Techniquest

Cyn ysgol
10am–5pm
Dan 3
Gweithgareddau ychwanegol sy’n addas i blant bach

Ar Ddiwrnodau Plant Bach mae’r arddangosfeydd wedi’u neilltuo i blant bach, er mwyn iddynt gael mwynhau mewn awyrgylch ddiogel.

  • Mae lliwiau llachar ein harddangosfa yn sicr o ddenu plant bach, ac rydyn ni’n eu hannog nhw i edrych o gwmpas ac i fwynhau. Mae Techniquest yn hygyrch i bramiau ac mae cyfleusterau newid clytiau a loceri ar gael.
  • Mae gennym ni ardal ddŵr, felly mae’n syniad da i ddod â dillad sbâr i’r plantos.
  • Mae diodydd poeth ac oer a byrbrydau ar gael i’w prynu o Coffee Mania. Nodwch, ni chaniateir bwyta nac yfed yn yr arddangosfa, ond mae ardal Bicnic ar gael. Ymddiheurwn, na fydd cyfleusterau twymo bwyd a photeli ar gael.
  • Mae croeso i chi fwydo ar y fron yn yr ardaloedd arddangos, neu os oes well gennych fwydo mewn ardal breifat, mae’r Pod ar gael i chi ei ddefnyddio hefyd.
    Darganfyddwch fwy o wybodaeth ddefnyddiol am ddod â phlant ifanc i Techniquest ar y dudalen babanod.

 


 

Gweithgareddau diwrnodau plant Bach

Yn ystod pob Diwrnod Plant Bach bydd nifer o weithgareddau wedi’u teilwra’n arbennig i’ch plant ifanc. Mae rhai yn gynwysedig ym mhris eich tocyn ac mae ambell i un yn costio’n ychwanegol.

  • Trosluniau lliwgar

    Rhan o bob Diwrnod Plant Bach
    Yn gynwysedig ym mhris eich tocyn


    Addurnwch eich hun gyda throsluniau lliwgar, a dangoswch y patrymau gwych i’ch ffrindiau bach.

  • Gorsaf Liwio

    Rhan o bob Diwrnod Plant Bach
    Yn gynwysedig ym mhris eich tocyn


    Ydy’r plantos angen hoe fach o’r arddangosfeydd? Beth am ymlacio a mwynhau bod yn greadigol?

  • Cornel ddarllen

    Rhan o bob Diwrnod Plant Bach
    Yn gynwysedig ym mhris eich tocyn


    Beth am swatio yn ein cornel ddarllen a mwynhau casgliad hyfryd o lyfrau Cymraeg a Saesneg a storïau rhyngweithiol.

Yn ychwanegol i reini, dyma’r gweithgareddau eraill sydd ar gael ar bob Diwrnod Plant Bach:

 

Dydd Gwener 5 Rhagfyr 2025

Amser Stori + Creu a Chymryd: How Big is a Million?

Mae Pipkin, y pengwin mwyaf bychan, wastad yn ofyn cwestiynau, ond beth mae fe eisiau gwybod y mwyaf yw pa mor fawr yw miliwn? Felly, mae’n mynd bant i’w ddarganfod!
Ymunwch â ni am daith ryngweithiol y synhwyrau, wrth i ni gwrdd â Pipkin, darganfod beth mae cant o bengwiniaid yn edrych fel, ac yn creu pengwin ein hun i’w gymryd adref.
£3.50 y plentyn

Happy Hands

Cerddoriaeth a Symudiad i chi a’ch plentyn bach!
Mae’r sesiynau wedi’i gynnwys yn y pris mynediad Dydd Plant Bach ond mae angen i chi archebu o flaen llaw i warantu eich lle.
Wedi’i gynnwys yn bris mynediad.

 

Dydd Gwener 16 Ionawr 2025

Amser Stori + Creu a Chymryd: Poles Apart

Fel mae pawb yn gwybod, mae pengwiniaid yn byw ym Mhegwn y De tra bod eirth wen yn byw ym Mhegwn y Gogledd, ond beth sy’n digwydd pan mae pengwiniaid yn colli eu ffordd?
Ymunwch â ni ar daith ryngweithiol y synhwyrau wrth i ni gwrdd â theulu o bengwiniaid, teithio o gwmpas y byd yn chwilio am bicnic a chreu pobl eira ein hun!
£3.50 y plentyn

Monkey Music

Mae ein ffrindiau o Monkey Music yn llywyddu sesiynau trwy’r dydd.
Gall eich plant bach darganfod offerynnau a cherddoriaeth newydd yn y gweithdy hwn. Mae’r sesiynau wedi’i gynnwys yn y pris mynediad Dydd Plant Bach ond mae angen i chi archebu o flaen llaw i warantu eich lle.
Wedi’i gynnwys yn bris mynediad.

 

Dydd Gwener 6 Chwefror 2025

Amser Stori + Creu a Chymryd: There’s a Superhero in Your Book

Mae’r sgriblwr yn sgriblo ar dy lyfr! Beth rydyn ni am wneud?
Ymunwch â ni ar daith ryngweithiol y synhwyrau wrth i ni gwrdd ag archarwr, darganfod ei bwerau, a chreu mwgwd dy hun i gymryd adref.
£3.50 y plentyn

Monkey Music

Mae ein ffrindiau o Monkey Music yn llywyddu sesiynau trwy’r dydd.
Gall eich plant bach darganfod offerynnau a cherddoriaeth newydd yn y gweithdy hwn. Mae’r sesiynau wedi’i gynnwys yn y pris mynediad Dydd Plant Bach ond mae angen i chi archebu o flaen llaw i warantu eich lle.
Wedi’i gynnwys yn bris mynediad.


 

Mynediad diwrnod plant bach

Math o docynGyda rhodd*Safonol
Plant bach
0–2 oed
Am ddimAm ddim
Oedolyn
16+ oed
£14.00£12.72
Plentyn
3–15 oed
£12.00£10.90
Consesiwn
Yn gymwys i: Bobl hŷn (65+); oedolion sydd ag anabledd; myfyrwyr sydd â cherdyn NUS dilys; derbynyddion Credyd Cynhwysol neu Lwfans Ceisio Gwaith. Mae’n bosib y byddwn yn gofyn i weld tystiolaeth adnabod.
£12.50£11.36
Gofalwr hanfodol/helpwr personolAm ddimAm ddim
Teulu
Hyd at 5 person, uchafswm o 2 oedolyn (16+)
£48.00£43.63
  Archebwch Tocynnau

* Mae Techniquest yn elusen gofrestredig ac mae tocyn yn cynnwys rhodd wirfoddol o oddeutu 10%. Mae hyn yn galluogi Techniquest i hawlio Rhodd Cymorth ar 100% o bris mynediad. Mae pob ceiniog yn mynd tuag at gefnogi Techniquest a’i nod o sicrhau bod gwyddoniaeth yn agored i bawb.

 

Pryd?

Un dydd Gwener y mis yn ystod y tymor ysgol

Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Dydd Sul
Dydd L
Dydd M
Dydd M
Dydd I
Dydd G
Dydd S
Dydd S
29
30
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
1
2

dyddiadau ar gael

Gweithgareddau eraill yn Techniquest