Yr arbrawf tanllyd terfynol? MAE’N LAN I CHI!
Mae 40 mlynedd o ddarganfyddiad yn Techniquest wedi arwain ni tuag at un cwestiwn hollbwysig: pa un o’n harbrofion ffrwydrol yw’r gorau?!
Bydd ein twrnamaint ar sail y ‘Battle of the Bands’ yn gweld ein ffrwydradau a phelau tân mwyaf enwog yn mynd ata’i gilydd. Bydd Balŵn Hydrogen yn ennill? Neu efallai bydd Metal Sodiwm yn cael ei enwi’r pencampwyr? Mae yna un ffordd un unig i ddarganfod yr ateb.
Pleidleisiwch am eich hoff arbrawf yn ystod y sioe fyw a helpu ni i goroni’r pencampwyr y Battle of the Bangs!

Archebwch eich tocynnau Techniquest
Wedi’i anelu at blant 5+ oed ond gall pawb mwynhau. Mae’n rhaid i blant dan 16 mynychu gydag oedolyn.
Mae yna nifer o ffrwydradau swnllyd yn ystod y sioe. Bydd amddiffynwyr clustiau ar gael ar gyfer unrhyw un sydd eisiau nhw, a llawer o rybudd cyn pob ffrwydrad.
Mae yna lle i ddwy gadair olwyn. Mae ein Theatr Wyddoniaeth yn ardal caeedig, ond gallwch chi adael os oes angen. Mae amddiffynwyr clust ar gael hefyd. Mae bagiau synhwyraidd ar gael o’r desg tocynnau (blaen-dâl ad-daliadol o £20, yn dibynnu ar argaeledd).
Mae ein sioeau wyddoniaeth fyw yn rhedeg am ddim ar sail y cyntaf i’r felin ar y dydd. Eisiau sicrhau eich lle? Gall archebu lle mynediad gwarantedig am £1 y person (yn rhwym wrth argaeledd a chapasiti).
Nodwch mae’n rhaid i bob tocyn sioe cael ei archebu yn gysylltiad gyda thocyn mynediad dilys.
11–12 Gorffennaf, wedyn pob dydd o 17 Gorffennaf–2 Medi
dyddiadau ar gael