Techniquest

Mae rhywbeth gyffrous yn digwydd mewn dosbarthiadau ar draws yr ardal Caerdydd yn ystod yr haf — a dydy e ddim yn ffuglen wyddonol, mae’n lled-ddargludyddion!

Mae Techniquest nawr dros hanner ffordd trwy dosbarthu ei weithdy newydd sbon ‘Exploring Compound Semiconductors: From Big Tech to Tiny Devices’ wedi’i ddylunio am blant ysgol rhwng 9 ac 11 mlwydd oed — ac mae’r ysgolion sydd wedi gwahoddu ein tîm Addysg yn barod yn teimlo’r effaith. Mae’r cynllun rhyngweithiol yn helpu bobl ifanc i ddarganfod hud y byd microsgopig sy’n bŵeri ein bywydau fodern — o ffonau symudol i robotiaid.

Wedi’i lansio gyda’r aneliad o greu dealltwriaeth gynnar o gwmpas gyrfaoedd yn y diwydiant lled-ddargludyddion, mae’r gweithdy yn llawn gweithgareddau ymarferol, heriau hwylus sy’n cynnwys Hexbugs, ac arddangosiad o robot glyfar sy’n amlygu’n wir pa mor defnyddiol — a chŵl — mae lled-ddargludyddion cyfansoddyn.

Dwedodd Elinor Rickus, athrawes yn Ysgol Gymraeg Ifor Hael yng Nghasnewydd: “Mwynheuodd y plant yn fawr iawn.

“Roedd pob un ohonynt wedi ymgysylltu gyda’r gweithgareddau ymarferol ac yn gyffrous i ddysgu am yr holl offer technolegol.

“Mae gweithdai fel hyn yn rhoi cyfleoedd i blant i gael blas ar wahanol fathau o sgiliau sy’n angenrheidiol am y byd gwaith cyfoes ac i feithrin awydd i ddysgu pethau newydd.”

O archwilio meicrosgopau digidol a phrofi dargludedd gyda offer pob-dydd, i adeiladu bwrddiau cylched trydanol yn defnyddio LEGO, mae’r gweithdy wedi’i beiriannu i fod yn hwylus, atyniadol a hygyrch.

Mae’r diwydiant lled-ddargludyddion cyfansoddyn yn gyrru newyddbeth yn Ne Cymru, gyda’r Cardiff Capital Region yn chwarae rôl arweiniol yn y dyfodol technolegol y DU. Ond gyda angen am dalent newydd sy’n tyfu, mae’n angenrheidiol bod pobl ifanc — yn enwedig o oedran ifanc — yn gwallu weld eu hun fel rhan o’r dyfodol.

Dydy’r gweithdy ddim yn anelu at danio diddordeb mewn STEM yn unig. Mae’n anelu at blanu’r hadau o uchelgais, a dangos plant bod gyrfaoedd gyffrous mewn egni glan, technoleg gofodol, robotiaid, a dyfeisiau glyfar tu fewn i’w cyrraedd.

“Wnaeth y disgyblion caru’r gweithdy — roeddwn nhw’n llawn diddordeb trwy gydol y dydd a wnaethent nhw fwynhau’r Hexbugs y mwyaf. Roedd y robot hefyd yn boblogaidd!

“Mae gweithdy anffurfiol fel hwn yn helpu nhw i rannu syniadau ac yn tanio’u chwilfrydedd. Maen nhw’n dysgu heb sylwi, ac mae’r gweithdy hefyd yn galluogi i ddisgyblion o unrhyw lefel ffynnu.”

Mae’r dyfodol yn gyffrous, ac mae’n cael ei oleuo gan y cenhedlaeth nesaf o weithwyr broffesiynol STEM ifanc. Pwy gall ddweud, efallai mae’r dyfeisiwr technoleg fawr nesaf yn eistedd mewn dosbarth yn Ne Cymru nawr, yn cael ei ysbrydoli gan ei brofiad cyntaf gyda lled-ddargludydd cyfansoddyn.