Ar 29 Ebrill, wnaethom ni ddathlu ein canolfan dod yn Hwb Codi Sbwriel cofrestredig trwy trefnu codiad sbwriel o gwmpas y Bae.
Cafodd Techniquest ei gofrestru fel Hwb swyddogol gan Cadwch Gymru’n Daclus, sef elusen sy’n gweithio o gwmpas Cymru i amddiffyn yr amgylchedd mewn cymunedau lleol.
Wnaethom ni lenwi chwe bag ar y codiad, a defnyddiodd ein staff yr offer sydd wedi darparu gan yr elusen, sydd ar gael i hurio gan y cyhoedd o’n desg flaen.
Dywedodd Kim Sellwood, un o’n Hyfforddwyr Cyflwynydd: “Mae codi sbwriel erioed wedi bod yn rhan o fy mywyd. Dechreuais fel plentyn ifanc ac fe wnes i ei gario trwy fy mlynyddoedd ysgol, gan adeiladu arfer parhaol o ofalu am yr amgylchedd o’m cwmpas.

“Mae’r meddylfryd hwn wedi aros gyda fi mewn i oedolaeth, a dwi dal yn treulio amser pob wythnos yn codi sbwriel pryd dwi’n gallu, yn ffocysu ar y stryd a’r ardal lleol.
“Yn 2020, dechreuais gymryd mwy o ran trwy ymuno â grŵp cymunedol Dinas Powys Wild About Nature, lle rwy’n cymryd rhan mewn casglu sbwriel rheolaidd ochr yn ochr ag eraill sy’n rhannu’r un angerdd.
“Yn 2024, roeddwn i’n falch i ddod yn Bencampwyr Sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus. I fi, mae’n meddwl mwy na chadw llefydd yn daclus; mae o amdan amddiffyn bywyd gwyllt a thaclo’r effaith o wastraff sydd wedi’i adael gan bobl.”

Cyn i ni fynd allan yn y gymuned, wnaethom ni glywed o Huw Williams o Auditel, pwy wnaeth helpu i archwilio ein hallyriadau carbon yn 2025 ac wedi parhau i gefnogi ni mewn monitor a lleihau ein hôl troed ers hynny.
I ddarllen mwy am ein hymrwymiad i leihau ein hallyriadau carbon, gan gynnwys beth rydym ni yn barod wedi gwneud, ewch i’n dudalen Cynaliadwyedd.