Ar Dachwedd 13, wnaeth Techniquest llywyddu digwyddiad i ddathlu prosiect Next Gen Earth, sef rhaglen genedlaethol wedi’i arwain gan bobl ifanc ac wedi’i redeg gan yr Association for Science Discovery Centres (ASDC).
Fel rhan o’r prosiect, fe ddysgodd plant o’r Senedd Ieuenctid Cymru, ACE Caerdydd a Home Education Wales am sut mae newid hinsawdd yn effeithio ein planed trwy ddigwyddiad yn y tywydd fel tonnau gwres a llifogydd.
Fe esboniodd Eve Powell, y cynrychiolydd Girlguiding Cymry yn y SIC, bod eu prosiect — sy’n cynnwys arolygu mwy na 200 o bobl ifanc ar y pwysigrwydd o atal newid hinsawdd — yn dadorchuddio mewnwelediad newydd ar y mater.
Dwedodd hi: “Mae’r Prosiect Next Gen Earth yn darparu’r cyfle i bobl ifanc edrych ar ein materion o safbwynt newydd ac unigryw.”

Ar ôl clywed o’r tri grŵp, wnaeth y gwesteion — roedd rhan fwyaf ohonom yn berthynol i’r plant a wnaeth cymryd rhan — clywed o Nicola Pulman o Size of Wales, sef elusen sy’n gweithio i ddiogelu dwy filiwn hectarau o fforestydd glaw ar draws y byd — tua’r un maint o’n gwlad.
Ac ar ôl i’r seremoni gorffen, wnaeth y rheini mewn gwasanaeth cymryd yr amser i archwilio’r llawr arddangosion a rhyngweithio gyda rhai o’r cwmnïoedd ‘eco-conscious’ yn y safle, fel y Wild Space Project, Prifysgol De Cymru, a Phroject Seagrass.
Dwedodd Sarah Cunningham o’r Wild Space Project: “Mae’n bwysig bod pobl ifanc yn dysgu am yr effaith mae newid hinsawdd yn cael ar ein hamgylchedd yn y ffordd gywir fel bod nhw’n teimlo’n fwy cysylltiol â’r amgylchedd ac yn tyfu’r angen i’w hamddiffyn.
“Rydyn ni’n hoffi defnyddio anifeiliaid a’u cyrff oherwydd mae’n ffordd hwylus i deimlo’n agosach at y byd naturiol — trwy ddarganfod sawl asgwrn sydd gan anifail neu beth mae ei ddiet yn cynnwys, er enghraifft.”
Dwedodd Aisha, merch 7 mlwydd oed, y gwnaeth cymryd rhan yn y prosiect trwy ACE Caerdydd, bod ei hoff ran o’r noson oedd “siarad ar y llwyfan mawr” a bod “doedd hi ddim yn gallu aros i chwarae ar yr [arddangosfeydd]”.

Rydyn ni eisiau rhoi diolch i’r ASDC a phob cwmni roedd wedi cymryd rhan yn y prosiect Next Gen Earth project a rhoi eu amser i’r dathliad yn ein canolfan. Mae rheini mewn gwasaneth yn cynnwys:
Bute Energy
Dŵr Cymru
Green GEN Cymru
Prifysgol Caerdydd
Prifysgol De Cymru
Seagrass Project
Size of Wales
Wild Science Project