Sioe planetariwm hudol, yn enwedig am blant dan 7 mlwydd oed.
Dydy Little Bear ddim yn gallu cysgu, felly mae hi’n gadael ei ffau i edrych lan at y nos.
Ymunwch â hi wrth i hi chwarae ‘dot-to-dot’ gyda’r sêr, ac yn sylwi anifeiliaid ymhlith y cytserau. Mae hi’n chwilio’n arbennig am un — arth fach fel hi. “Mae’n rhaid fod ’na llun o fi lan fyna!”
Bydd y ffilm byr 360° hwn — sydd wedi’i gynhyrchu gan Life Science Centre, Newcastle upon Tyne — yn cael ei ddilyn gan taith sêr wedi’i anelu at blant o dan 7.
Mae ein teithiau sêr yn cael eu darparu gan aelodau gwybodus a chyfeillgar ein tîm sy’n hapus i’w hateb unrhyw gwestiynau (o ran y gofod!) ar y diwedd.

Nodwch mai Saesneg yw iaith y ffilm hwn.
Wedi’i anelu at blant o dan 7 mlwydd oed ond mae pawb yn croeso. Mae angen i blant o dan 16 cael arolygiad oedolyn.
Mae yna lle am un cadair olwyn. Mae ein Planetariwm yn ardal caeedig, ond gallwch chi adael os oes angen. Yn ystod y sioe, mae’r golau yn gostwng. Mae amddiffynwyr clust ar gael hefyd. Mae bagiau synhwyraidd ar gael o’r desg tocynnau (blaen-dâl ad-daliadol o £20, yn dibynnu ar argaeledd).
Plîs nodwch fod angen i bob tocyn sioe cael ei archebu law-yn-llaw efo tocyn cyffredinol. Cofiwch archebu eich ymweliadau cryn dipyn ymlaen llaw gan fod mynediad yn dal yn ddarostyngedig i argaeledd!
Penwythnosau yn ystod y tymor ysgol a drwy gydol y gwyliau ysgol
dyddiadau ar gael
Camu mewn i’n Planetariwm 360° a chymerwch daith i fyd anghysbell — o’r ochr arall yr alaeth i’r dyfnderoedd y môr.
Yn dibynnu ar y sioe, gallai cael eu harweinio gan un o’n cyflwynyddion, neu ffilm ymdrochol i golli eich hun mewn.
Plîs nodwch fod ein Planetariwm yn ofod clyd, gydag 1 lle ar gyfer cadair olwyn bob sioe.