Nid yw Techniquest i blant yn unig. Mae’r safle yn addas i blant mawr, hefyd.
Ymunwch â ni ar gyfer ein digwyddiad i oedolion yn unig yr Awst hwn ble gallwch chi fwynhau dros 100 o arddangosion gwyddoniaeth a thechnoleg ryngweithiol, trio’r Llwybr Realiti Estynedig All Systems Go Wallace & Gromit, cwrdd â dyfeiswyr go iawn fel Tim Brennan o Vivobarefoot a Nick Arnold o Ergochair Ltd. (rydyn ni’n flin, Wallace) a bwyta caws!
Ychwanegwch ambell weithgaredd arall i droi’r noson yn ‘grand night out’. Bydd yna sioe wyddoniaeth fyw wedi’i hysbrydoli gan Wallace & Gromit, teithiau i’r Lleuad a nôl yn ein Planetariwm, a gweithdy ‘claystation’ ar gyfer ein prynwyr tocynnau Premiwm, ble gallwch greu model Gromit eich hun i gymryd gartref.
A gyda Tŷ Caws yma, gallwch brofi byd syfrdanol o gaws — profwch gaws caled, meddal, neu crofen a dysgwch sut maen nhw’n ennill eu nodweddion unigryw o’r arbenigwyr Cymraeg sydd gyda dros 20 mlynedd o brofiad.

Nodwch: mae’r tocynnau Premiwm wedi’u gwerthu allan.
Mae tocyn premiwm yn cynnwys popeth uwchben A HEFYD:
| Tocyn | Pris 'Early Bird' | Pris safonol |
|---|---|---|
| Safonol | £12 (wedi'u gwerthu allan) | £17 |
| Premiwm — POB TOCYN WEDI'I WERTHU Yn cynnwys Gweithdy 'Claystation' Gromit + Sedd yn Star Tour wedi'i waranti | £17 | £22 |
Gweithgareddau sydd wedi’u darlunio yn y fideo hwn yn enghreifftiol yn unig.
† Mae tocyn premiwm yn gwarantu mynediad i Weithdy ‘Claystation’ Gromit a Star Tour yn y Planetariwm. Bydd tocynnau 7pm yn dechrau eu gweithdy am 7.30pm, a’u Star Tour am 9pm, yn dibynnu ar bryd cafodd eich tocyn ei brynu (gwiriwch eich e-bost cadarnhaol os ydych yn ansicr). Bydd tocynnau 7.30pm yn dechrau eu Star Tour am 8:15pm, a’u gweithdy am 9pm. Cyrhaeddwch eich gweithdy ar yr ail lawr o leiaf 5 munud cyn eich amser dechrau, os gwelwch yn dda.
©&™ Aardman Animations Limited / Wallace & Gromit Limited 2025. Cedwir Pob Hawl.
Mae’n rhaid bod yn 18+ i fynychu’r noson.
Dydd Iau 28 Awst
dyddiadau ar gael