Archwiliwch fyd hudol swigod a ffrwydradau gydag un o chwythwyr swigod mwyaf Techniquest!
Felly, sut yn union ydyn ni’n creu swigod? Beth sy’n digwydd wrth i ni lenwi nhw â nwyon gwahanol? Ac ydyn ni’n gallu ffrwydro nhw?
Dewch i sioe wyddoniaeth fyw gyda ni, ble bydd ein cyflwynydd yn ateb eich cwestiynau i gyd a mwy.
Byddwn ni’n dangos swigod propan, methan a pham mai brechdanau yw swigod mewn gwirionedd. Ond yn sicr ddim yn rhai dylech chi eu bwyta!
O’r bach i’r enfawr, byddwch yn gweld swigod sy’n hofran, sy’n disgleirio yn y tywyllwch, a rhai a fydd yn sicrhau bod y sioe yn gorffen gyda ‘bang’!

Nodwch mai Saesneg yw iaith y sioe hon.
Wedi’i anelu at blant 5+ mlwydd oed ond mae pawb yn croeso. Mae angen i blant o dan 16 cael arolygiad oedolyn.
Mae yna ffrwydrad swnllyd tuag at ddiwedd y sioe. Bydd pawb yn derbyn amddiffynwyr clust cyn i’r sioe dechrau, a bydd digon o rybudd cyn y ffrwydrad.
Mae i ddwy gadair olwyn. Mae ein Theatr Wyddoniaeth yn ardal caeedig, ond gallwch chi adael os oes angen. Mae amddiffynwyr clust ar gael hefyd. Mae bagiau synhwyraidd ar gael o’r desg tocynnau (blaen-dâl ad-daliadol o £20, yn dibynnu ar argaeledd).
Plîs nodwch fod angen i bob tocyn sioe cael ei archebu law-yn-llaw efo tocyn cyffredinol. Cofiwch archebu eich ymweliadau cryn dipyn ymlaen llaw gan fod mynediad yn dal yn ddarostyngedig i argaeledd.
Penwythnosau a gwyliau ysgol o 7 Chwefror
dyddiadau ar gael
Dyma ble rydym ni’n dod â gwyddoniaeth i fyw o flaen eich llygaid.
Cymerwch sedd mewn ein hawditoriwm – sy’n seddi 90 bobl – ble bydd ein cyflwynydd deniadol yn dangos chi arbrofion anghredadwy.
Yn dibynnu ar y sioe, gallent gynnwys ffrwydradau ffyrnig, cemegau gwallgof, tân troellog neu lansiadau rocedi rhyfeddol!
Plîs nodwch rydym yn gallu cymodi 2 westeion mewn cadeirion olwyn i bob sioe.