Mae Techniquest yn dathlu 30 mlynedd yn ei gartref eiconig ym Mae Caerdydd — adeilad sydd wedi croesawu miliynau o ymwelwyr ac wedi datblygu i fod yn arwyddnod o ymrwymiad STEM yng Nghymru.
I nodi’r achlysur, mae cynllun newydd wedi’i lansio i helpu ysgolion parhau’r traddodiad o wneud taith i Techniquest rhan hanfodol o’u rhaglenni blynyddol.
Er cafodd Techniquest ei ffurfio yn 1986 — bron 40 mlynedd yn ôl — ni symudodd y canolfan i’r safle ar Stryd Stuart nes 1 Mai 1995. Wnaeth y canolfan newydd ger y glannau ym Mae Caerdydd cynrychioli cam enfawr ymlaen.
Roedd yr adeilad nodedig, y canolfan darganfod gwyddoniaeth bwrpasol cyntaf y DU, yn ymgorffori cenhadaeth Techniquest: i wneud gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) llawn hwyl ac yn lle hygyrch i bawb, ac i droi’r cyfeiriad ar y nifer o blant a oedd yn gwrthod y syniad o yrfa mewn STEM, neu addysg bellach mewn unrhyw bwnc STEM.
Wythnos yma, wnaeth Colin Johnson a Harry White — aelodau blaenorol o’r Tîm Gweithredol, a Rudi Plaut, Cadeirydd y Bwrdd cyntaf Techniquest — cyflwyno cerdyn pen blwydd arbennig i’r Prif Swyddog Gweithredol cyfredol, Sue Wardle a Chadeirydd y Bwrdd, Dan O’Toole i ddathlu’r dydd.
Wedi’i lenwi â negesau o bobl oedd yn weithio yn Techniquest pan symudodd yn canolfan yn 1995, esboniodd Colin Johnson, Prif Swyddog Gweithredol blaenorol o 1997–2004, pa mor bwysig oedd rhannu’r cerdyn pen blwydd nawr:
“Roeddwn ni eisiau marcio’r dyddiad gyda’n holynwyr yn Techniquest, ar amser pan mae’n teimlo mor bwysig bod gwyddoniaeth a phynciau STEM eraill yn ddymunol i bawb: pan gall y gwir gwasgaru rhai o’r wybodaeth anghywir sydd mor gyffredin yn ein cymdeithas fodern.
“Yn ôl yn y 90au, roedd symudiad Techniquest i’r adeilad ar Stryd Stuart yn newid mawr o’r safle syml y wnaeth cau rhyw dwy wthynos yn gynt — a chromlin dysgu serth i ni gyd! Mae cydweithwyr ar dros y blynyddoedd wedi codi i’r her yn wych, ac mae’n wrogaeth iddyn nhw bod, ar ôl i filiynau o ymwelwyr fynychu Techniquest, mae’r adeilad dal yn edrych yn ardderchog, ac mae nifer o’r ymwelwyr yn gadael â gwen ar eu hwyneb. Maen nhw wedi gwneud cyfraniad enfawr i addysg, i hamdden ac i gynrychioli Cymru. Gobeithio ei fod yn parhau!”
Dwedodd Cadeirydd y Bwrdd blaenorol o 1986–2002, Rudi Plaut:
“Mae’r degawdau o gymorth ymarferol Techniquest am addysg gwyddoniaeth yng Nghymru yn llwyddiant enfawr. Bydd neb erioed yn gwybod faint o fywydau sydd wedi’u cyfoethogi neu faint o yrfaoedd sydd wedi’u dechrau trwy ysbrydoliaeth a wnaeth cychwyn yn Techniquest.”
Dwedodd Sue Wardle:
“Mae’n arbennig i ddarllen toriadau o bapur newydd hen o’r amser pan oedd yn glir doedd y blant ddim yn achub y cyfleoedd roedd y byd STEM yn agor. Rydyn ni’n diolchgar bod y sefyllfa wedi gwella ers hynny, ond yn anffodus mae yna dal ffordd hir i fynd.
“Am fron 40 mlynedd, mae Techniquest wedi arwain addysg STEM rhyngweithiol — gyda 30 o’r flynyddoedd yma ar Stryd Stuart. Rydyn ni’n chwarae rôl hanfodol yn nirwedd addysg Cymru trwy ysbrydoli chwilfrydedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, a mathemateg, a thrwy agor ffyrdd am bobl ifanc i yrfaoedd STEM yn y dyfodol. Yn amser pan mae nifer o ddisgyblion yn wynebu rhwystrau i addysg STEM, a phan mae’r dirwedd ariannu am brofion addysg mor heriol na fyth, mae ein cenhadaeth llawn cymaint mor bwysig nawr nag oeddi yn 1995.
“Wrth ddweud hynny, rydyn ni wedi cyflwyno Catalyddion, sef cynllun newydd am fusnesau sydd eisiau helpu disgyblion o ardaloedd yn y wlad sydd dan anfantais, i alluogi nhw ymweliad i Techniquest i archwilio pynciau STEM mewn gosodiad anffurfiol, a chael eu hysbrydoli i gymryd eu camau nesaf yn y byd diddorol hwn.
“Rydyn ni’n ymwybodol o’r buddion enfawr gall ymweliadau fel hyn darparu, a pha mor hapus mae athrawon a’u disgyblion yw i’w derbyn — felly wrth i’r adeilad troi 30 mlwydd oed, rydyn ni’n gobeithio gallwn ni lluosogi’r rhif hwnna gan 10 a chroesawi o leiaf 300 dosbarth i ni yn y flwyddyn nesaf gyda chymorth o fusnesau sy’n gofidio am ddatblygu potensial y bobl ifanc yng Nghymru fel ni”
Gall fusnesau cefnogi dosbarth llawn ar daith archwiliad I Techniquest — gan gynnwys trafnidiaeth a gweithgaredd wyddoniaeth fyw ychwanegol — am £500. Os oes gennych chi ddiddordeb yn y Cynllun Catalyddion, cysylltwch â: [email protected].