Techniquest

Profiad rhyngweithiol
19 Gorffennaf–31 Awst
Bob oedran
Wedi'i gynnwys ym mhris mynediad

Dewch â Wallace & Gromit yn fyw mewn 3D yn Techniquest gyda’r profiad llwybr realiti estynedig rhyngweithiol, teuluol hwn.

Lawrlwythwch yr ap am ddim, sydd ar gael ar iOS ac Android, mewnbynnwch ein cod lleoliad unigryw: 1986 cyn eich ymweliad neu pan rydych yn cyrraedd a dechreuwch!

Ffeindiwch a dilynwch yr arwyddbyst i gychwyn ar lwybr unigryw i helpu Wallace & Gromit baratoi eu roced am daniad! Mae bob arwyddbyst yn datgloi set realiti estynedig rhyngweithiol wahanol, ac yn herio chi i gwblhau tasgau gwahanol ar restr Wallace.

Mwynhewch gwrdd a thynnu lluniau gyda’r pâr dyfeisgar, gwisgo Techno Trousers Wallace ac hyd yn oed cymryd hunlun gyda Feathers McGraw! Tynnwch luniau a rhannwch nhw gyda’ch ffrindiau a theulu, wrth i chi helpu Wallace & Gromit gwblhau’r llwybr, trio eu dyfeisiau diweddaraf a thanio’u roced.

Gallwch gadw’r lluniau o’ch ymweliad fel atgofion a’u rhannu ar gyfryngau cymdeithasol — tagiwch Wallace & Gromit a Techniquest o dan eich lluniau!

  Archebwch eich tocynnau Techniquest

Download on the App Store Download on the Google Play Store

©&™ Aardman Animations Limited / Wallace & Gromit Limited 2025. Cedwir Pob Hawl.

  • Cyngor oedran: pob oedran

    Mae’r ap llwybr Realiti Estynedig All Systems Go wedi’i ddylunio i gael ei fwynhau gan yr holl teulu. Efallai bydd chwaraewyr ifanc sydd â llai o brofiad gyda’r dyfeisiau angen cymorth i ddilyn y cyfarwyddiadau.

  • Tocynnau

    Does dim angen archebu tocyn arbennig i brofi’r ap All Systems Go, oherwydd mae’r profiad wedi’i gynnwys gyda’ch mynediad i Techniquest (yn ystod 19 Gorffennaf–31 Awst 2025).

  • Cysoneb gyda dyfeisiau gwahanol

      Apple

    Mae’r Llwybr Realiti Estynedig All Systems Go wedi cael ei optimeiddio ar gyfer dyfeisiau Apple sy’n rhedeg iOS 16 neu ddiweddarach (darganfyddwch pa fodelau iPhone sy’n gyson gyda iOS 16). Fodd bynnag, dylai’r ap dal weithio ar ddyfeisiau o’r iPhone 8 a’r iPad 2017 ac ymlaen os ydyn nhw’n rhedeg iOS 15 neu ddiweddarach.

      Android

    Ar ffonau symudol Android, mae’r ap wedi’i ddylunio i weithio orau ar ddyfeisiau sy’n rhedeg Android 10 neu ddiweddarach ac sydd yn cefnogi realiti estynedig trwy ARCore. I wirio os yw eich dyfais yn cefnogi ARCore, cyfeiriwch at y rhestr hon os gwelwch yn dda. Mae’n bosib na fydd yr ap yn rhedeg ar ddyfeisiau sydd ddim yn cyrraedd yr anghenion hyn.

  • Cwestiynau cyffredin

    Mae Aardman wedi paratoi dogfen o gwestiynau aml defnyddiol, am unrhyw cwestiynau o ran yr ap sydd gennych:

 

Pryd?

Pob dydd tan 31 Awst

Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Dydd Sul
Dydd L
Dydd M
Dydd M
Dydd I
Dydd G
Dydd S
Dydd S
29
30
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
1
2

dyddiadau ar gael

Gweithgareddau eraill yn Techniquest