Ar Ddiwrnodau Plant Bach mae’r arddangosfeydd wedi’u neilltuo i blant bach, er mwyn iddynt gael mwynhau mewn awyrgylch ddiogel.

Yn ystod pob Diwrnod Plant Bach bydd nifer o weithgareddau wedi’u teilwra’n arbennig i’ch plant ifanc. Mae rhai yn gynwysedig ym mhris eich tocyn ac mae ambell i un yn costio’n ychwanegol.
Rhan o bob Diwrnod Plant Bach
Yn gynwysedig ym mhris eich tocyn
Addurnwch eich hun gyda throsluniau lliwgar, a dangoswch y patrymau gwych i’ch ffrindiau bach.
Rhan o bob Diwrnod Plant Bach
Yn gynwysedig ym mhris eich tocyn
Ydy’r plantos angen hoe fach o’r arddangosfeydd? Beth am ymlacio a mwynhau bod yn greadigol?
Rhan o bob Diwrnod Plant Bach
Yn gynwysedig ym mhris eich tocyn
Beth am swatio yn ein cornel ddarllen a mwynhau casgliad hyfryd o lyfrau Cymraeg a Saesneg a storïau rhyngweithiol.
Yn ychwanegol i reini, dyma’r gweithgareddau eraill sydd ar gael ar bob Diwrnod Plant Bach:
Teimlwch yn gysurus yn ein Planetariwm clyd am amser stori o dan y seren a thaith fer mewn i’r gofod.
Mae llyfr y mis hwn yn “Under the Bed” gan Paul Bright — stori odledig amdan gwahanol bryfed ac anifeiliaid sy’n byw o dan y gwely, gan gynnwys un anghenfil ofnus sy’n sugno ei fys bawd.
£2 y plentyn
Mae Mini Movement yn ddosbarth dawnsio i fabanod, plant bach, a rhieni wedi’i ddatblygu gan ffisiotherapydd pediatrig ac athro dawns.
Mae ein gwersi hwylus a rhyngweithiol yn ffocysu ar ddatblygu’r sgiliau echddygol plant bach trwy’r byd dawns a cherddoriaeth yn ogystal â chyflwyno chwaraeon synhwyraidd, tylinon fabanod a chymdeithasu.
Wedi’i gynnwys ym mris mynediad.
[table id=92 /] Archebwch Tocynnau
* Mae Techniquest yn elusen gofrestredig ac mae tocyn yn cynnwys rhodd wirfoddol o oddeutu 10%. Mae hyn yn galluogi Techniquest i hawlio Rhodd Cymorth ar 100% o bris mynediad. Mae pob ceiniog yn mynd tuag at gefnogi Techniquest a’i nod o sicrhau bod gwyddoniaeth yn agored i bawb.
Un dydd Gwener y mis yn ystod y tymor ysgol
available dates