Rydyn ni’n agor parth darganfyddiad newydd arall gall ymwelwyr archwilio, wrth i ddatblygiad y hen ardal Teras Y Gorllewin cwblhau i greu lle am Y Parth Bradbury.
Diolch i gefnogaeth hael o’r Bradbury Foundation, y Moondance Foundation, Garfield Weston, y Foyle Foundation a Llywodraeth y DU trwy’r Shared Prosperity Fund, mae’r canolfan uchel ei glod wedi torri’r rhuban ar fan newydd sbon — Y Parth Bradbury. Bydd y man newydd ar yr ail lawr yn galluogi rhagor o gyfleoedd am gydweithrediad creadigol, wrth ysbrydoli chwilfrydedd ymhlith ymwelwyr.
Dwedodd Sue Wardle, Prif Weithredwr Techniquest: “Rydyn ni mor ddiolchgar i’r ariannwyr wnaeth gweld cudd a chefnogi’r prosiect mor hael a wnaethant nhw. Fel elusen, bydd y prosiect yn amhosib heb eu cymorth.
“Yn enwedig, rydyn ni’n ddiolchgar i’r Bradbury Foundation am ei rodd ystyrlon, ac rydyn ni mor falch i enwi’r parth newydd ar ôl y diweddar Mr Bradbury. Allai hefyd rhoi diolch i bawb wnaeth chwarae rôl mewn dod â’r prosiect i fyw — o ddechrau gwreiddiol y syniad trwy i’r canlyniad arbennig. Mae’r prosiect wedi bod yn ymgais y holl dîm, gyda chymaint o ymroddiad a chreadigrwydd.

“Mae Techniquest wastad yn edrych am ffyrdd i greu rhagor o brofiadau rhyngweithiol a chofiadwy am ein hymwelwyr, ac roedd ni’n cynllunio i ehangu ein harddangosfa am amser maith. Mae’r man newydd yn galluogi cydweithrediad gyffrous a phosibiliadau greadigol. Gyda’r trawsnewidiad ar ben, rydyn ni mor cyffrous i ddechrau pennod newydd — llenwi’r Parth Bradbury gyda phethau syfrdanol i ddarganfod.”
Yn gweithio’n agos gyda Lee Wakemans, sef rheolwyr yr ehangiad ‘Science Capital’ y canolfan darganfod gwyddoniaeth yn 2021, wnaeth Techniquest penodi TPS360: Project Solutions i ymgymryd yr adeiladwaith ei hun. Wedi’i ddatblygu ar deras heb ei ddefnyddio digon ar ochr gorllewin yr adeilad, dechreuodd yr adeiladwaith ym mis Tachwedd 2024. Mae’r canlyniad yn safle hyblyg ac addasadwy bydd yn cael ei ddefnyddio nid yn unig fel parth darganfod newydd, ond hefyd fel man gall cael ei logi am weithgareddau preifat neu fasnachol, er enghraifft cynadleddau, cinio gyda’r nos a digwyddiadau rhwydweithio.
Dwedodd Paul Wong, Cyfarwyddwr yn Lee Wakemans: “Mae gweithio fel rhan o daith Techniquest dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn gyffrous ac yn fraint. Wnaeth ehangiad y Teras y Gorllewin cyflenwi heriau newydd ond roedd gweithio gyda thîm o gwsmeriaid, dylunwyr a chontractwyr arbennig i ffocysu ar gwblhau’r prosiect yn hyfryd. Rydyn ni’n edrych ymlaen at brofi’r ychwanegiad newydd i stori Techniquest.”
Wrth i waith parhau yn y cefn i greu’r profiad terfynol am ymwelwyr — gyda’r cynllun i’w ddatgelu yn 2026, yn barod i ddathlu 40fed pen-blwydd Techniquest — mae’r Parth Bradbury yn llywyddu amrywiaeth o ddigwyddiadau creadigol am ei ymwelwyr eleni.
Y cyntaf i ddefnyddio’r Parth, ar flaen i’r agoriad swyddogol, oedd disgyblion pypedwaith o’r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a wnaeth perfformio eu harchwiliad o fywyd ar yr Orsaf Ofod Rhyngwladol i gannoedd o blant fel rhan o’r ‘Puppet Takeover’ yn ystod mis hwn.
Nawr, fel rhan o’r Haf o Ddyfais Techniquest sydd yn lansio’r penwythnos hwn — gyda’r Llwybr Realiti Estynedig All Systems Go Wallace & Gromit — bydd y Parth yn llywyddu gweithdai creu fodeli Gromit pob dydd trwy gydol y gwyliau haf, ac yn rhoi cyfranogion y cyfle i fod un o’r rhai cyntaf i ddefnyddio’r ardal newydd wrth iddyn nhw greu Gromitse u hun i gymryd cartref.
Dwedodd Hugh Inman, cynrychiolydd y DU am y Bradbury Foundation: “Mae’r sefydliad wedi gweithio’n agos gyda nifer o gyrff addysg arbennig dros y blynyddoedd, ac rydw i’n sicr mae Mrs Margaret Bradbury, sy’n dod o Wrecsam, wrth ei bodd i weld y Sefydliad yn cefnogi Techniquest a’i waith cyffrous gyda disgyblion ifanc yng Nghymru. Rydyn ni’n rhoi ein dymuniadau gorau i Techniquest yn y dyfodol.”
Mae Techniquest ar agor i’r cyhoedd pob dydd o 10am–5pm trwy gydol y gwyliau haf, gyda mynediad i’r Parth Bradbury am unrhyw un sydd yn ychwanegu gweithdy creu fodeli Gromit i’w tocyn Mynediad Cyffredinol.