Wnaeth y Rhaglen Lleoliadau Ymchwil a Phrofiadau, sydd wedi’i ddylunio i ddarparu cyfleoedd ysbrydoledig i ddisgyblion tu fewn wahanol sectorau STEM, cefnogi 40 o ddisgyblion eleni.
Ar 9 Hydref, wnaeth mwy na 100 o westeion — gan gynnwys disgyblion, eu teuluoedd, ffrindiau, a darparwyr y gosodiadau glanio ar Techniquest am noson i ddathlu’r plant a’u cyflawniadau.
Wnaeth saith cyrff llywyddu gosodiadau yn 2025, gan gynnwys NetZero Industry Wales, nifer o brifysgolion gorau Cymru, ac wrth gwrs, Techniquest ei hun. Fel arfer, wnaeth Prifysgol De Cymru croesawu’r nifer mwyaf o ddisgyblion — 20 ohonyn nhw.

Dechreuodd y noson gyda chroesawiad cynnes o Andrea Meyrick, Pennaeth Addysg Techniquest, sydd wedi rheoli’r rhaglen am fwy na degawd. Wedyn, wnaeth y gwesteion archwilio’r safle a’r arddangosfeydd y prosiectau a oedd yn amlygu nifer o bynciau STEM gwahanol — o weithrediad yr asgwrn cefn a microbioleg i astudiaethau algorithmig.
Cyn cyflwyno’r tystysgrifau, clywodd y gwesteion o Rita Singh, un o aelodau’r Bwrdd Techniquest, a Phroffeswr Valerie Sparkes o Brifysgol Caerdydd — cefnogwr o’r rhaglen am amser maith. Wnaeth Rita canmol safon uchel y gwaith eleni, cyn traddodi i Broffeswr Sparkes am ail hanner y cyflwyniad.
I nodi ei hymddeoliad a’i degawd o ymroddiad i’r rhaglen, cafodd Proffeswr Sparkes ei chyflwyno â thusw o flodau a diolch o galon o bawb yna.
Wnaeth y dathliadau gorffen gyda’r cyflwyniad y Wobr Steve Bowden, sef wobr o £1,000 i’r disgybl gyda’r prosiect gorau. Wnaeth Ali Bowden cyflwyno’r wobr ar ran ein Cadeirydd y Bwrdd diweddar i Pheobe Whant (Coleg Gwent) am ei phrosiect ddiddorol, Microbiology: The 5-Second Rule — Fact or Fiction?

Rydyn ni eisiau dweud llongyfarchiadau o galon i bob disgybl am eu creadigrwydd, chwilfrydedd, a’u hymrwymiad trwy gydol yr haf — a diolch i’n partneriaid am eu cefnogaeth barhaol yn helpu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol STEM yng Nghymru.