Techniquest

Mae prosiect STEM Friends Techniquest, sef cynllun creadigol wedi’i ariannu gan y Royal Academy of Engineering, wedi gwneud wahaniaeth go iawn mewn dosbarthiadau ar draws Cymru.

Mae’r prosiect wedi cysylltu ysgolion cynradd gyda pheirianwyr lleol trwy ysgrifennu llythyron fel ‘pen pals’. Cafodd y disgyblion eu paru â gweithwyr proffesiynol STEM o ddisgyblaethau peirianneg fel sifil, mecanyddol ac amgylcheddol, a chafodd eu calonogi i ofyn cwestiynau, rhannu eu gweithgareddau o ddydd i ddydd, a mynegi eu chwilfrydedd trwy eiriau.

Dwedodd Amy Healey, athrawes yn St Anne’s Catholic Primary School yn Wrecsam: “Maen nhw wedi mwynhau’r cyfle i siarad â rhywun yn y byd o beirianneg a chlywed eu datblygiad yn eu gyrfaoedd a sut wnaethant nhw gael eu dechreuadau.

“Wnaethant nhw hefyd mwynhau aros am ateb i’w llythyron. Roedd y plant yn hapus iawn i glywed eu cwestiynau yn cael eu hateb!”

Trwy dangos dydy peirianneg ddim am fathemateg a pheiriannau i gyd, ond hefyd am greadigrwydd, gweithio mewn tîm, a gwneud gwahaniaeth yn y byd, mae STEM Friends wedi helpu disgyblion cysylltu eu diddordebau a’u thalentau gyda phosibiliadau go iawn.

Dwedodd Liv Davies o Airbus: “Roeddwn i’n wrth fy modd i dderbyn y llythyron a’u rhannu gyda gwirfoddolwyr Airbus wahanol o’r prosiect hwn.

“Roedd e’n wych i weld y brwdfrydedd ym mhob llythyr a dod i wybod plant arbennig, oherwydd am ran fwyaf o’n gwaith allanol, gallwn ni ddim ond siarad â disgyblion unwaith.”

Am y plant y gwnaeth cymryd rhan, roedd y prosiect yn daith fythgofiadwy mewn i’r posibiliadau am yrfa STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg), yn enwedig am reini sydd ddim yn cael mynediad i fodeli rôl fel hyn yn y cartref.

Dwedodd Louis Paddon, sydd hefyd o Airbus: “Wnes i fwynhau rhannu fy mhrofiadau â’r disgyblion, oherwydd ’dwi nawr yn deall pa mor bell rydw i wedi dod, hyd yn oed fel graddwr. Roedd e’n wych i ateb eu cwestiynau ac yn ddiddorol i ddarllen eu llythyron, oherwydd roedd e’n wahanol i’r pethau mae fy nghydweithwyr yn gofyn fel arfer!

“Roedd y disgyblion yn frwdfrydig a ’dwi’n gobeithio cafodd nhw eu hysbrydoli.”

Diolch i’r gefnogaeth o’r Royal Academy of Engineering, mae’r prosiect yn esiampl ardderchog o sut gall cynlluniau addysgol a phartneriaethau diwydiannol weithio gyda’i gilydd i fuddio pobl ifanc.

Dyma’r cwmnïau peirianneg arbennig y gwnaeth darparu cefnogaeth ar y prosiect hwn!

Frazer-Nash
KLA
DOW
Acadis
Dwr Cymru
Andrew Scott
Skanska
WSP
YGC
Renishaw
Airbus
Jacobs