Rydym wedi cael gwybod am nifer o negeseuon mewn grwpiau Facebook a chanlyniadau chwilio gan ddeallusrwydd artiffisial (AI) sy’n honni ein bod yn rhoi sbectol ar gyfer gwylio’r eclips heulol am ddim i’r cyhoedd yn Techniquest. Mae’n ddrwg iawn gennym, ond nid yw hyn yn wir.
Mae gennym nifer cyfyngedig iawn o sbectol ar gyfer gwylio’r eclips, sydd wedi’u cadw’n benodol ar gyfer deiliaid tocynnau i’n digwyddiad Noson i Oedolion: Eclipsed (y parti dilynol ar gyfer yr eclips). Bydd angen dangos eich tocyn/tocynnau Noson i Oedolion wrth gasglu’r sbectol, ac maent ar gael yn llym ar sail y cyntaf i gyrraedd (yn amodol ar argaeledd) i ddeiliaid tocynnau Noson i Oedolion yn unig.
Cafodd y sbectol eu rhoi i ni’n garedig gan The Fin Whale Eclipse Project am y digwyddiad Noson i Oedolionm ac mae gennym ni nifer cyfyngedig.
Nid yw Techniquest i blant yn unig. Mae’r safle yn addas i blant mawr, hefyd.
Ymunwch â ni ar gyfer ein digwyddiad i oedolion yn unig yr Awst hwn ble gallwch brofi parti diffyg ar yr haul arbennig.
Dewch i ddathlu’r digwyddiad nefol prin hwn â phobl o’r un meddwl. Byddwn ni’n llywyddu darlithoedd seryddiaeth, sioeau planetariwm a safleoedd bwyd a diod, yn ogystal ag ardal gemau mewn cydweithrediad â Chance & Counters, yr arbenigwyr gemau bord gorau Caerdydd.
Dyma’r agosaf bydd y DU yn dod i eclips llawn tan 2090! Bydd sbectol haul eclips ar gael am ddim i bobl gyda thocyn i’r noson, i’w casglu* o Techniquest o ddydd Sadwrn 1 Awst, gyda diolch i’n ffrindiau o’r Fin Whale Eclipse Project. Ewch i ffeindio dy hun safle agored i sbïo’r Gorllewin ac wedyn ymunwch â ni i ddathlu mewn i’r nos.

Mae’ch tocyn yn cynnwys diod am ddim ar fynediad.
Bydd yna hefyd bar taledig a safle bwyd ar y noson, gyda opsiynau feganaidd a di-glwten ar gael.
| Tocyn | Pris |
|---|---|
| Safonol | £17 |
| ‘Early Bird’ — WEDI'U GWERTHU ALLAN | £12 |
** Cynhwysedd cyfyngedig. Mae’r darlithoedd o 8:15pm, 9pm a 9:45pm ar gael ar sail y cyntaf i’r felin ar y noson.
† Gall Star Tours o 7:45pm, 8:15pm, 8:45pm, 9:30pm, 10pm a 10:30pm cael eu harchebu ar flaen llaw wrth i chi prynu’ch tocyn mynediad, yn rhwym i argaeledd.
Mae’n rhaid fod yn 18+ i fynychu’r digwyddiad.
Dydd Mercher 12 Awst
dyddiadau ar gael