Mis Rhagfyr diwethaf, wnaethom ni lansio’r prosiect ‘Space to Learn’, yn groesawi dysgwyr o’r cymuned addysgwyr yn y cartref am weithdy rhyngweithiol.
Wedi’i ddylunio i ddod â dysgu STEM [gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg] go iawn i fyw, wnaeth y gweithdy cynnig cyfle i bobl ifanc archwilio’r wyddoniaeth tu ôl i’r gofod trwy weithgareddau a heriau rhyngweithiol.
Roedd y gweithdy ar agor ar gyfer pobl ifanc o CA3 ac, yn bwysig, cafodd y cynnwys ei gyflwyno ar lefel hwn er gwaethaf oedran, i sicrhau hygyrchedd ar gyfer pob disgybl.
Cafodd y cyfranogwyr eu croesawi gan Swyddog Addysg Techniquest, Jenny a Dorian o’r Academi Ofod Genedlaethol, a wnaeth cyflwyno thema’r diwrnod a phwysleisio sut mae’r gofod yn gysylltiedig â bywyd pob dydd.
Roedd gan y teuluoedd cyfle i ddewis o wahanol weithgareddau, gyda phob un yn darparu syniad gwyddonol gwahanol i’w archwilio. Wnaeth y disgyblion mwynhau amser maith i arbrofi, gofyn cwestiynau, ac archwilio pynciau oeddent nhw’n cymryd diddordeb mewn.

Uchafbwynt y sesiwn oedd y disgyblion a’u haddysgwyr yn cydweithio i ddylunio ac adeiladu rocedi eu hun. Wnaeth creadigrwydd, cydweithrediad a sgiliau datrys problem cymryd canol llwyfan wrth i bob grŵp rhoi syniadau ar brawf i lwyddo yn lansio eu rocedi.
Dywedodd Andre, rhiant a wnaeth mynychu’r sesiwn: “Diolch yn fawr am y digwyddiad y gofod ddoe. Wnaeth Joseph (a fi!) joio llawer.
“Roeddwn i mor edmygus gyda gwybodaeth Dorian a’i frwdfrydedd am y pwnc — a gwyddoniaeth yn gyffredinol. Roedd e’n bleser i’w gwrdd â fe.
“Dwi’n dymuno’r gorau i chi gyd ac yn gobeithio mae’r prosiect yn mynd ymlaen i fod yn llwyddiant mawr.”
Dychwelwyd pob teulu cartref gydag adnoddau wedi’i ddylunio’n arbennig i ymestyn y profiad dysgu. Mae’r adnoddau hwn yn helpu addysgwyr trwy barhau addysg gwyddoniaeth y gofod yn y cartref — a chryfhau syniadau o’r sesiwn a chefnogi rhagor o ddarganfyddiad.
Gyda grŵp o fynychwyr yn hapus gyda’i wers yn y gofod, roedd y gweithdy ym mis Rhagfyr yn esiampl wych o sut gall addysg ryngweithiol tanio chwilfrydedd a hyder. Mae Techniquest yn falch i gefnogi addysgwyr ar draws y DU ochr yn ochr â’r Academi Ofod Genedlaethol ac yn edrych ymlaen at groesawi hyd yn oed fwy o deuluoedd i ddigwyddiadau yn y dyfodol.