Techniquest

Profiad rhyngweithiol
Bob oedran

Rydym yn cynnal Sesiynau Hamddenol ar un dydd Sul pob mis, fel arfer ar y penwythnos cyntaf.

Os ydych yn dewis tocyn 10am neu 11am, fe welwch y bydd ein model gweithredu arferol yn cael ei droi lawr ychydig i ganiatáu i’n gwesteion mwynhau profiad mwy hamddenol am fore dydd Sul unwaith y mis.

Yn ystod yr amser, byddwn yn gwneud ychydig o ymaddasiad, sy’n cynnwys:

  • Dim cyhoeddiadau ar y system PA, ac eithrio mewn argyfyngau
  • Nifer is o ymwelwyr
  • Gostwng y lefelau sŵn ar ein harddangosfeydd swnllyd lle bo modd
  • Y lefelau golau wedi tywyllu lle bo modd
  • Ardal ymlacio gyda ‘beanbags’, llyfrau a theganau synhwyraidd
  • Rhai gweithgareddau ychwanegol i drio ar lawr yr arddangosfa

Bydd Y Pod, ein ystafell bach a phreifat ble gallwch chi dianc o’r cynnwrf ar y llawr os oes angen, ar gael fel arfer: gallwch ffeindio ar y map, ar hyd y coridor o borth y sioe, ar y ffordd i’r Theatr Wyddoniaeth.

Gall pawb dod i Techniquest ar y boreau dydd Sul yma, a bydd y tocynnau Sesiynau Hamddenol yn ddilys trwy’r dydd — ond byddwn yn dychwelyd i’n model gweithredu arferol 12 o’r gloch ymlaen, ailgyflwyno’r Star Tours yn y Planetariwm a Sioeau Wyddoniaeth Fyw yn y Theatr Wyddoniaeth yn y prynhawn.

A chofiwch, mae gennym ni amddiffynwyr clust gallwch chi fenthyg a Bagiau Synhwyraidd i logi ar ddesg flaen os oes angen unrhyw cymorth ychwanegol ar ôl y sesiwn hamdden.

I brofi un o’n sesiynau hamdden, dewiswch docynnau cyffredinol yn y ffordd arferol trwy ein gwefan archebu, a dethol 10am neu 11am ar y dydd Sul cyntaf y mis.

  Archebu Tocynnau

 

Pryd?

Sesiynau arbennig ar un dydd Sul y mis, fel arfer ar y penwythnos cyntaf

Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Dydd Sul
Dydd L
Dydd M
Dydd M
Dydd I
Dydd G
Dydd S
Dydd S
30
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
1
2
3
Events on Sul 6 Hydref 2024
06 Hyd
Sesiynau Hamddenol
Sul 6 Hydref 2024    
10:00 am–12:00 pm

dyddiadau ar gael

Gweithgareddau eraill yn Techniquest