Cyn ysgol
10am–5pm
Dan 3
Gweithgareddau ychwanegol sy’n addas i blant bach

Ar Ddiwrnodau Plant Bach mae’r arddangosfeydd wedi’u neilltuo i blant bach, er mwyn iddynt gael mwynhau mewn awyrgylch ddiogel.

  • Mae lliwiau llachar ein harddangosfa yn sicr o ddenu plant bach, ac rydyn ni’n eu hannog nhw i edrych o gwmpas ac i fwynhau. Mae Techniquest yn hygyrch i bramiau ac mae cyfleusterau newid clytiau a loceri ar gael.
  • Mae gennym ni ardal ddŵr, felly mae’n syniad da i ddod â dillad sbâr i’r plantos.
  • Mae diodydd poeth ac oer a byrbrydau ar gael i’w prynu o Coffee Mania. Nodwch, ni chaniateir bwyta nac yfed yn yr arddangosfa, ond mae ardal Bicnic ar gael. Ymddiheurwn, na fydd cyfleusterau twymo bwyd a photeli ar gael.
  • Mae croeso i chi fwydo ar y fron yn yr ardaloedd arddangos, neu os oes well gennych fwydo mewn ardal breifat, mae’r Pod ar gael i chi ei ddefnyddio hefyd.
    Darganfyddwch fwy o wybodaeth ddefnyddiol am ddod â phlant ifanc i Techniquest ar y dudalen babanod.

 
  Archebwch Tocynnau


 

Gweithgareddau diwrnodau plant Bach

Yn ystod pob Diwrnod Plant Bach bydd nifer o weithgareddau wedi’u teilwra’n arbennig i’ch plant ifanc. Mae rhai yn gynwysedig ym mhris eich tocyn ac mae ambell i un yn costio’n ychwanegol.

  • Trosluniau lliwgar

    Rhan o bob Diwrnod Plant Bach
    Yn gynwysedig ym mhris eich tocyn


    Addurnwch eich hun gyda throsluniau lliwgar, a dangoswch y patrymau gwych i’ch ffrindiau bach.

  • Gorsaf Liwio

    Rhan o bob Diwrnod Plant Bach
    Yn gynwysedig ym mhris eich tocyn


    Ydy’r plantos angen hoe fach o’r arddangosfeydd? Beth am ymlacio a mwynhau bod yn greadigol?

  • Cornel ddarllen

    Rhan o bob Diwrnod Plant Bach
    Yn gynwysedig ym mhris eich tocyn


    Beth am swatio yn ein cornel ddarllen a mwynhau casgliad hyfryd o lyfrau Cymraeg a Saesneg a storïau rhyngweithiol.

Yn ychwanegol i reini, dyma’r gweithgareddau eraill sydd ar gael ar bob Diwrnod Plant Bach:

 

Dydd Gwener 11 Medi 2026

Straeon y Sêr: Oi Frog!

Teimlwch yn gysurus efo tegan meddal yn ein Planetariwm clyd am amser stori o dan y seren a thaith fer mewn i’r gofod.
Llyfr y mis hwn yw ‘Oi Frog!’ gan Kes Gray and Jim Field – Mae Frog yn darganfod bod cathod yn eistedd ar fatiau, ond pan mae’n cael ei wybod bog brogaod yn eistedd ar foncyffion, dyw e ddim yn hapus amdani! Ymunwch â Cat, Frog a Dog am daith odled doniol wrth iddyn nhw archwilio trefniadau eistedd rhyfedd ac yn cwrdd â nifer o anifeiliaid diddorol ar y ffordd.
£2 ychwanegol y plentyn — mae’n rhaid archebu o flaen llaw i waranti eich sedd

Mini Wildlings gan Flossy a Boo

Ymunwch â’n Wandering Wildling i ffeindio stori newydd
Ble mae straeon yn troi, chwedlau yn dadweindio a dychmygion fach yn tanio
Taith llawn hwyl yw ‘The Mini Wildlings’, ble mae straeon yn cael eu creu trwy ganeuon a gweithgareddau sy’n berffaith ar gyfer plant bach a’u phobl fawr.
Dewch i grwydro
Dewch i siglo
Dewch a chreu stori gyda ni
Wedi’i gynnwys ym mris mynediad — mae’n rhaid archebu o flaen llaw i waranti eich sedd

 

Dydd Gwener 9 Hydref 2026

Straeon y Sêr: Peace at Last

Teimlwch yn gysurus efo tegan meddal yn ein Planetariwm clyd am amser stori o dan y seren a thaith fer mewn i’r gofod.
Llyfr y mis hwn yw “Peace at Last” gan Jill Murphy — mae Mr Bear yn enbydus am noson o gwsg da, ond gyda Baby Bear yn crio, Mrs Bear yn chwyrnu, ac amrywiaeth o wrthdyniadau swnllyd eraill, mae ennill tipyn o dawelwch yn haws i’w ddweud! Ymunwch â theulu’r Bear am daith gynnes a doniol wrth i Mr Bear chwilio am y lle perffaith i gysgu.
£2 ychwanegol y plentyn — mae’n rhaid archebu o flaen llaw i waranti eich sedd

Mini Wildlings gan Flossy a Boo

Ymunwch â’n Wandering Wildling i ffeindio stori newydd
Ble mae straeon yn troi, chwedlau yn dadweindio a dychmygion fach yn tanio
Taith llawn hwyl yw ‘The Mini Wildlings’, ble mae straeon yn cael eu creu trwy ganeuon a gweithgareddau sy’n berffaith ar gyfer plant bach a’u phobl fawr.
Dewch i grwydro
Dewch i siglo
Dewch a chreu stori gyda ni
Wedi’i gynnwys ym mris mynediad — mae’n rhaid archebu o flaen llaw i waranti eich sedd


 

Mynediad diwrnod plant bach

Math o docynGyda rhodd*Safonol
Plant bach
0–2 oed
Am ddimAm ddim
Oedolyn
16+ oed
£17.00£15.45
Plentyn
3–15 oed
£15.00£13.63
Consesiwn
Yn gymwys i: Bobl hŷn (65+); oedolion sydd ag anabledd; dalwyr 'Blue Light Card'; myfyrwyr sydd â cherdyn NUS dilys; derbynyddion Credyd Cynhwysol neu Lwfans Ceisio Gwaith. Mae’n bosib y byddwn yn gofyn i weld tystiolaeth adnabod.
£15.00£13.63
Gofalwr hanfodol/helpwr personolAm ddimAm ddim
Teulu
Hyd at 5 person, uchafswm o 2 oedolyn (16+)
£58.00£52.72
  Archebwch Tocynnau

* Mae Techniquest yn elusen gofrestredig ac mae tocyn yn cynnwys rhodd wirfoddol o oddeutu 10%. Mae hyn yn galluogi Techniquest i hawlio Rhodd Cymorth ar 100% o bris mynediad. Mae pob ceiniog yn mynd tuag at gefnogi Techniquest a’i nod o sicrhau bod gwyddoniaeth yn agored i bawb.

 

Pryd?

Un dydd Gwener y mis yn ystod y tymor ysgol

Ebrill 2067
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Dydd Sul
Dydd L
Dydd M
Dydd M
Dydd I
Dydd G
Dydd S
Dydd S
28
29
30
31
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
1

dyddiadau ar gael

Gweithgareddau eraill yn Techniquest