar, a dangoswch y patrymau gwych i’ch ffrindiau bach.
Rhan o bob Diwrnod Plant Bach
Yn gynwysedig ym mhris eich tocyn
Ydy’r plantos angen hoe fach o’r arddangosfeydd? Beth am ymlacio a mwynhau bod yn greadigol?
Rhan o bob Diwrnod Plant Bach
Yn gynwysedig ym mhris eich tocyn
Beth am swatio yn ein cornel ddarllen a mwynhau casgliad hyfryd o lyfrau Cymraeg a Saesneg a storïau rhyngweithiol.
Yn ychwanegol i reini, dyma’r gweithgareddau eraill sydd ar gael ar bob Diwrnod Plant Bach:
Mae Pipkin, y pengwin mwyaf bychan, wastad yn ofyn cwestiynau, ond beth mae fe eisiau gwybod y mwyaf yw pa mor fawr yw miliwn? Felly, mae’n mynd bant i’w ddarganfod!
Ymunwch â ni am daith ryngweithiol y synhwyrau, wrth i ni gwrdd â Pipkin, darganfod beth mae cant o bengwiniaid yn edrych fel, ac yn creu pengwin ein hun i’w gymryd adref.
£3.50 y plentyn
Cerddoriaeth a Symudiad i chi a’ch plentyn bach!
Mae’r sesiynau wedi’i gynnwys yn y pris mynediad Dydd Plant Bach ond mae angen i chi archebu o flaen llaw i warantu eich lle.
Wedi’i gynnwys yn bris mynediad.
Fel mae pawb yn gwybod, mae pengwiniaid yn byw ym Mhegwn y De tra bod eirth wen yn byw ym Mhegwn y Gogledd, ond beth sy’n digwydd pan mae pengwiniaid yn colli eu ffordd?
Ymunwch â ni ar daith ryngweithiol y synhwyrau wrth i ni gwrdd â theulu o bengwiniaid, teithio o gwmpas y byd yn chwilio am bicnic a chreu pobl eira ein hun!
£3.50 y plentyn
Mae ein ffrindiau o Monkey Music yn llywyddu sesiynau trwy’r dydd.
Gall eich plant bach darganfod offerynnau a cherddoriaeth newydd yn y gweithdy hwn. Mae’r sesiynau wedi’i gynnwys yn y pris mynediad Dydd Plant Bach ond mae angen i chi archebu o flaen llaw i warantu eich lle.
Wedi’i gynnwys yn bris mynediad.
Mae’r sgriblwr yn sgriblo ar dy lyfr! Beth rydyn ni am wneud?
Ymunwch â ni ar daith ryngweithiol y synhwyrau wrth i ni gwrdd ag archarwr, darganfod ei bwerau, a chreu mwgwd dy hun i gymryd adref.
£3.50 y plentyn
Mae ein ffrindiau o Monkey Music yn llywyddu sesiynau trwy’r dydd.
Gall eich plant bach darganfod offerynnau a cherddoriaeth newydd yn y gweithdy hwn. Mae’r sesiynau wedi’i gynnwys yn y pris mynediad Dydd Plant Bach ond mae angen i chi archebu o flaen llaw i warantu eich lle.
Wedi’i gynnwys yn bris mynediad.
| Math o docyn | Gyda rhodd* | Safonol |
|---|---|---|
| Plant bach 0–2 oed | Am ddim | Am ddim |
| Oedolyn 16+ oed | £14.00 | £12.72 |
| Plentyn 3–15 oed | £12.00 | £10.90 |
| Consesiwn Yn gymwys i: Bobl hŷn (65+); oedolion sydd ag anabledd; myfyrwyr sydd â cherdyn NUS dilys; derbynyddion Credyd Cynhwysol neu Lwfans Ceisio Gwaith. Mae’n bosib y byddwn yn gofyn i weld tystiolaeth adnabod. | £12.50 | £11.36 |
| Gofalwr hanfodol/helpwr personol | Am ddim | Am ddim |
| Teulu Hyd at 5 person, uchafswm o 2 oedolyn (16+) | £48.00 | £43.63 |
* Mae Techniquest yn elusen gofrestredig ac mae tocyn yn cynnwys rhodd wirfoddol o oddeutu 10%. Mae hyn yn galluogi Techniquest i hawlio Rhodd Cymorth ar 100% o bris mynediad. Mae pob ceiniog yn mynd tuag at gefnogi Techniquest a’i nod o sicrhau bod gwyddoniaeth yn agored i bawb.
Un dydd Gwener y mis yn ystod y tymor ysgol
dyddiadau ar gael