Digwyddiad arbennig
19 Gorffennaf–31 Awst
Bob oedran

Mae’r haf i gyd amdan ddyfeisiau diddorol a pheiriannau llawn hwyl, gyda’r pâr annwyl gan lawer dyfeisgar, Wallace & Gromit!

Am y tro gyntaf yn Ne Cymru, gall dod â Wallace & Gromit i fyw mewn 3D gyda’r llwybr Realiti Estynedig All Systems Go. Mae’r ap ar gael am ddim ac mae’r llwybr wedi’i gynnwys gyda’ch tocyn cyffredinol Techniquest, ochr-yn-ochr â dros 100 o arddangosion rhyngweithiol sy’n dod â gwyddoniaeth a thechnoleg i fyw.

Yn ogystal â hynny, gallwch chi ychwanegu rhai gweithgareddau i’ch ymweliad, gan gynnwys sioe wyddoniaeth fyw wedi’i ysbrydoli gan Wallace & Gromit, gweithdai ‘claystation’ Gromit, teithiau sêr yn y planetariwm (gyda thaith i’r Lleuad am gyflenwadau caws) a llawer mwy.

Mae’n swnio fel ‘grand day out’ i ni!

  Archebwch eich tocynnau Techniquest

  Gweithgareddau’r haf

  • Wallace & Gromit: Llwybr Realiti Estynedig All Systems Go

    Bob oedran
    Wedi’i gynnwys ym mhris mynediad


    Dod â Wallace & Gromit i fyw mewn 3D yn Techniquest yr haf hwn gyda phrofiad llwybr realiti estynedig rhyngweithiol i’r holl deulu.

    Lawrlwythwch yr ap am ddim ac yna ffeindiwch a dilynwch yr arwyddbyst i gychwyn ar lwybr unigryw i helpu Wallace & Gromit paratoi eu roced am daniad!

      Rhagor o wybodaeth

  • Sioe Wyddoniaeth Fyw: Brilliantly Bad Ideas

    5+ oed
    £3.50 ychwanegol y person


    Mae ein sioe wyddoniaeth fyw yr haf wedi’i ysbrydoli gan yr anturiau dyfeisio Wallace & Gromit.

    Ymunwch â’n dyfeisiwr ecsentrig a’i gynorthwywr ansiriol wrth iddyn nhw roi ei beiriannau diffygiol ar brawf — ond maen nhw’n dysgu rhywbeth cywir am y byd rhyfeddol o wyddoniaeth a dyfais.

      Rhagor o wybodaeth

  • Gweithdy ‘Claystation’ Gromit

    5+ oed
    £5 ychwanegol y pecyn clai


    Ymunwch â ni am sesiwn creu model Gromit rhyngweithiol a llawn hwyl.

    Gallwch chi fod yn greadigol gyda chlai a chreu Gromit eich hun i gymryd gartref at y gweithdai ‘claystation’.

      Rhagor o wybodaeth

  • Planetariwm Star Tours

    7+ oed
    £2.50 ychwanegol y person


    Cael eich syfrdanu gan seren, planedau a mwy trwy ein Planetariwm hudol.

    Dewch i’n planetariwm digidol i fwynhau taith drwy’r gofod. Cyfle i weld rhai o olygfeydd prydferthaf y gofod megis galaethau pell ac uwchnofâu.

    Mae ein Star Tours yn ymweld â’r Lleuad hefyd. Efallai byddwch yn ffeindio ambell ddarn o gaws!

      Rhagor o wybodaeth

  • Ffilm 360°: We are Aliens

    5+ oed
    £2.50 ychwanegol y person


    Wedi’i adrodd gan seren Harry Potter Rupert Grint, mae’r ffilm gyffrous hon yn archwilio ni fel rhywogaeth yn ymuno gyda bywyd allfydol.

    Ydyn ni’n unig yn y bydysawd? All fod bywyd ar blanedau gwahanol?

    “Spectacular!”
    — adborth o’r gynulleidfa

      Rhagor o wybodaeth

  • + llawer mwy i ddarganfod!

    Bob oedran
    Wedi’i gynnwys ym mhris mynediad


    Mae gennyn ni dros 100 o arddangosion rhyngweithiol i ddarganfod, sy’n agor lan y bydoedd gwyddoniaeth a thechnoleg.

    Gyda pheiriannau anhygoel, dyfeisiau rhyfeddol, posau a phyrth digidol diri — a sleid enfawr — mae yna rywbeth i bawb mwynhau.

      Rhagor o wybodaeth

  Dyddiad am eich dyddiadur

Digwyddiad Noson i Oedolion: Dydd Iau 28 Awst, 7pm

Dydy Techniquest ddim yn unig am blant. Mae’r safle am blant mawr, hefyd.

Mae ein digwyddiad noson hwyr yr haf am oedolion yn cynnwys popeth sydd wedi’u nodi uwchben (heblaw am We Are Aliens), yn ogystal â chyflwyniadau gan ddyfeiswyr enwog, bar ‘pop-up’ ac, wrth gwrs, caws!

  Rhagor o wybodaeth


  Archebwch eich tocynnau Techniquest

©&™ Aardman Animations Limited / Wallace & Gromit Limited 2025. Cedwir Pob Hawl.

 

Pryd?

Pob dydd tan 31 Awst

Hydref 2026
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Dydd Sul
Dydd L
Dydd M
Dydd M
Dydd I
Dydd G
Dydd S
Dydd S
28
29
30
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
1

dyddiadau ar gael

Gweithgareddau eraill yn Techniquest