I oedolion
Iau 28 Awst, 7:00pm–10:30pm
18+ Oed
Tocynnau £17

Nid yw Techniquest i blant yn unig. Mae’r safle yn addas i blant mawr, hefyd.

Ymunwch â ni ar gyfer ein digwyddiad i oedolion yn unig yr Awst hwn ble gallwch chi fwynhau dros 100 o arddangosion gwyddoniaeth a thechnoleg ryngweithiol, trio’r Llwybr Realiti Estynedig All Systems Go Wallace & Gromit, cwrdd â dyfeiswyr go iawn fel Tim Brennan o Vivobarefoot a Nick Arnold o Ergochair Ltd. (rydyn ni’n flin, Wallace) a bwyta caws!

Ychwanegwch ambell weithgaredd arall i droi’r noson yn ‘grand night out’. Bydd yna sioe wyddoniaeth fyw wedi’i hysbrydoli gan Wallace & Gromit, teithiau i’r Lleuad a nôl yn ein Planetariwm, a gweithdy ‘claystation’ ar gyfer ein prynwyr tocynnau Premiwm, ble gallwch greu model Gromit eich hun i gymryd gartref.

A gyda Tŷ Caws yma, gallwch brofi byd syfrdanol o gaws — profwch gaws caled, meddal, neu crofen a dysgwch sut maen nhw’n ennill eu nodweddion unigryw o’r arbenigwyr Cymraeg sydd gyda dros 20 mlynedd o brofiad.

Slotiau amser

  • 7:00pm–10:00pm
  • 7:30pm–10:30pm

Mae eich tocyn yn cynnwys:

  Tocynnau Premiwm

  Nodwch: mae’r tocynnau Premiwm wedi’u gwerthu allan.

Mae tocyn premiwm yn cynnwys popeth uwchben A HEFYD:

Mynediad

TocynPris 'Early Bird'Pris safonol
Safonol£12 (wedi'u gwerthu allan)£17
Premiwm — POB TOCYN WEDI'I WERTHU
Yn cynnwys Gweithdy 'Claystation' Gromit
+ Sedd yn Star Tour wedi'i waranti
£17£22
  Archebwch docynnau

Gweithgareddau sydd wedi’u darlunio yn y fideo hwn yn enghreifftiol yn unig.

* Cynhwysedd cyfyngedig. Mae’r sioeau wyddoniaeth fyw Brilliantly Bad Ideas am 7:45pm, 8:45pm a 9:45pm ar gael ar sail y cyntaf i’r felin ar y noson. Gall archebu tocyn i’r Star Tours am 7:15pm, 7:45pm, 9:30pm a 10pm wrth i chi brynu eich tocyn mynediad.

Mae tocyn premiwm yn gwarantu mynediad i Weithdy ‘Claystation’ Gromit a Star Tour yn y Planetariwm. Bydd tocynnau 7pm yn dechrau eu gweithdy am 7.30pm, a’u Star Tour am 9pm, yn dibynnu ar bryd cafodd eich tocyn ei brynu (gwiriwch eich e-bost cadarnhaol os ydych yn ansicr). Bydd tocynnau 7.30pm yn dechrau eu Star Tour am 8:15pm, a’u gweithdy am 9pm. Cyrhaeddwch eich gweithdy ar yr ail lawr o leiaf 5 munud cyn eich amser dechrau, os gwelwch yn dda.

©&™ Aardman Animations Limited / Wallace & Gromit Limited 2025. Cedwir Pob Hawl.

  • Gofyniad oedran

    Mae’n rhaid bod yn 18+ i fynychu’r noson.

 

Pryd?

Dydd Iau 28 Awst

Medi 2025
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Dydd Sul
Dydd L
Dydd M
Dydd M
Dydd I
Dydd G
Dydd S
Dydd S
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
1
2
3
4
5

dyddiadau ar gael

Gweithgareddau eraill yn Techniquest